25/09/2020

Mae Plaid Cymru wedi lansio ei Adroddiad Comisiwn ar ddyfodol Cymru – mae fyny i’r pleidiau eraill nawr

Mae adroddiad 220 tudalen Plaid Cymru o’r enw ‘Cyrchu Annibyniaeth Cymru’  i’w groesawu.


Nid yw'n ddogfen i'w hanwybyddu na'i ddilorni ar unwaith gan wrthwynebwyr gwleidyddol.

Mae adroddiad y Comisiwn yn nodi’n fanwl weledigaeth hir dymor y blaid ar gyfer Cymru hunan-lywodraethol. Mae hefyd yn gyfraniad pwysig i'r sgwrs genedlaethol, er yn anffodus nid yw y drafodaeth ar lefel llywodraethol na swyddogol hyd yma.

Dylai Llywodraeth Lafur bresennol Cymru fod ar flaen y gad yn y ddadl ddatblygol hon. Mae arweinwyr Llafur yn aml yn cyfeirio at yr angen am Gonfensiwn Cyfansoddiadol - wel, hyd yn oed os nad yw un wedi'i sefydlu ar gyfer y DU, yn fwyaf sicr dylid ei ffurfioli yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru bellach wedi rhoi ei stondin yn y parth cyhoeddus ac ni all unrhyw un ddweud eto nad ydyn nhw wedi mynd i’r afael â llawer o’r materion sy’n wynebu llywodraethu ein cenedl yn y dyfodol.

Nawr fydd angen yn gweld y pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru yn wneud rhywbeth tebyg - ac nid dim ond mewn dull gosodiadau  cyffredinol neu brathiadau sain yn unig.

Mae adroddiad y Comisiwn yn delio â materion pwysig fel sefydlu Comisiwn Cenedlaethol, cyfansoddiad Cymru annibynnol, y bwlch cyllidol cyfredol a Bil Hunanbenderfyniad Cymreig.

Mae rôl a chyfrifoldebau’r Comisiwn Cenedlaethol yn hanfodol i  ‘’ sicrhau’r ymwybyddiaeth, y cyfranogiad, a’r cyfranogiad mwyaf posibl…. A phrofi barn pobl Cymru mewn refferendwm archwiliadol cychwynnol, gan nodi opsiynau cyfansoddiadol ’’ dwed yr adroddiad.

Fel y mae’r ddogfen yn awgrymu, mae Plaid Cymru yn cydnabod bod Cymru ar daith ‘tuag at annibyniaeth’ ac o reidrwydd bydd angen cwrdd â nifer o gerrig milltir economaidd a gwleidyddol ar hyd y ffordd.

I'r perwyl hwnnw, mae'r adroddiad yn nodi dau opsiwn cydffederal i'w hystyried - un wedi'i gynnig gan yr arweinydd Adam Price tebyg i Benelux a'r llall gan Glyndwr Cennydd Jones ar Cynghrair yr Ynysoedd. Bydd y ddau yn haeddu ac yn gofyn am ystyriaeth ac archwiliad pellach.

Rwy'n credu bod mater cydffederaliaeth yn hanfodol yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni.

Mae yna lawer o gefnogwyr o gyfundref ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig o fewn y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a hyd yn oed y Ceidwadwyr. Mae'n amlwg bod ganddo ben stêm y tu ôl iddo. Felly'r angen i ganolbwyntio ar gydffederaliaeth fel ateb cadarnhaol, cynaliadwy i'r heriau a wynebir gan Gymru.

Os bydde rhywun yn cael ei demtio i fod yn feirniadol o'r adroddiad, yna mae tueddiad i Blaid Cymru wrychu ei betiau mewn perthynas â gwneud ymrwymiad i ffordd bendant ymlaen. Fodd bynnag, gellir disgwyl y sefyllfa honno yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol ansicr sydd o'n blaenau. Mae llawer o'r camau a nodwyd yn yr adroddiad sy’n angenrheidiol i sicrhau annibyniaeth yn dibynnu ar i Blaid Cymru ffurfio llywodraeth yn dilyn etholiadau'r Senedd yn 2021. Er ei bod yn ddealladwy pam mae'r adroddiad wedi defnyddio'r dull hwnnw, mae'r realiti ar lawr gwlad yn mynnu bod y ddadl yng Nghymru yn mynnu cyfranogiad trawsbleidiol. 

