Bywgraffiad Gwleidyddol


Cyn mynd i’r Senedd ‘roedd yn Swyddog Ymchwil a Cysylltiadau Cyhoeddus i’r Blaid Lafur yng Nghymru a gyda eraill wedi'i ddrafftio tystiolaeth Llafur i'r Comisiwn Brenhinol Crowther/Kilbrandon ar y Cyfansoddiad.

Yn y 1960au hwyr, gweithiodd fel economegydd i Bwrdd Nwy Cymru.

Ym 1970, daeth yn AS yn 27 mlwydd oed pan etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros Caerfyrddin, trechodd Llywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans gyda 3,600 o fwyafrif. Mewn etholiad hanesyddol glynodd at y sedd yn etholiad Chwefror 1974 o 3 pleidlais ac ar ol pum ail gyfri fe gollodd y sedd yn ôl i Evans o 3,640 o bleidleisiau yn yr etholiad mis Hydref y flwyddyn honno .

Pan yn AS oedd yn Ysgrifennydd Seneddol 1974 i’r Gwir Anrhydeddus Roy Jenkins yr Ysgrifennydd Cartref ac roedd hefyd yn aelod o Cyngor Ewrop. Drwy gydol ei amser yn y Senedd oedd yn ymgyrchu am fwy o ddatganoli i Gymru a oedd yn fater rhaniad dwfn yn Plaid Lafur Cymru.

Ar ôl y Senedd, bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Ymchwil ac yn ddiweddarach, Uwch Swyddog Addysg i Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg hyd at 1992.

Yn 1981, helpodd sefydlu y blaid ddemocrataidd gymdeithasol. Safodd Gwynoro yn yr is etholiad Gŵyr yn 1982 pan gostyngwyd mwyafrif 19,000 Llafur i 7,000. ‘Roedd yn Gadeirydd y Democratiaid Cymdeithasol yng Nghymru am ddau gyfnod o dair blynedd cyn hyd nes unwyd y blaid gyda'r Rhyddfrydwyr.

Yn ystod blynyddoedd y Gynghrair SDP-Rhyddfrydol cyd - cadeiriodd y Bwyllgor Cenedlaethol yng Nghymru dros y cyfnod cyfan 1983-1988. Yn y 1980 au ‘roedd Gwynoro yn lladmerydd cryf dros ddiwygio cyfansoddiadol a etholiadol ac yn areithiwr enwog mewn cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus ledled y DU. Pan ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol safodd am Llywyddiaeth y blaid newydd gan dderbyn 10,000 o bleidleisiau. Daeth yn agos i frig y pôl ddwywaith yn y bleidlais ar gyfer Pwyllgor Cenedlaethol y blaid rhwng 1989 a 1992 a hefyd daeth yn is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi. Yn 1992 fu yn ymgeisydd sedd Henffordd a derbyniodd dros 23,000 o bleidleisiau.


Ar ôl hynny canolbwyntiodd Gwynoro ar ei weithgareddau busnes o 1993 i 2013 gan fod yn Gyfarwyddwr cwmni arolugu ysgolion a cynadledda a arolygwyd tua 10,000 o ysgolion yng Nghymru a Lloegr dros y cyfnod.

Bellach mae'n treulio ei amser yn ysgrifennu ei bywgraffiad yn ogystal ag ymgyrchu ar gyfer PR, Teyrnas Unedig Federal ac i’r Democratiaid Rhyddfrydol – mae yn ymddangos yn y cyfryngau yn aml.