07/04/2016

Mae astudiaeth amaethyddol yn dangos bod gadael yr UE yn llawn ansicrwydd a gormod o gambl ar gyfer ffermio a chymunedau gwledig

Oherwydd cymhlethdod y realiti gwleidyddol ac economaidd  ceir  llawer o elfennau ni all gael ei ystyried yn llawn yn yr astudiaeth, - megis effaith gadael yr UE ar fedru cael gafael ar weithwyr o dramor, y pris tir yn DU neu ar y gyfradd gyfnewid £/ €.

Er gwaethaf yr ansicrwydd, rydym yn hyderus bod y sefyllfa a gyflwynwyd yn yr astudiaeth yn cynnig sbectrwm go agos o’r opsiynau o bolisïau a allai Llywodraeth y DU ystyried pe bai i ni adael yr UE.

Yr Hydref diwethaf cyhoeddodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, archwiliad o berthynas bresennol y DU (Deyrnas Unedig)  gyda'r UE (Undeb Ewropeaidd). Yr oedd  pwyntiau cadarnhaol a negyddol yn yr archwiliad gyfer amaethyddiaeth o aelodaeth o'r UE. Ond amlygodd yr adroddiad fod yna faterion aneglur ar yr hyn y byddai pleidlais i adael yr UE yn ei olygu. Yn benodol, pa drefniadau masnachu byddai gennym tu allan i'r UE a beth fyddai polisi amaethyddol llywodraeth Prydain ar ôl gadael?

Felly, comisiynodd yr Undeb astudiaeth gan sefydliad ymchwil amaethyddol lled flaenllaw yn y byd o'r Iseldiroedd, LEI Prifysgol Wageningen i asesu'r effeithiau posibl o nifer o wahanol gyfundrefnau masnachol a pholisïau cymorth amaethyddol a fyddai, mewn theori, yn agored i Lywodraeth y DU i’w canlyn ar ôl gadael yr UE. Ac mae'r cyfryngau yn gwneud sylwadau eu hunain ar yr adroddiad, megis Farming UK a'r Guardian er engraifft

Mae'r astudiaeth yn cyfeirio at beth a allai ddigwydd gan edrych ar dri senario. Wrth gwrs gall modelau economaidd dim ond gwneud rhagfynegiadau syn seiliedig ar hyn a allai ddigwydd o dan amrywiaeth o ragdybiaethau. Felly, mae astudiaethau o'r fath yn gyfyngedig i beth y gellir ei fesur yn ôl beth sydd yn wybodus ar hyn o bryd. Er enghraifft:-

Nid yw'n ystyried beth fyddai’r effaith os penderfyna Llywodraeth y DU leihau lefel y rheoleiddio a wynebir gan y diwydiant amaethyddol;
neu
Beth fyddai'n digwydd i'r galw am gynnyrch Prydain os penderfyna rhai gweithgynhyrchwyr bwyd i ail-leoli rywle arall yn yr UE er mwyn aros yn y Farchnad Sengl.

Mae'r adroddiad yn nodi bod rhai o'r senarios yn awgrymu y gallai fod risgiau difrifol i incwm ffermydd os gadewir yr UE, tra mae eraill yn awgrymu y gallai fod canlyniad mwy ffafriol. Mae’r cyfan yn dibynnu ar ba un o'r senarios fydd y mwyaf tebygol o’u gwireddu.

Yn ei dro bydd hyn yn dibynnu hefyd ar y polisïau a fabwysiadir gan Lywodraeth y DU pan tu allan i'r UE.

Yn y gorffennol mae Llywodraethau Prydain wedi bod yn eiriolwyr cryf o blaid masnach agored a rydd. Wedi galw ar dariff amddiffynnol gael eu gostwng ar draws holl sectorau fferm a hefyd wedi galw am ddiddymu taliadau cymorth uniongyrchol a wnaed drwy'r PAC. Tra yn aelod o'r UE, nid yw llywodraethau'r DU wedi gallu gwireddu’r nodau hynny yn llawn ond, serch hynny, maent wedi cymryd camau uniongyrchol i leihau lefel y taliadau fferm sydd ar gael i ffermwyr.

