11/01/2016

Wel mae Farage 'yn y ddinas'

Hen bryd iddo  ddechrau ateb cwestiynau a rhoi ffeithiau nid datganiadau gwag
Bydd gadael yr UE y gambl mwyaf yn fy oes i.

Mae UKIP yn dra effeithiol pan yn defnyddio tactegau sydd yn codi bwganod ac yn pwyntio allan y problemau o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a hefy manteisio ar anhapusrwydd pobl gyda cyflwr presennol gwleidyddiaeth Prydain. Ond pan herir hwy ynghylch sut fywyd fyddai yn gwynebu Cymru, ei phobl a chymunedau tu allan i’r UE nid oes dim ateb ganddynt. 
  
Felly rhaid inni bob amser herio UKIP, a hefyd y Toriaid sydd yn erbyn UE ac yn dadlau fyddai bywyd yn well tu allan, i ddweud wrth bobl Cymru beth fydd eu dyfodol yn mynd i fod. Beth a ddigwydd i’r buddsoddi, y twf economaidd, y dyfodol ar gyfer busnesau megis amaethyddiaeth a’r economi wledig ac ati?  Ar hyn o bryd y cyfan a geir oddi wrthynt yw ystrydebau a cyffredinoli gwag ac amwys.

Gan fod yna gymaint o ansicrwydd pam felly dylasai pobl Cymru neidio i fewn i’r tywyllwch? Pam cymeryd risg mor enfawr a gosod mewn perygl beth yr ydym yn gwybod o sicrwydd yn awr? Pan ddaw y dydd ar ôl y refferendwm ac os digwydd bydd y bleidlais yn ‘ie’ i aros yn y UE , yna yr ydym yn gwybod lle yr ydym. Bydd bywyd yn mynd yn ei flaen, a mwy na thebyg bydd rhai newidiadau i'n perthynas gyda’r UW wedi'u sicrhau drwy'r trafodaethau.

Ond os canlyniad i’r pleidleisio fydd ‘Na’ a thrwy hynny byddwn yn gadael yr UE, beth wedyn? Ni fydd dim troi'n ôl a newid meddwl ychydig flynyddoedd wedyn – go wahanol i adael clwb golff, plaid wleidyddol neu berthynas.

Heb os nac oni bae byddai ymadael yn dra anniben ac yn cymeryd amser i’w gwblhau.  Mae Cytuniad Lisbon yn caniatáu 2 flynedd neu fwy ar gyfer digwyddiad o'r fath ond nid yw yr UE yn nodedig am gyrraedd penderfyniadau cyflym. Yn sicr yn y sefyllfa pan fod angen trafod gyda 28 o wladwriaethau eraill sy'n gysylltiedig gyda amrywiaeth eang iawn o gytundebau, protocolau, cytundebau masnachol a chysylltiadau rhyngwladol eraill i ddatrys fydd trafodaethat rhwng Prydain a'r UE yn debygol o barhau am fwy na hynny.

Meddyliwch am yr ansicrwydd a'r effaith ar buddsoddiad, y marchnadoedd ariannol, gwerth y bunt, busnes a masnach, amaethyddiaeth a llawer mwy.

Felly beth a wyddom nawr?

Mae'r Deyrnas Unedig (DU) yn rhan o farchnad o 500 miliwn o bobl, ac mae gennym gytundebau masnach rydd gyda 50 o wledydd eraill. Hefyd ma hanner yr hyn rydym yn gwerthu tua £226bn yn mynd i'r UE ac mae 3 miliwn o swyddi ym Mhrydain yn gysylltiedig â masnachu mewnol gyda 28 o wledydd. O’r ochr arall buddsoddir £26bn y flwyddyn yn y DU gan wledydd yr UE.

Rhwng 2007 a 2013 mae’r Gronfa Strwythurol yr UE yn cael effaith amlwg ar ansawdd ein bywyd yma yng Nghymru. Fe gafwyd buddsoddiad o dros £1.9bn sy'n cwmpasu tua 290 o prosiectau a gyda arian Llywodraeth Cymru ac yn y blaen mae’r cyfan yn cynrychioli £3.7bn o fuddsoddi mewn prosiectau. Mae'r cyfan wedi wedi helpu i gyflawni manteision pwysig ar gyfer pobl, busnesau, yr Amgylchedd a chymunedau.

