Oherwydd cymhlethdod y realiti gwleidyddol ac economaidd ceir
llawer o elfennau ni all gael ei ystyried yn llawn yn yr astudiaeth, -
megis effaith gadael yr UE ar fedru cael gafael ar weithwyr o dramor, y pris
tir yn DU neu ar y gyfradd gyfnewid £/ €.
Er gwaethaf yr ansicrwydd, rydym yn hyderus bod y sefyllfa a gyflwynwyd yn
yr astudiaeth yn cynnig sbectrwm go agos o’r opsiynau o bolisïau a allai
Llywodraeth y DU ystyried pe bai i ni adael yr UE.
Yr Hydref diwethaf cyhoeddodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, archwiliad o
berthynas bresennol y DU (Deyrnas Unedig)
gyda'r UE (Undeb Ewropeaidd). Yr oedd
pwyntiau cadarnhaol a negyddol yn yr archwiliad gyfer amaethyddiaeth o
aelodaeth o'r UE. Ond amlygodd yr adroddiad fod yna faterion aneglur ar yr hyn
y byddai pleidlais i adael yr UE yn ei olygu. Yn benodol, pa drefniadau
masnachu byddai gennym tu allan i'r UE a beth fyddai polisi amaethyddol
llywodraeth Prydain ar ôl gadael?
Felly, comisiynodd yr Undeb astudiaeth gan sefydliad ymchwil amaethyddol
lled flaenllaw yn y byd o'r Iseldiroedd, LEI Prifysgol Wageningen i asesu'r
effeithiau posibl o nifer o wahanol gyfundrefnau masnachol a pholisïau cymorth
amaethyddol a fyddai, mewn theori, yn agored i Lywodraeth y DU i’w canlyn ar ôl
gadael yr UE. Ac mae'r cyfryngau yn gwneud sylwadau eu hunain ar yr adroddiad, megis Farming UK a'r Guardian er engraifft
Mae'r astudiaeth yn cyfeirio at beth a allai ddigwydd gan edrych ar dri
senario. Wrth gwrs gall modelau economaidd dim ond gwneud rhagfynegiadau syn
seiliedig ar hyn a allai ddigwydd o dan amrywiaeth o ragdybiaethau. Felly, mae
astudiaethau o'r fath yn gyfyngedig i beth y gellir ei fesur yn ôl beth sydd yn
wybodus ar hyn o bryd. Er enghraifft:-
Nid yw'n ystyried beth fyddai’r effaith os penderfyna Llywodraeth y DU
leihau lefel y rheoleiddio a wynebir gan y diwydiant amaethyddol;
neu
Beth fyddai'n digwydd i'r galw am gynnyrch Prydain os penderfyna rhai gweithgynhyrchwyr
bwyd i ail-leoli rywle arall yn yr UE er mwyn aros yn y Farchnad Sengl.
Mae'r adroddiad yn nodi bod rhai o'r senarios yn
awgrymu y gallai fod risgiau difrifol i incwm ffermydd os gadewir yr UE, tra
mae eraill yn awgrymu y gallai fod canlyniad mwy ffafriol. Mae’r cyfan yn
dibynnu ar ba un o'r senarios fydd y mwyaf tebygol o’u gwireddu.
Yn ei dro bydd hyn yn dibynnu hefyd ar y
polisïau a fabwysiadir gan Lywodraeth y DU pan tu allan i'r UE.
Yn y gorffennol mae Llywodraethau Prydain wedi
bod yn eiriolwyr cryf o blaid masnach agored a rydd. Wedi galw ar dariff
amddiffynnol gael eu gostwng ar draws holl sectorau fferm a hefyd wedi galw am
ddiddymu taliadau cymorth uniongyrchol a wnaed drwy'r PAC. Tra yn aelod o'r UE,
nid yw llywodraethau'r DU wedi gallu gwireddu’r nodau hynny yn llawn ond, serch
hynny, maent wedi cymryd camau uniongyrchol i leihau lefel y taliadau fferm
sydd ar gael i ffermwyr.
Un pwynt hollol bwysig a wneir yn yr astudiaeth
yw:
Hyd yn hyn, nid ydy’r bobl sydd o blaid i ni adael yr UE wedi gwneud yn
glir pa bolisïau byddai yn newid pe bai i’r DU fod tu allan i'r UE.
Mae'r astudiaeth yn rhoi cipolwg ar yr effeithiau sy’n bosibl ar ddau fater
allweddol ar gyfer busnesau fferm mewn byd tu allan i’r UE:-
Berthynas fasnachu rhyngwladol y DU ( a'i effaith ar y
farchnad ddomestig) a
y lefel o gymorth domestig ar gyfer ffermwyr.
