Roedd yn bleser cwrdd a Aneira unwaith eto. Y ddau
ohonom o ardal Cefneithin a Foelgastell
Mi aethom i Ysgol Gynradd Cefneithin
a hefyd Ysgol Ramadeg Gwendraeth – er fy
mod ychydig yn henach.
Mae gennym atgofio’n hyfryd o ddyddie pan yn tyfu fyny –
y cymeriade a’r hanesion.
Bellach mae Aneira yn adnabyddus fel y babi cynta a anwyd ar y funud pan
grewyd y Gwasanaeth Iechyd yn 1948 ac mae wedi ysgrifennu llyfr- ‘Hold on Edna’-
stori dwymgalon am cyfnode cyn y gwasanaeth iechyd.
Mae hefyd wedi bod ar nifer fawr o raglenni teledu a radio, cwrdd a bobl enwog a wedi body yn 10 Downing Street.
Yn ol yr arfer rwyf yn gofyn I’r gwestai ddewis tair can,
Dyma oedd dewisiade Aneira :
‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ – Bryn Terfel
‘Wrth Feddwl am fy Nghymru – Dafydd Iwan
‘Eneth Glaf’ – Ryland a Garnon
Gwrandewch ar y podcast