Mae'r cyfan wedi cynorthwyo dros 190,000 o bobl i ennill cymwysterau a sgiliau ar gyfer eu dyfodol ac mae dros 62,800 wedi cael gwaith. Yn ogystal mae dros 10,400 o fentrau wedi eu cefnogi. Eisoes mae tua £2 biliwn o gymorth o’r Gronfa Strwythurol wedi cael ei gytuno ar gyfer y cyfnod hyd at 2020. Y cwestiwn i UKIP a Farage ydy faint fyddai Llywodraeth Prydain yn ei wario ar hyn i gyd os digwydd i Gymru gael ei hunan y tu all i'r UE? 

Yn olaf amlinellodd astudiaeth ddiweddar gan ‘Ewrop Agra’ am bryder y dyfodol i amaethyddiaeth a'r economi gwledig os fydd i Prydain adael yr UE. Ar hyn o bryd, mae'r diwydiant ffermio yn derbyn rhwng £3.5bn a £4bn o gymorth ariannol. Yn ol yr astudiaeth rhagwelir byddai ffigwr lefel o gymorth i amaethyddiaeth yn gosti ychydig dros £1bn. Mae hyn yn ôl amcan gyfrif Llywodraeth y DU eu hunain.

Ar y sail yna bydd y dyfodol ar gyfer yr economi wledig yng Nghymru yn llwm iawn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Felly beth ydy cynnigion UKIP ynglyn a hyn i gyd?


Dyma' fath o gwestiynnau sydd rhaid i Nigel Farage eu hateb ac mae yn hen bryd i UKIP ddechrau rhoi enghreifftiau o'r cyfreithiau sydd ar hyn o bryd yn seiliedig ar Frwsel y byddent yn ei diddymu pe bai Prydain yn gadael yr UE.

Beth am y canlynol? -  
Cyfreithiau cyflog cyfartal, dylid cael gwared ar hynny?
Deddfau ar gemegau?
Deddfau ar symud anifeiliaid ?
Deddfau ar draethau mor glân?

A byddai UKIP eisiau gweld y cyfreithiau hyn yn cael eu dileu? Ac os felly beth fyddai'n cymryd eu lle? Sut fyddai hynny'n gwella pethau?

Yna beth am gyfreithiau a sefydliad y farchnad sengl? Beth yn union yw sail sydd gan UKIP sy'n tybio y bydd mynediad i'r farchnad sengl yn dal i fod yn rhad ac am ddim heb Lawer o gost i'r DU ar ôl inni adael?

Pam nad yw’r ewrosgeptigiaid yn deall nad y cwestiwn masnachol hanfodol yw a allwn ddal i brynu ceir o’r Almaen ond pa delerau y gallwn werthu iddynt ein gwasanaethau ariannol (a phopeth arall).

Cwestiwn arall ydy pam yw Norwy (tu allan i'r UE) yn talu mwy y pen i UE na Prydain? Hefyd maent megis y Swistir ac eraill yn gorfod derbyn telerau a safonau UE os ydynt am masnachu gyda gwledydd Ewrop. Yr union beth bydd yn digwydd i Prydain pan byddwn y tu allan – pa fath o annibyniaeth ydy yna?

Os yw gadael yr UE yn syniad da, pam nad ydy’r Almaen yn dymuno gadael yr UE? Gan derbyn y dadleuon a gyflwynwyd gan UKIP ac eraill sydd am adael yr UE byddai gan yr Almaen fwy i ennill na neb bron.

Os yw gadael yr UE yn syniad da pam mae dim ond Arlywydd Putin sydd eisiau inni adael? Tra bod Arlywydd Obama, Prif Weinidog India a'r Llywydd Tsieineaidd yn erfyn ar i Prydain aros yn yr UE.

Sut bydd gadael yr UE yn gwella sefyllfa Prydain a Chymru yn nhermau gweithjgareddau sy’n ymwneud ac ymchwil gwyddonol a thechnolegol?


Bydd gadael yr UE yn ansefydlog Ewrop. A’i hyn sydd eisiau ar Prydain? -cyfandir ansefydlog ar garreg ein drws a hynny ar adeg pan ydym yn gwynebu pwysau mawr o ran ymfudo, terfysgoedd rhyngwladol a newid hinsawdd byd?

