26/05/2019

Dyfyniadau o lyfr Gwynoro a Gwynfor.


Ymateb cefnogwyr Gwynfor i fuddugoliaeth Gwynoro yn 1970.
Fe’m rhwystrwyd rhag siarad o falconi’r neuadd oherwydd ymddygiad y dorf. Dyna sydd yn arferol i’r ymgeisydd buddugol, wrth gwrs, ond chefais i mo’r cyfle. Doedd dim llawer o wahaniaeth gen i ar y noson, roedd blasu’r fuddugoliaeth yn ddigonol.
Ond daeth yn amser meddwl am adael Neuadd y Dre. Roedd yr heddlu yn ansicr iawn a ddylen i a Laura fynd allan o gwbl. Dywedwyd wrthym nad oedd yn saff i ni fynd trwy’r drysau ffrynt ac na allen nhw warantu ein diogelwch.
Ar ôl ennill o 3 pleidlais yn etholiad Chwefror 1974.
Ar ôl cyrraedd adref, aeth y ffôn rhyw chwech gwaith gyda lleisiau gwahanol yn chwythu bygythion i’n lladd neu niweidio’n ddifrifol. Fe adroddwyd y digwyddiadau i’r heddlu, ac am y 72 awr nesaf codwyd bob neges ffôn ganddynt yn swyddfa’r heddlu.



Yr Arwisgo
Heb os fe siomwyd a diflaswyd nifer fawr o bobol gan ddiffyg cefnogaeth Plaid Cymru i’r Arwisgo. Ond yr hyn a wnaeth pethau’n llawer gwaeth oedd penderfyniad Gwynfor i beidio â mynd i’r seremoni ei hun…Ond roedd rhagor o halen i ddod i’r briw, a Gwynfor ei hun roddodd yr halen yno! Er ei fod ar ymweliad prin â San Steffan ar ddiwrnod yr Arwisgo, gwnaeth yn siãr y byddai’n ôl yn ei etholaeth i groesawu’r Tywysog Cymru newydd ar ei daith i Gaerfyrddin. Dyna un o gamgymeriadau mwyaf bywyd gwleidyddol Gwynfor. Roedd pobol wedi dod i dderbyn na fyddai yn y seremoni. Ond, doedden nhw ddim yn barod i dderbyn ei fod yn fodlon cwrdd â’r tywysog pan fyddai ei daith ar ôl yr Arwisgo yn cyrraedd Caerfyrddin.
Fietnam
Doedd Plaid Cymru ddim yn unfrydol ei chefnogaeth i fwriad Gwynfor i ymweld â’r wlad. Roedd rhai, yn naturiol ddigon, yn pryderu am ei ddiogelwch ac yn wir am ei fywyd. Ar lefel ideolegol, credai adain oedd fwy i’r dde yn y Blaid y byddai’r ymweliad yn cael ei ddehongli fel cefnogaeth i’r garfan gomiwnyddol oedd yn brwydro yn erbyn yr Unol Daleithiau. A phryder arall, oedd yn berthnasol i fi yn etholaeth Caerfyrddin, oedd y byddai ymweliad tramor o’r fath yn atgyfnerthu’r ddelwedd roedd nifer yn credu bod Gwynfor yn ei chyflwyno ohono’i hun, sef fel yr Aelod dros Gymru, rhyw fath o arweinydd cenedlaethol, yn hytrach na’r Aelod Seneddol dros etholaeth Gaerfyrddin.
Ar lefel fwy gwleidyddol, roedd hwn yn gyfle euraidd i fi daro ambell ergyd i gyfeiriad Gwynfor. Wedi dod ’nôl o Cambodia, siaradodd Gwynfor gryn dipyn am y sefyllfa yn Fietnam yn gyffredinol, gan gynnwys yn Nhñ’r Cyffredin. Dau sylw o’i eiddo wnaeth fy sbarduno i ymateb yn y wasg. Yn gyntaf, ei awgrym mai bai’r Americanwyr oedd rhyfel Fietnam, sef y sylw a wnaeth yn ystod un sesiwn o’r Senedd yn San Steffan. Ac yn ail, ei sylw’n cymharu Plaid Cymru â’r National Liberation Front yn Ne Fietnam. Roedd y ddau sylw yn gwbl wallgo.
Bomio
Gofynnwyd i Gwynfor gondemnio’r defnydd o drais yn enw cenedlaetholdeb. Gwrthododd wneud hynny. Gofynnwyd iddo wneud hynny ar lawr y Tñ Cyffredin hefyd. Gwrthod a wnaeth. Doedd hynny ddim yn syndod i fi. Oherwydd yn syth ar ôl ennill yr isetholiad, dywedodd yn y Times:
The government does not think anyone is serious until people blow up things or shoot others.
Fy ymateb i yn y papurau lleol oedd nodi efallai bod rhywun wedi cymryd Gwynfor Evans o ddifri.
Yn hytrach, yn y Western Mail, ac ar raglen deledu Heddiw, honnodd mai gwaith y Gwasanaethau Cudd oedd y bomio, er mwyn dwyn cywilydd ac anfri ar achos cenedlaetholdeb.



