Mae’n
ymddangos nid oes llawer wedi newid ers yr Etholiad Cyffredinol Mai 2015
Cyn y cyhoeddwyd Pôl
Piniwn terfynol ar gyfer etholiad i'r Senedd neithiwr gwneuthum ragolwg fy hun. Mi ddodais fy syniad am nifer y seddau i bob plaid ar Facebook a Thrydar.
Fy nheimlad greddfol oedd:
Llafur – 27, Plaid Cymru –
14, Ceidwadwyr – 11, UKIP – 6 a'r Democratiaid Rhyddfrydol – 2
Pan ddaeth canfyddiadau'r pôl allan yn ôl adroddiad Roger Scully yr oeddwn allan 2 sedd i Blaid Cymru
(oeddent ar 12) a hefyd 2 ar UKIP (bellach ar 8)
Felly yr oeddwn yn falch
iawn bod fy nheimladau am wleidyddiaeth Cymru dal i fod mewn trefn dda ac nid
oeddwn yn bell oddi ar y marc!
Wrth gwrs mae angen cofio
bod lled y gwall yn y polau hyn +/-3%. Yn ogystal, bydd y nifer a fydd yn
pleidleisio yn chwarae rhan ac yn bwysicach byth sut y bydd y partïon wedi
llwyddo i gael eu cefnogwyr craidd i bleidleisio.
Ond yr hyn sy'n ddiddorol yw
er gwaethaf yr holl drafodaethau a’r dadleuon yn y Senedd a’r ymgyrchu gan bob
plaid drwyddi draw nid yw'r farn wleidyddol wedi newid llawer ers yr Etholiad
Cyffredinol y llynedd. Mi wnes bost ar fy mlog Gorffennaf diwethaf o dan y
pennawd:
Yr adeg
hynny ‘roedd pôl Roger Scully yn Fehefin 2015 yn datgelu'r canlyniad canlynol
ar gyfer seddi i’r Senedd.
Llafur – 29,
Plaid Cymru – 10, Ceidwadwyr – 13, UKIP – 7 a’r Democratiaid Rhyddfrydol – 1
Heddiw yw
diwrnod pleidleisio felly ni af i ymdrin ymhellach ynghylch pam mae pobl Cymru
mor safadwy yn eu safbwyntiau gwleidyddol. Ond mi dynnaf sylw at bost diweddar o
dan y pennawd
'Dim rhyfedd fod gan bobl Cymru llawer mwy o ddiddordeb yn refferendwm yr UE na’r etholiad i’r Senedd 5 Mai’
Mae llai na 5% o bobl yng Nghymru yn darllen papur
newydd Cymraeg
Darllenir y Daily Mail yn fwy rheolaidd gan bedair gwaith fwy o bobl yng Nghymru na'r Western Mail
Darllenir y Daily Mail yn fwy rheolaidd gan bedair gwaith fwy o bobl yng Nghymru na'r Western Mail
Er fod darlledwyr yng Nghymru yn cyrraedd cyfran
lawer mwy o bobl na’r papurau newydd yng Nghymru - mae raglenni newyddion
Llundain yn tra-arglwyddiaethu fel mae y papurau newydd sy'n seiliedig ar Loegr
yn ei wneud’
Mae’n
ddiwrnod pleidleisio heddiw felly gadawaf bethau yn y man a’r lle am nawr.
Wrth reswm
fydd fy sylwadau dros y dyddiau nesaf yn ymdrin ag arwyddocâd y canlyniadau yn
oriau bach y bore. Yr wyf yn sicr y byddwn yn gwynebu amseroedd diddorol!