03/01/2016

Cylchlythyr Cyngor Cymru y Mudiad Ewropeaidd

Cymru yn Ewrop

Wales in Europe
Cylchlythyr Cyngor Cymru y Mudiad Ewropeaidd

Newsletter of the Wales Council for the European Movement


Annwyl Aelodau a Cefnogwyr/Members and Supporters,

2016 will be a momentous year. At the time of writing it looks as though the British people will be asked in a referendum held in early summer whether they wish to remain in the European Union of which Britain has now been a member for 43 years.

If the answer is ‘yes,’ then life will continue much as we know it now. Little will change. Our international partners across the Atlantic,
in Asia and in Europe will be relived. So will the businesses that form the
economic  backbone of Britain.

But if we vote to leave, then who knows what will happen? What will not be the case is that Britain will be transformed into a land of milk and honey.

Assertion that all will be well is no substitute for hard evidence that it won't.

And if Scotland were to vote to remain in the EU, while elsewhere the vote was to leave, that could trigger a second referendum on independence, splitting the UK and reducing our influence in the world even further. So much hangs in the balance. It will truly be a momentous year.

That is why it is so vital that every member, every supporter, tries to recruit others to the vital goal of securing a ‘Yes’ vote in the referendum.

The campaigns are gearing up now with the European Movement contributing vigorously to the ‘Stronger In’ campaign. ‘Stronger In’ - see website details below will also be able to advise how you can become involved in the single unified campaign to keep Wales in the European Union.

In this newsletter we rehearse some of the key arguments and statistics from a Wales perspective, beginning with a contribution from . . .

Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AM
Mae y manteision o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE)  yn niferus a gwych. Yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar.

Rydym wedi bod yn glir bob amser yn ein hawydd i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.  
Er fod pobl ddim bob amser yn sylweddoli hynny, mae'r UE yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau bob dydd pobl Cymru - mae'n adeiladu ffyniant ein cenedl, yn gwneud penderfyniadau am ein dyfodol economaidd ac yn pasio cyfreithiau sy'n effeithio arnom i gyd.

Dylai pwysigrwydd y farchnad sengl byth cael ei gymryd yn ganiataol. Mae'n ardal masnach rydd mwyaf y byd yn nhermau CMC a partner masnachu mwyaf y DU a Cymru.
Mae busnesau yn yr UE yn mwynhau farchnad "cartref" ychydig dros 500 miliwn o bobl gyda’r gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb tariffau neu gyfyngiadau eraill a gyda safonau diogelwch cyffredin.

Mae'r farchnad sengl yn farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru – yn 2014 yn unig  ‘roedd gwerth allforio nwyddau o Gymru i wladwriaethau eraill yr UE bron £5.8bn. Mae’r ymchwil diweddara yn dangos fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i'r farchnad sengl.

Y brif ffactor o ran mewnfuddsoddi yn ein gwlad yw’r farchnad sengl. Bellach erbyn 2015, gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru, sydd yn cyflogi dros 55,000 o bobl.

Drwy rhaglenni Ewropeaidd eraill, megis y Gronfa Strwythurol a’r PAC, cynnigir cyfleoedd i gefnogi a datblygu economi Cymru, yn enwedig yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae Cymru wedi elwa o biliynau o bunnoedd o gronfeydd yr UE dros y blynyddoedd. Yn y flwyddyn hon yn unig, yr ydym wedi buddsoddi £425 miliwn o Gronfa Strwythurol yr UE i gefnogi ein economi a'r farchnad lafur.

Hefyd, ceir mae manteision sylweddol o gronfeydd yr UE trwy'r Polisi Amaethyddol sy'n darparu tua £200 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i fwy nag 16,000 o fusnesau ffermio yng Nghymru.

Felly mae y manteision o fod yn rhan o'r UE yn niferus a gwych. Yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar.

‘Free’ Trade
I sometimes wonder whether people, particularly the eurosceptics, who write about free trade and markets understand what they are talking about? Out of the EU, they say, we shall be able to trade freely with whoever we wish without being hindered by EU regulations. Really?