Yr Almaen.
(Roedd nifer o sylwadau yn llyfr Gwynfor, Wales can win, wedi cythruddo Gwynoro. Er enghraifft:)
German invaders could not have caused more than a fraction of the havoc to Welsh national life than the British system had been wreaking for generations.
Gwnaeth sylwadau tebyg pan ymosododd Rwsia ar Tsiecoslofacia. Honnodd bryd hynny fod y gorthrwm a ddioddefodd Cymru trwy law’r Saeson yn waeth o lawer. Wrth gyfeirio at yr Ail Ryfel Byd yn benodol, dywedodd:
At a time when the vast majority of their fellow countrymen had been brainwashed by Britishness... to ask them to kill their fellow human beings for England in these circumstances was, they felt, to become murderers.
Yn y papurau lleol, fe ymosodais ar y fath sylwadau:
Gwynfor can not accept that in both World Wars, a great deal was at stake for the people of Wales, but according to him, these wars were waged ‘not to defend anything of great value to Wales’.
Yr ‘A’ fawr
Mae’r llyfr yn trafod y ddadl ynglyn a’r defnydd o’r gair ‘annibyniaeth’. Mae’n ymwneud â diffinio elfen ganolog gwleidyddiaeth cenedlaetholdeb. Yn y cyd-destun hwnnw, clywn gryn dipyn am annibyniaeth y dyddie yma gan arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price.
Ond o ba lyfr emynau oedd Gwynfor yn canu? Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd Siaradodd Saunders Lewis yn nhermau statws dominiwn ac wedi hynny siaradodd Gwynfor yn nhermau conffederaliaeth.

Doedd annibyniaeth ddim yn rhan o eirfa yr un o’r ddau. Ond roedd yr ymosodiadau ar Blaid Cymru yn y cyfnod sydd dan sylw yn y llyfr hwn yn seiliedig ar y gred bod y Blaid yn galw am Gymru annibynnol.

Beth mae hyn yn ei olygu felly? Plaid genedlaetholgar yn cael ei diffinio yn nhermau galw am Gymru rydd ond dau o’i harweinwyr cyntaf heb ddefnyddio’r gair annibyniaeth o gwbl. Daeth hyn dipyn yn gliriach ar ôl darllen ymhellach.  
“Do not ask for independence for Wales. Not because it is impracticable but because it’s not worth having... we want not independence but freedom and the meaning of freedom in this respect is responsibility’’.