Ar hyn o bryd mae Plaid Cymru ymhell o fod mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar ôl Mai 2021, felly beth sy'n digwydd wedyn?


Yn fy marn i, dylai llywodraeth nesaf Cymru, waeth beth fo'i phlaid, 
yn sicr gosod y cynnig o Gomisiwn Cyfansoddiadol ar waith, os dim arall.

15/08/2020

Gwynoro yn cwrdd a Aneira Thomas ar podcast 'Pobl Gwynoro'


Roedd yn bleser cwrdd a Aneira unwaith eto. Y ddau ohonom o ardal Cefneithin a Foelgastell


Mi aethom i Ysgol Gynradd Cefneithin a hefyd Ysgol Ramadeg Gwendraeth – er fy mod ychydig yn henach.

Mae gennym atgofio’n hyfryd o ddyddie pan yn tyfu fyny – y cymeriade a’r hanesion.


Bellach mae Aneira yn adnabyddus fel y babi cynta a anwyd ar y funud pan grewyd y Gwasanaeth Iechyd yn 1948 ac mae wedi ysgrifennu llyfr- ‘Hold on Edna’- stori dwymgalon am cyfnode cyn y gwasanaeth iechyd.


Mae hefyd wedi bod ar nifer fawr o raglenni teledu a radio, cwrdd a bobl enwog a wedi body yn 10 Downing Street.

Yn ol yr arfer rwyf yn gofyn I’r gwestai ddewis tair can, Dyma oedd dewisiade Aneira :

‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ – Bryn Terfel
‘Wrth Feddwl am fy Nghymru – Dafydd Iwan
‘Eneth Glaf’ – Ryland a Garnon


Gwrandewch ar y podcast





11/08/2020

Pobol Gwynoro - gyda Wyn Thomas darlledwr nodedig mewn dyddie a fu

Ail yn y gyfres #PobolGwynoro.

Cyfaill n’ol ers y chwedegau. #WynThomas a oedd mor ganolog i ddatblygiadau ar #SainAbertawe gan gynnwys raglenni yn y Gymraeg. ‘Roedd ei ‘phone-in’ ar fore Sul yn nodedig ac yn arloesor. 

Yna wrthgwrs ei amser yn #HTV.

Brodor o #Bethesda. Gwrandewch Wyn ar #LlanelliTalkRadio yn trafod ei yrfa mor liwiog

Caneuon a ddewisodd Wyn oedd - 

Lyn Lodwig a Ray Gravell - 'Sospan Fach'

Meic Stevens - 'Tryweryn' ac yna 'Cwm Rhondda'

https://walesnewsonline.com/pobl-gwynoro-rhif-dau-wyn-thomas-of-swansea-sound/?fbclid=IwAR3PJwEwTNMtMW0ukeKT9oR8zds0yMOP0wazkEcC9AF9MtEXIFfF9AInQfw

 

02/08/2020

Ers mis Mawrth 'rwyf wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Alan Evans, golygydd a pherchennog  LlanelliOnline/a WalesNewsOnline. Hefyd mae wedi bod yn gweithio ar ddatblygu LlanelliTalkRadio

Hefyd ar Wales News Online mae na gyfeiriad yn y rhestr o bynciau i 'Gwynoro's Wales' lle 'rwyf yn gosod eitemau o dro i'w gilydd.

Yn ddiweddar mi soniais am ddechre cyfres o gyfweliadau gyda pobol 'rwyf wedi cwrdd, adnabod, cyfeillion ac eraill Trin a trafod eu bywyd, gyrfaoedd a phethau arall

Gyda Alun Gibbard,mae y drafodaeth gynta yn y gyfres. Awdur adnabyddus o dros tri deg o lyfre, darlledwr am dros gwarter canrif a nifer o bethe eraill. .

Mae na ddwy gyfweliad gyda Alun, iyn Gymraeg a Saesneg.

Rhai o'r llyfre a darodon oedd:

Yn erbyn y Gwynt - hanes Carwyn James, 
Fyny gyda'r Swans,
Llyfre ar George North a 'Foxy'r Llew' (Jonathan Davies),
Non yn erbyn y ffactore - Non Evans.

