DDIM
YN WIR.
Mae y manteision o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn niferus
ac yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad sydd yn egluro bod
y swm o arian a derbyniodd Cymru o gyllideb yr UE yn 2014 yn £658m, tra bod ein
cyfraniad tuag yr UE (ar ôl cymeryd i ystyriaeth y cyfran
o ad-daliad a dderbyniwyd gan y DU) yn sefyll ar £414m.
Felly ‘roedd Cymru wedi
elwa o tua £245m.
Mae'r farchnad sengl yr UE yn farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru – yn 2014 yn unig ‘roedd gwerth allforio nwyddau o Gymru i wladwriaethau eraill yr UE bron £5.8bn ac mae’r ymchwil diweddara yn dangos fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i'r farchnad sengl.
Heb gwestiwn y brif
ffactor o ran mewnfuddsoddi yn ein gwlad yw’r farchnad sengl. Bellach erbyn
2015, gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd eraill yr UE gyda gweithrediadau yng
Nghymru, sydd yn cyflogi dros 55,000 o bobl.
'Rydym yn mynd i dderbyn mwy na £3 biliwn o'r buddsoddiad yr
UE rhwng 2014 a 2020;
Yna mae'r Banc Buddsoddi Ewropeaidd wedi buddsoddi
£1.6bn mewn prosiectau yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn y pum mlynedd diwethaf, ‘rydym wedi elwa drwy 96 o brosiectau oherwydd buddsoddiad
gan yr UE, gan greu neu ddiogelu 16,000 o swyddi
Mae mwy na 190,000
o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â'n masnach i Ewrop; Bu i Cymru allforio gwerth £5.8bn o nwyddau i'r UE yn 2014 a oedd
yn 43% o'n holl allforion nwyddau traws byd.
Yna mae y fasnach dwristiaeth wedi elwa o'r buddsoddiad
mewn datblygiadau megis y llwybr arfordirol. Mae tua 130,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth yng
Nghymru a diddorol yw nodi y gwariwyd £206m gan dwristiaid o Ewrop yng Nghymru yn 2014, a oedd dros hanner y gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol.
Heb gwestiwn mae y sector amaethyddol yng Nghymru yn holl bwysig i fywyd cefn gwlad ac yn dal i fod yn sylweddol gyda bron 58,000 o bobl yn gweithio yn uniongyrchol yn y diwydiant.
Yn sicr mae cymorthdaliadau yr UE yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o ffermwyr a ydynt yn gwneud elw neu golled. Er engraiffy 'roedd cymorthdaliadau, ar gyfartaledd yn 2014-15, yn cyfrif am 81% o incwm busnes ffermydd. Hefyd byddai dros 50% o'r holl ffermydd
wedi gwneud colled heb gymhorthdal.
Fe fydd ffermwyr Cymru yn derbyn £1.7 biliwn rhwng nawr a 2020 a hefyd byddant yn elwa y brandio ar gyfer cig eidion a chig oen. Gwerthir 90 y cant o cig oen Cymru i'r UE felly - byddai ymadael yn cael effaith enfawr ar y diwydiant.
Yna mae y sector prosesu bwyd-amaeth yn cyflogi tua 230,000 o
bobl neu tua 18% o'r gweithlu ac yn werth tua £6 biliwn y flwyddyn i economi
Cymru.