Every market is regulated - you can't just sell whatever you want to anyone. If you buy so much as an electric plug you will see it carries the CE mark that says it conforms to European regulations - in other words that it meets certain safety standards. Many countries use the European standard, but each market will have a standard to which goods must comply. Being in the EU allows us to influence what the European standard should be. It also avoids our having to negotiate with each and every country because we can be part of the global deals brokered by the EU.

If we leave the EU then we shall have to go on complying with the European standards used by so many countries. It is a myth to think that we could manufacture goods willy nilly and other countries would just accept them, regardless of safety matters, or efficiency, or labour laws.

So we shall have to go on complying with European standards regardless of whether we are in the EU. But if we are in then we can work to change the standards; if we are out then we can’t.
------------------------------------------------------------------------------------------------
Neges gan Is-Gadeirydd CCME Gwynoro Jones
Mae yn hen bryd gofyn am atebion gan UKIP

Mae UKIP yn dra effeithiol pan yn defnyddio tactegau sydd yn codi bwganod ac yn pwyntio allan y problemau o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a hefy manteisio ar anhapusrwydd pobl gyda cyflwr presennol gwleidyddiaeth Prydain. Ond pan herir hwy ynghylch sut fywyd fyddai yn gwynebu Cymru, ei phoble a chymunedau tu allan i’r UE nid oes ganddynt dim ateb.
 
Felly rhaid inni bob amser herio UKIP a hefyd y Toriaid sydd yn erbyn UE ac yn dadlau fyddai bywyd yn well tu allan i ddweud wrth bobl Cymru beth yw eu dyfodol yn mynd i fod. Beth a ddigwydd i’r buddsoddi, y twf economaidd, y dyfodol ar gyfer busnesau megis amaethyddiaeth a’r economi wledig ac ati?  Ar hyn o bryd y cyfan a geir oddi wrthynt yw ystrydebau a cyffredinoli gwag ac amwys.

Mae yna gymaint o ansicrwydd pam felly neidio i fewn i’r tywyllwch? Pam cymeryd risg mor enfawr a gosod mewn perygl beth yr ydym yn gwybod o sicrwydd yn awr? Pan ddaw y dydd ar ôl y refferendwm ac os bydd y bleidlais yn ‘Ie’ i aros yn y UE , yna yr ydym yn gwybod lle yr ydym. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen, a mwy na thebyg bydd rhai newidiadau i'n perthynas gyda’r UE wedi'u sicrhau drwy'r trafodaethau.

Ond os y canlyniad i’r pleidleisio yn ‘Na’ a thrwy hynny byddwn yn gadael yr UE beth wedyn? Ni fydd dim troi'n ôl a newid meddwl ychydig flynyddoedd wedyn – go wahanol i adael clwb golff, plaid wleidyddol neu berthynas.

Heb os nac oni bae byddai ymadael yn dra anniben ac yn cymeryd amser i’w gwblhau.  Mae Cytuniad Lisbon yn caniatáu 2 flynedd neu fwy ar gyfer digwyddiad o'r fath ond nid yw yr UE yn nodedig am gyrraedd penderfyniadau cyflym. Yn sicr yn y sefyllfa pan fod angen trafod gyda 28 o wladwriaethau eraill sy'n gysylltiedig gyda amrywiaeth eang iawn o gytundebau, protocolau, cytundebau masnachol a chysylltiadau rhyngwladol eraill i ddatrys fydd trafodaethat rhwng Prydain a'r UE yn debygol o barhau am fwy na hynny.

Meddyliwch am yr ansicrwydd a'r effaith ar buddsoddiad, y marchnadoedd ariannol, gwerth y bunt, busnes a masnach, amaethyddiaeth a llawer mwy.

Felly beth a wyddom nawr?

Mae'r Deyrnas Unedig (DU) yn rhan o farchnad o 500 miliwn o bobl, ac mae gennym gytundebau masnach rydd gyda 50 o wledydd eraill. Hefyd ma hanner yr hyn rydym yn gwerthu rhai £226bn yn mynd i'r UE ac mae 3 miliwn o swyddi yn gysylltiedig â masnachu gyda 28 o wledydd. O’r ochr arall buddsoddir £26bn y flwyddyn yn y DU gan wledydd yr UE.