Yn 1976 cyhoeddodd Pennar Davies lyfr ar Gwynfor. Ynddo mae’n crynhoi ei ddealtwriaeth o safbwynt Gwynfor

…’’it is not independence in the form of ‘untarnished sovereignty’ that is Plaid Cymru’s aim but an essential freedom to cooperate and work with other nations’’

 Gwynfor fel gwleidydd
…does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant. Yr argraff ges i oedd ei fod yn wleidydd ac ynddo wendidau amlwg a amharodd ar ei yrfa, yn enwedig ar lefel strategaethol ac o ran ei duedd cyson i or-ddweud!...Cenhadwr brwdfrydig oedd e. Cenhadwr effeithiol ond nid oedd yr effeithiolrwydd hwnnw yn ei droi yn wleidydd da o gwbwl. Amhosib meddwl amdano yn yr un anadl â rhai o fawrion gwleidyddol y cyfnod, fel Clem Attlee, a drawsnewidiodd y Wladwriaeth Les, Aneurin Bevan a’r Gwasanaeth Iechyd, a chyn y ddau hynny, Lloyd George. Mae llawer mwy o enghreifftiau.


09/05/2019


TENSIYNAU A CHASINEB YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU’R 60AU A 70AU

Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans.

Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.


Mae'r hanes yn seiliedig ar archif bersonol sylweddol yr awdur, ac atgofion byw. Mae’r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a 1974 wrth i Gwynoro a Gwynfor Evans gynrychioli’r etholaeth ar wahanol adegau yn y 1970au.

“Dydw i ddim yn credu y bu cyfnod tebyg yng ngwleidyddiaeth Cymru i ganol y chwedegau a dechrau’r saithdegau, sef union gyfnod y brwydro rhwng Gwynfor a fi. Roedd y ddau ohonom, yn hynny o beth, yn lwcus i gael bod yn rhan o’r amser hynny. Roedd yn gyfnod o frwydro a herio’r status quo, yn enwedig ar faterion cyfansoddiadol yn ymwneud â datganoli a statws yr iaith Gymraeg. Dyma gyfnod Tryweryn, Y Blaid Lafur yn ennill etholiad gyffredinol am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, dyddiau trais, bomio, protestio, Cymdeithas yr Iaith a Saunders Lewis yn corddi’r dyfroedd y tu fewn i Blaid Cymru,” meddai Gwynoro Jones.

Er y gwahaniaethau pleidiol, roedd lles eu cenedl yn eu gyrru. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Meddai’r newyddiadurwr Gwilym Owen yn y Rhagair:

“O’r cychwyn cyntaf, doedd yna fawr o gariad brawdol rhwng y ddau fel unigolion na rhwng eu pleidiau chwaith. Roedd yna awyrgylch o wawd a dychan, chwerwedd ac ymgecru personol i’w chanfod yn ddyddiol bron. Yn wir fe ellid honni fod yna gasineb yn bodoli ar bob lefel.”

“Does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant,” meddai Gwynoro.

Mae Gwynoro hefyd yn honni fod yna debygrwydd rhwng y cyfnod cythryblus yna a heddiw, wrth i’r drafodaeth ar ddatganoli ac annibyniaeth i Gymru ac Ewrop fod yn bynciau llosg o hyd:

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r fflam wleidyddol wedi ailgynnau yndda i. Mae gen i flog, sianel YouTube, tudalen Facebook, cyfri Twitter a’r cwbl yn weithgar tu hwnt. Dw i’n annerch unwaith eto, yn enw mudiadau amrywiol fel Ie Cymru. O ganlyniad, mae’n naturiol fy mod yn edrych ’nôl ar y cyfnod pan oeddwn yn Aelod Seneddol. Mae’r awch i wneud hynny yn ôl nawr.”

Erbyn hyn, mae Gwynoro yn cyfaddef ei fod yn cyd-weld gyda Gwynfor Evans ar nifer faterion yn ymwneud â Chymru:

“Mae’n siŵr petai’n fyw heddiw y bydden ni’n cyd-fynd ar sawl peth yng nghyd-destun dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl,” meddai Gwynoro yn ei lyfr.

Maent erbyn hyn yn siarad yr un iaith, gan gynnwys am annibyniaeth Cymru. Yn ôl Gwynoro, nid oedd annibyniaeth i Gymru yn un o ddymuniadau Plaid Cymru yn ystod y 60au a 70au, a chân cymharol newydd yw’r elfen yma o wleidyddiaeth Cymru.

“Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd (Saunders Lewis).” 

Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.

Mae Gwynoro a Gwynfor gan Gwynoro Jones a Alun Gibbard ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).