Eraill nad o'r byd chwaraeon:
:
Talcen Caled- hanes streic y glowyr,,
O Llinell Biced i San Steffan - a, y cyn aelod seneddol Sian James.
Straeon Tafarn - gyda Dewi Pws,
Bywyd yn y Coal House,
Tony ac Aloma' 
Mab y Mans - am Arfon Haines Davies, a hefyd
yn son an llyfr ar fin dod allan am cyn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jone.

Cymerwch funud i wrando.

Y gwestai nesa yn y gyfres fydd Wyn Thomas, darlledwr arall ac wrth gwrs o Sain Abertawe gynt.   

https://twitter.com/Gwynoro/status/1289139527018323969?s=20&fbclid=IwAR3qXgEu99oNWoHhHgnbI-9J6lVbNLVeBoi79eHyzHRbkYIusfcLAg_mLtU

29/01/2020

Gwenno Dafydd gyda geiriau newydd i 'Ode to Joy' (Anthem Ewop)


Fe ysgrifennodd y geiriau yn Gymraeg a Saesneg i fynegi ei galar am adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ysgrifennodd y geiriau yn Gymraeg a Saesneg i fynegi ei galar am adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bu yn byw ym Mrwsel a Gent yng Ngwlad Belg am gyfnod o bum mlynedd a mae ei gwr yn dod o Wlad Belg. Hi wnaeth arwain y gan ar ran y Cymru yn Green Park adeg y brotest olaf gwrth Brexit yn Hydref 2019 ac fe gannodd bennill gyntaf y geiriau Saenseg nifer helaeth o weithiau ar y brotest hyd cyrraedd San Steffan. Cewch ddarllen mwy am ei gwaith fan hyn. www.gwennodafydd.co.uk

Mae Gwenno yn ‘Anogydd Arweinyddiaeth a Siarad yn Gyhoeddus’ llawrydd  ac yn berfformwraig a sgwenwraig broffesiynol ers 1980. Mae wedi cyhoeddi llyfr am ferched mewn comedi, (Stand up & Sock it to them Sisters. Funny, Feisty Females)  yn perfformio sioe un ddynes am Edith Piaf (Passionate about Piaf) ac wedi ysgrifennu dros gant o lyrics i ganeuon gan gynnwys ‘Anthem Dydd Gwyl Dewi’ https://tycerddshop.com/products/cenwch-y-clychau-i-dewi-solo-heulwen-thomas-gwenno-dafydd


‘Ode to Joy’ Anthem Ewrop
Freude, schöner Götterfunken
Tochter aus Elysium,
Wir betreten feuertrunken,
Himmlische, dein Heiligtum!
Deine Zauber binden wieder
Was die Mode streng geteilt;
Alle Menschen werden Brüder,
Wo dein sanfter Flügel weilt.

Ni sydd gryfach gyda'n gilydd
Peidied byth bod ar wahan
Brodyr, chwiorydd dewch mewn undod
Codwch leisiau mewn un gan
Ewrop yw ein hafan ddiogel
Heddwch sy'n ei ffiniau hi
Syrthio wnawn os ein gwahenir
Oll fel un yn deulu cry                                                                        
© Gwenno Dafydd 13/01/20


Mae ein galar nawr wrth adael
Yn ein llethu a'n tristhau                                                                                               
Gwe pry copyn o gelwyddau                                                                                                                      Gododd grachen y casau.
Mae'n calonnau ni ar dorri
A byth bythoedd fydd y briw
Wnaeth ymledu dros ein tiroedd                                                                                                            Nawr yn hollti dynol ryw

                                                                             
R’oeddem llawer gwell mewn undod
Hil a gwledydd yn gytun
Cymaint hawsach ydoedd bywyd
Rhyddid ledydd yn ddi-ffin.                                                               
Mae’r dyfodol nawr yn dywyll                                                                 
Anobeithio wnawn yn awr                                                                                       
Er fod fflamau’r tan yn wreichion                                                             
Un dydd daw yn goelcerth fawr. 
      
© Gwenno Dafydd 22ain o Ionawr 2020.

** Bydd Gwenno yn canu un bennill yn  Almaeng, Cymraeg a Saesneg yn nigwyddiad Cymru Dros Ewrop yng Nghaerdydd bore Sadwrn Chwefror 1