Fe ysgrifennodd y geiriau yn Gymraeg a Saesneg i fynegi ei galar am adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe ysgrifennodd y geiriau yn Gymraeg a Saesneg i fynegi ei galar am adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bu yn byw ym Mrwsel a Gent yng Ngwlad Belg am gyfnod o bum mlynedd a mae ei gwr yn dod o Wlad Belg. Hi wnaeth arwain y gan ar ran y Cymru yn Green Park adeg y brotest olaf gwrth Brexit yn Hydref 2019 ac fe gannodd bennill gyntaf y geiriau Saenseg nifer helaeth o weithiau ar y brotest hyd cyrraedd San Steffan. Cewch ddarllen mwy am ei gwaith fan hyn. www.gwennodafydd.co.uk
Mae Gwenno yn ‘Anogydd Arweinyddiaeth a Siarad yn Gyhoeddus’ llawrydd ac yn berfformwraig a sgwenwraig broffesiynol ers 1980. Mae wedi cyhoeddi llyfr am ferched mewn comedi, (Stand up & Sock it to them Sisters. Funny, Feisty Females) yn perfformio sioe un ddynes am Edith Piaf (Passionate about Piaf) ac wedi ysgrifennu dros gant o lyrics i ganeuon gan gynnwys ‘Anthem Dydd Gwyl Dewi’ https://tycerddshop.com/products/cenwch-y-clychau-i-dewi-solo-heulwen-thomas-gwenno-dafydd
‘Ode to Joy’ Anthem Ewrop
Freude, schöner Götterfunken
Tochter aus Elysium,
Wir betreten feuertrunken,
Himmlische, dein Heiligtum!
Deine Zauber binden wieder
Was die Mode streng geteilt;
Alle Menschen werden Brüder,
Wo dein sanfter Flügel weilt.
Peidied byth bod ar wahan
Brodyr, chwiorydd dewch mewn undod
Codwch leisiau mewn un gan
Ewrop yw ein hafan ddiogel
Heddwch sy'n ei ffiniau hi
Syrthio wnawn os ein gwahenir
Oll fel un yn deulu cry
© Gwenno Dafydd 13/01/20
Mae ein galar nawr wrth adael
Yn ein llethu a'n tristhau
Gwe pry copyn o gelwyddau Gododd grachen y casau.
Mae'n calonnau ni ar dorri
A byth bythoedd fydd y briw
Wnaeth ymledu dros ein tiroedd Nawr yn hollti dynol ryw
R’oeddem llawer gwell mewn undod
Hil a gwledydd yn gytun
Cymaint hawsach ydoedd bywyd
Rhyddid ledydd yn ddi-ffin.
Mae’r dyfodol nawr yn dywyll
Anobeithio wnawn yn awr
Er fod fflamau’r tan yn wreichion
Un dydd daw yn goelcerth fawr.
© Gwenno Dafydd 22ain o Ionawr 2020.
** Bydd Gwenno yn canu un bennill yn Almaeng, Cymraeg a Saesneg yn nigwyddiad Cymru Dros Ewrop yng Nghaerdydd bore Sadwrn Chwefror 1