Mae dau o'r senarios masnachol sydd wedi eu modelu, sef y
Cytundeb Masnach Rydd rhwng yr UE a'r DU (CMR) a Sefydliad Masnach y Byd (SMB)
- y ddau gyda rhyw fath o ragfarn
gwrth-masnach. Mewn geiriau eraill, byddai polisi amaethyddol y DU mewn
gwirionedd yn fwy gwarchodol nag y bu o dan y PAC presennol.
O dan y ddwy senario masnach, disgwylir y byddai prisiau
wrth gât y fferm yn y DU i gynyddu. Hyn yn bennaf oherwydd byddai mewnforion yn
dod yn ddrutach, gyrrir hyn gan gostau hwyluso masnach, colli budd-daliadau achos
mewnforion rhatach o dan drefniadau masnach ffafriol yr UE ac yn achos y
sefyllfa SMB tariffau uwch gyda'r UE. Byddai prisiau uwch yn ysgogi cynhyrchu
domestig, ond ar y llaw arall y byddent yn lleihau defnydd domestig. Canlyniad hyn
fyddai gwella cydbwysedd masnach y DU yn bennaf oherwydd mewnforion yn lleihau.
Mae’r cwestiynau i'w gofyn am y ddwy senario hyn yn rhai
gwleidyddol yn hytrach nag yn economaidd. Byddai polisi mwy diffyndollol yn
dadwneud y polisïau y mae Llywodraethau'r DU wedi dilyn ers dros 40 mlynedd;
byddai'n mynd yn groes i duedd fyd-eang i gael masnachu amaethyddol mwy agored
a fyddai yn groes i amcanion a nodwyd gan nifer o'r rheini sydd o blaid y
dylai'r DU gadael yr UE.
Mae Rhyddfrydoli Masnach (RM) y DU yn ymddangos i fod
yn fwy unol â pholisi sefydledig Llywodraeth y DU a safbwyntiau llawer o'r rhai
sy'n ffafrio gadael yr UE. Byddai yn cael effaith negyddol sylweddol ar brisiau
wrth gât y fferm ar gyfer nifer o gynhyrchion, ond yn bennaf ar gyfer cig a
rhai cynhyrchion llaeth. Y canlyniad fyddai llai cynhyrchu cig a llaeth,
gostwng lefelau hunangynhaliaeth y DU yn y cynhyrchion hynny, a chreu effaith
ganlyniadol ar y galw am borthiant. Byddai tariffau is yn gwrthbwyso costau
hwyluso masnach uwch a wynebir gan fewnforwyr ac felly byddai yn apelio i’r Llywodraeth.
Dengys canlyniadau pob senario taw’r gyrrwr mwyaf i incwm ffermydd fyddai newid
lefel y taliadau cymorth cyhoeddus ar gael. Byddai effeithiau cadarnhaol pris
ar incwm ffermydd sydd i’w weld drwy senarios diofyn CMR a SMB yn cael ei
wrthbwyso gan ostyngiadau mewn cymorth uniongyrchol.
Byddai gostyngiad yn gymorth uniongyrchol, neu ddileu
cyflawn, yn gwaethygu'r effeithiau negyddol a welwyd o dan senario RM y DU.
Enwedig ar sectorau defaid a gwartheg yn arbennig sydd yn fwy dibynnol ar
daliadau cymorth uniongyrchol, ond hefyd ceir effaith ar ffermydd cymysg a maes
cnydau. O ganlyniad, byddai'r cyfuniad o bolisi mwy rhyddfrydol a hefyd lleihau
neu ddileu cymorth uniongyrchol yn gwneud llawer o ffermydd yn y DU yn llai
hyfyw.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd, mae’r Undeb Cenedlaethol yr
Amaethwyr yn hyderus bod y sefyllfaoedd a gyflwynwyd yn cynnig cynrychiolaeth
dda o’r sbectrwm o opsiynau polisi a allai Llywodraeth y DU ystyried pe byddem
du allan i’r UE.
Fy nyfarniad:
Fel yr wyf wedi postio sawl gwaith mae'r posibilrwydd o
adael yr Undeb Ewropeaidd yn llawer gormod o gambl i gymryd, mae'n llawn o
ansicrwydd ac mae yn hollbwysig nad yw’r
rheini sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi darparu unrhyw wybodaeth
neu ymrwymiadau clir o gwbl ar bolisïau amgen PAC, rheoliadau a masnach
ryngwladol ffermio.
Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â cholli mynediad i
farchnadoedd Ewropeaidd yn rhy fawr, ac mae (PAC) y Polisi Amaethyddol
Cyffredin yn hanfodol i amaethyddiaeth Cymru, yn enwedig yn yr argyfwng
presennol ar bris nwyddau Hefyd mae Rhaglen Datblygu Wledig yr UE yn helpu ffermio
Cymru wella ei cystadleurwydd a phroffidioldeb.