26/06/2021

Adolygiad llyfr: Gwynoro a Gwynfor

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

 

I’r rheini ohonom sydd bellach yn ganol oed ac sydd wedi ymddiddori yng nghwrs gwleidyddiaeth Cymru ers nifer fawr o flynyddoedd, cofiwn am y cyfnod rhwng 1966 a 1975 fel un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous a ffurfiannol a fu yn hanes gwleidyddol ein gwlad. Yn ganolog i’r hanes cyffrous hwn roedd twf aruthrol a dylanwad Plaid Cymru, gan gynnwys buddugoliaeth Gwynfor Evans yn isetholiad sir Gaerfyrddin ym 1966, a’r helbul a'r protestio a fu yn sgil cynnal yr Arwisgo dair blynedd yn ddiweddarach.

 

Honnir gan Gwilym Owen yn ei ragymadrodd i ddigwyddiadau’r 1960au a’r 1970au osod y sylfeini ar gyfer sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, 1999–2000, a’r datblygiadau cyffrous a phellgyrhaeddol a welwyd yng ngweinyddiaeth ein gwlad ar ôl hynny.

 

Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1970, collodd Gwynfor Evans ei sedd i Lafur a Gwynoro Jones (oedd yn 27 mlwydd oed ar y pryd), a dyma Gwynoro’n cael cyfle yn y gyfrol hon i roi ei bersbectif ar y berthynas astrus a chymhleth a fu rhyngddo ef a’i elyn gwleidyddol tymor hir o fewn Sir Gâr. Er yr elyniaeth bersonol chwyrn a fu rhyngddynt dros nifer o flynyddoedd, mae’r awdur yn barod i gydnabod mai lles Cymru oedd yn sbarduno’r ddau ohonynt drwy gydol eu gyrfaoedd gwleidyddol. Honnir yma’n hollol deg fod y ddau yn ‘crisialu pegynu tanllyd y cyfnod’ mewn dull personol a thrawiadol. Ac wrth lunio’r llyfr hwn manteisiwyd ar atgofion byw a manwl Gwynoro Jones ei hun, ynghyd â’r archif sylweddol o bapurau sydd yn dal yn ei feddiant. Gobeithio y bydd yr Archif Wleidyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn eu derbyn maes o law – byddant yn sicr yn gaffaeliad mawr i ymchwilwyr y dyfodol.

 

Cafodd yr awdur gymorth amhrisiadwy’r newyddiadurwr Alun Gibbard wrth iddo fynd ati i drefnu ei ddeunydd a llunio’r testun. Aeth Alun ati i ymchwilio’n drwyadl ym mhapurau newydd y cyfnod – y ffynhonnell hanesyddol bwysicaf oll ar gyfer y cyfnod hwn – i gywain deunydd perthnasol ar gyfer llunio’r astudiaeth hon. Ac o ystyried yr holl sylw a gafodd Gwynfor mewn nifer o astudiaethau printiedig, yn fwyaf arbennig cofiant manwl Rhys Evans iddo, hollol briodol yw i Gwynoro Jones yntau gael y cyfle i adrodd ei ochr ef o’r hanes cyffrous hwn.

 

Yn anochel, canolbwynt y stori arbennig hon yw etholiadau seneddol 1970 a 1974. Ennill o dair pleidlais yn unig fu hanes Gwynoro Jones yn Chwefror 1974, ond erbyn yr hydref llwyddodd Gwynfor i gipio’r sedd ymylol hon yn ôl gyda mwyafrif sylweddol o 3,640 o bleidleisiau. Mae Gwynoro hyd heddiw yn argyhoeddedig mai pleidleisio tactegol ar ran nifer fawr o Ryddfrydwyr a Thorïaid honedig a fu’n bennaf gyfrifol am fuddugoliaeth Gwynfor y tro hwnnw.

 

Er iddo ystyried yn ddwys sefyll eto ym 1979, ymgeisydd galluog arall, sef y Dr Roger Thomas, a lwyddodd i orchfygu Gwynfor y tro hwn. Hyd heddiw mae Gwynoro yn edifar iddo beidio â sefyll yr adeg hynny – poen meddwl enbyd iddo, hyd yn oed yn 2019. Yn ddiweddarach, Gwynoro oedd un o’r Cymry mwyaf blaenllaw a galluog i ymuno’r â’r SDP adeg ffurfio’r blaid honno ym 1981.

 

Wrth bori drwy’r gyfrol hon, cawn gipolwg gwerthfawr ar natur a chyfansoddiad cymdeithasol etholaeth sir Gaerfyrddin a hinsawdd wleidyddol y cyfnod – dylanwad Rhyfel Fietnam ym 1968, yr ymgyrchoedd yn erbyn seremoni’r Arwisgo, a’r pegynu gwleidyddol a brofwyd yng Nghymru yr adeg honno. Ceir ambell gipolwg yn ogystal ar y symudiadau i gyfeiriad datganoli a welwyd yn ystod y blynyddoedd hyn, ond o reidrwydd hanes a chwrs yr ymgyrchoedd etholiadol tanbaid yw asgwrn cefn y gyfrol.

 

Llawn mor ddifyr yw atgofion byw Gwynoro Jones am y blynyddoedd llawn a dreuliodd yn San Steffan, gyda’r awdur yn cyfrannu’n rheolaidd at golofnau llythyrau’r wasg ac yn ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio. Daeth pwnc yr iaith i’r brig ar hyd y blynyddoedd hyn, ac yng ngwanwyn 1974 profwyd ad-drefnu llywodraeth leol pellgyrhaeddol ledled ein gwlad, ynghyd â dechrau’r paratoadau ar gyfer pleidlais datganoli 1 Mawrth 1979, gyda Gwynfor yng nghanol yr ymgyrchu.

 

Yn y bennod olaf, ceir cyfle i fyfyrio o bersbectif cyfoes ar yrfa wleidyddol Gwynfor Evans a’i ddaliadau a’i athroniaeth wleidyddol, sy’n cael eu cymharu â syniadau blaengar ond tra gwahanol arweinwyr y Blaid yn ein cyfnod ni heddiw. Trueni na welwyd yn dda i gynnwys mynegai i'r cynnwys, ond da o beth yw cael cyfle i bori drwy’r nifer fawr o ffotograffau diddorol ac arwyddocaol o fewn y gyfrol ddifyr hon.

 

Gan J. Graham Jones


I archebu copi o Gwynoro a Gwynfor cliciwch yma.