Rhwng 2007 a 2013 mae’r Gronfa Strwythurol yr UE yn cael effaith amlwg ar ansawdd ein bywyd yma yng Nghymru. Fe gafwyd buddsoddiad o dros £1.9bn sy'n cwmpasu tua 290 o  prosiectau a gyda arian Llywodraeth Cymru ac yn y blaen mae’r cyfan yn cynrychioli £3.7bn o fuddsoddi mewn prosiectau. Mae'r cyfan wedi wedi helpu i gyflawni manteision pwysig ar gyfer pobl, busnesau, yr Amgylchedd a chymunedau.

Mae'r cyfan wedi cynorthwyo dros 190,000 o bobl i ennill cymwysterau a sgiliau ar gyfer eu dyfodol ac mae dros 62,800 wedi cael gwaith. Yn ogystal mae dros 10,400 o fentrau wedi eu cefnogi. Eisoes mae tua £2 biliwn o gymorth o’r Gronfa Strwythurol wedi cael ei gytuno ar gyfer y cyfnod hyd at 2020.

Yn olaf amlinellodd astudiaeth ddiweddar gan ‘Ewrop Agra’ am bryder y dyfodol i amaethyddiaeth a'r economi gwledig os fydd i Prydain adael yr UE. Ar hyn o bryd, mae'r diwydiant ffermio yn derbyn rhwng £3.5bn a £4bn o gymorth ariannol. Yn ol yr astudiaeth rhagwelir byddai ffigwr lefel o gymorth i amaethyddiaeth yn gosti ychydig dros £1bn. Mae hyn yn ôl amcan gyfrif Llywodraeth y DU eu hunain.

Ar y sail yna bydd y dyfodol ar gyfer yr economi wledig yng Nghymru yn llwm iawn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
Farmers and Consumers

The other day I was at a meeting when a farmer said - you wouldn't believe the volume of EU regulations the agricultural industry had to satisfy, pestocides, water quality, foodtsffs, animal welfare etc etc. If we pulled out we could lose all these and have our own regulations

'I asked him how long he thought it would take the government to get around to rewriting the statute book with a new set of regulations for British farmers and whether given the potential conflicts between farners, enviromentalists, animal welfarists, consumers, etc, the government might simply just leave the existing regulations in place rather than having to renegotiate everything again?
He hadn't thought of that.
------------------------------------------------------------------------------------------------
Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at ganlyniadau difrifol yng nghefn gwlad.

Petai UKIP ac eraill yn y blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol ffermio, busnesau, gwasanaethau, a economi cymunedau gwledig Cymru.

I bwysleisio’r ffaith, ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros ar cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y Deyrnas Unedig (DU) tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai yn wir dyfodol llwm yn gwynebu ffermio gan mae dim ond tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o gymorth.

Hefyd ar hyn o bryd, derbynnir gan y DU tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer busnesau ffermio a cefn gwlad. Y dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud pe byddai
Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i amaethyddiaeth.

Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm

Heb os mae y gwahanol bolisïau i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei
hyrwyddo gan yr Undeb Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig, cymunedau, treftadaeth a thirwedd. Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig cyfraniad amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig eraill.

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn drychineb i gefn gwlad.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Young European Movement
Cardiff Young European Movement (CYEM) is the young members branch of the European movement in Cardiff. The aim of CYEM is to work for a staying in vote in the upcoming referendum on EU membership in the UK. Also to maintain close cultural links with other (YEM) branches across the UK, and Young European Federalists (JEF) across Europe.

We do not have an date set let but their will be an social event sometime in the end of January. Contact: Michailcardiff@gmail.com

AGM/Conference.
No date has been fixed yet for the AGM but we expect this to be in March, probably in Brecon
------------------------------------------------------------------------------------------------
Websites:
European Movement UK: euromove.org.uk
Young European Movement: yem.org.uk
Stronger In Campaign www.strongerin.co.uk
British Influence www.britishinfluence.org
Gwynoro Jones - gwynorojones@blogspot.co.uk
Facebook: Yes Europe Wales,
Ie Dros Ewrop
Wales for Europe
Cymru Dros Ewrop
Yes to Staying in EU
Peter Sain ley Berry, Treasurer and Newsletter Editor

wales@euromove.org.uk