26/04/2019

Fideo yn cyflwyno y llyfr 'Gwynoro a Gwynfor'

Pam cyhoeddi'r llyfr sy'n croniclo brwydrau ffyrnig Caerfyrddin 1966-74  


Dyma fideo deng munud o hyd, sy'n dweud pam i ni gyhoeddi’r llyfr, Gwynoro a Gwynfor. Mae’r llyfr yn croniclo’r brwydrau gwleidyddol yn etholaeth Caerfyrddin rhwng 1966 a 1974, gan ganolbwyntio ar y frwydr bersonnol rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans, y ddau a fu’n Aelodau Seneddol yn yr etholaeth yn y cyfnod dan sylw. Mae’r llyfr yn dangos yr atgasedd a’r chwerwder a oedd mor amlwg drwy’r cyfnod, nid yn unig rhwng y ddau unigolyn ond rhwng eu pleidiau â’u cefnogwyr. Go brin bod Cymru wedi gweld cyfnod mor chwerw yn wleidyddol.




Mae’r llyfr yn dweud stori Etholiad Cyffredinol 1966, pan ennillodd Plaid Cymru ei sedd seneddol gynta, trwy Gwynfor Evans, tair blynedd o frwydro gwleidyddol yn arwain at Etholiad `Cyffredinol 1970, pan gipiodd Gwynoro’s sedd oddi ar Gwynfor. Dyma gyfnod materion fel Arwisgo Tywysog Cymru, ymgyrchoedd bomio i enill cenedlaetholdeb a bwriad Gwynfor i ymweld a Fietnam yn stod y rhyfel rhwng y wlad honno â’r Unol Daleithiau. Caiff y straeon yma sylw yn y llyfr.
Yn 1974 roedd y ddau yn brwydro yn erbyn ei gilydd eto, nid unwaith ond ddwywaith. Bu dwy Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Gwynoro enillodd y gynta, o dair pleidlais yn unig. Gwynfor ennillodd yr ail. 

Wrth adrodd stori’r ddau unigolyn, mae Gwynoro hefyd yn esbonio agwedd y Blaid Lafur tuag at ddatganoli ac yn sôn iddo gael ei ddad-rithio gan y Blaid Lafur yn ei flynyddoedd cynta fel Aelod Seneddol. 

Daw’r llyfr i ben wrth i Gwnoro asesu ffordd mae’n ymateb heddi i ddigwyddiadau’r cyfnod, sy’n cynnwys ystyried ei berthynas gyda Gwynfor â’i agwedd tuag at 'annibyniaeth' i Gymru. Daw i’r amlwg nad oedd y ddau mor wahanol a hynny i’w gilydd wedi’r cyfan.

23/04/2019

Darlith ar Parch Philip Jones Porthcawl

Parch Robert Ellis yn dynwared Parch Philip Jones, Porthcawl


Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny


Fel y dwedais cynt wrth cyflwyno record Diwygiad 1904 cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.


Dyma record arall nes i brynu yn 1958. Mae’n dweud stori’r Gymru y cefais fy magu ynddi, sydd mor wahanol i Gymru heddi. Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny, mor ddylanwadol yn eu cymunedau ag yr oedd y sêr roc a phop newydd. Ro’dd nifer, os nad y rhan fwya, yn actorion ac yn ddramodwyr eu dydd.




Un o’r rhai mwyaf blaenllaw o’dd y Parch. Philip Jones, o Taibach, ger Port Talbot. Byddai’n denu torfeydd enfawr i’w glywed yn pregethu. Ro’dd yn weinidog yn Abergwaun, Llanelli, LLandeilo a Phontypridd, cyn ymddeol i Borthcawl.

Yn y recordiad yma, mae gweinidog ro’ ni’n ei adnabod yn dda yn y 50au â’r 60au, Y Parch. Robert Ellis, Tycroes, Dyffryn Aman, yn pregethu yn null Philip Jones. Mae hyn hefyd yn dangos dylanwad y pregethwyr mwyaf adnabyddus. Ro’dd pregethwyr eraill am recordio eu pregethau nhw, fel rhywfath o deyrnged – fel ma cerddorion yn gwneud heddi!

08/04/2019

Diwygiad 1904

Atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru



Ro’ ni yn fy arddegau pan ro’dd y diwylliant roc a phop yn blaguro, yn gyntaf Radio Luxembourg, yna Radio Caroline ac yn ddiweddarach, y BBC. Dyma flynyddoedd Fats Domino, Buddy Holly, Elvis, Cliff Richard, Lonny Donnegan, Dusty Springfield, Lulu, Twiggy i enwi ond rhai. Ro’dd hyd yn oed gwisg teddy boy ‘da fi!  

Y rhaglenni teledu ro’ ni’n eu mwynhau oedd ‘Six Five Special’ ac yna ‘Top of the Pops’.  Hefyd, ro’dd Canu Gwlad yn dechrau dod yn boblogaidd. Felly, dyma fy mywyd yn Foelgastell, Sir Gar, ar ddiwedd y Pumdegau.



Ond ro’dd dylanwadau eraill, yr un mor gryf, arna’i hefyd. Cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.

Felly, ro’dd ‘Craig yr Oesoedd’ a ‘Rock and Roll’ yn gorwedd ochr yn ochr â’i gilydd yn ddigon cyffroddus yn fy mywyd. Ac er gwaetha’r fagwraeth grefyddol, do’dd fy rhieni, na’m mamgu â’m tadcu, ddim yn credu bod y fath ddeuoliaeth yn unrhyw broblem.

Ma’r recordiad yma o 1958 yn adlewyrchu bywyd capel y Gwynoro ifanc. Mae’n dangos agwedd o fywyd Cymru sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu. Dw i wedi bod yn awyddus i gynnwys y recordiad ar fy sianel YouTube ers amser maith er mwyn atgoffa pobol o’r Gymru dw i’n ei chofio – gwlad sy’n wahanol iawn i Gymru heddi, heb os.

Mae’r recordiad yma’n cyflwyno atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru, sef ‘Diwygiad 1904’. Dwi’n cofio siarad gyda nifer ym mhentre Foelgastell a oedd yn cofio’r Diwygiad. Fe ddechreuodd yng nghapel Moriah, Casllwchwr ar Tachwedd 6 1904, parodd am dros flwyddyn a lledodd trwy gapeli a chymunedau Cymru. Ro’dd sôn amdano drwy’r byd a phapurau newydd yn dweud stori’r ffeneomena ysbrydol yma. Dyma ddyddiau clybiau rygbi yn cau er mwyn cynnal cyfarfodydd pregethu a gweddi!