Un pwynt hollol bwysig a wneir yn yr astudiaeth yw:

Hyd yn hyn, nid ydy’r bobl sydd o blaid i ni adael yr UE wedi gwneud yn glir pa bolisïau byddai yn newid pe bai i’r DU fod tu allan i'r UE.

Mae'r astudiaeth yn rhoi cipolwg ar yr effeithiau sy’n bosibl ar ddau fater allweddol ar gyfer busnesau fferm mewn byd tu allan i’r UE:-

Berthynas fasnachu rhyngwladol y DU ( a'i effaith ar y farchnad ddomestig) a
y lefel o gymorth domestig ar gyfer ffermwyr.

Mae dau o'r senarios masnachol sydd wedi eu modelu, sef y Cytundeb Masnach Rydd rhwng yr UE a'r DU (CMR) a Sefydliad Masnach y Byd (SMB)  - y ddau gyda rhyw fath o ragfarn gwrth-masnach. Mewn geiriau eraill, byddai polisi amaethyddol y DU mewn gwirionedd yn fwy gwarchodol nag y bu o dan y PAC presennol.

O dan y ddwy senario masnach, disgwylir y byddai prisiau wrth gât y fferm yn y DU i gynyddu. Hyn yn bennaf oherwydd byddai mewnforion yn dod yn ddrutach, gyrrir hyn gan gostau hwyluso masnach, colli budd-daliadau achos mewnforion rhatach o dan drefniadau masnach ffafriol yr UE ac yn achos y sefyllfa SMB tariffau uwch gyda'r UE. Byddai prisiau uwch yn ysgogi cynhyrchu domestig, ond ar y llaw arall y byddent yn lleihau defnydd domestig. Canlyniad hyn fyddai gwella cydbwysedd masnach y DU yn bennaf oherwydd mewnforion yn lleihau.

Mae’r cwestiynau i'w gofyn am y ddwy senario hyn yn rhai gwleidyddol yn hytrach nag yn economaidd. Byddai polisi mwy diffyndollol yn dadwneud y polisïau y mae Llywodraethau'r DU wedi dilyn ers dros 40 mlynedd; byddai'n mynd yn groes i duedd fyd-eang i gael masnachu amaethyddol mwy agored a fyddai yn groes i amcanion a nodwyd gan nifer o'r rheini sydd o blaid y dylai'r DU gadael yr UE.

Mae Rhyddfrydoli Masnach (RM)  y DU  yn ymddangos i fod yn fwy unol â pholisi sefydledig Llywodraeth y DU a safbwyntiau llawer o'r rhai sy'n ffafrio gadael yr UE. Byddai yn cael effaith negyddol sylweddol ar brisiau wrth gât y fferm ar gyfer nifer o gynhyrchion, ond yn bennaf ar gyfer cig a rhai cynhyrchion llaeth. Y canlyniad fyddai llai cynhyrchu cig a llaeth, gostwng lefelau hunangynhaliaeth y DU yn y cynhyrchion hynny, a chreu effaith ganlyniadol ar y galw am borthiant. Byddai tariffau is yn gwrthbwyso costau hwyluso masnach uwch a wynebir gan fewnforwyr ac felly byddai yn apelio i’r Llywodraeth.

Dengys canlyniadau pob senario taw’r gyrrwr mwyaf i incwm ffermydd fyddai newid lefel y taliadau cymorth cyhoeddus ar gael. Byddai effeithiau cadarnhaol pris ar incwm ffermydd sydd i’w weld drwy senarios diofyn CMR a SMB yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiadau mewn cymorth uniongyrchol.

Byddai gostyngiad yn gymorth uniongyrchol, neu ddileu cyflawn, yn gwaethygu'r effeithiau negyddol a welwyd o dan senario RM y DU. Enwedig ar sectorau defaid a gwartheg yn arbennig sydd yn fwy dibynnol ar daliadau cymorth uniongyrchol, ond hefyd ceir effaith ar ffermydd cymysg a maes cnydau. O ganlyniad, byddai'r cyfuniad o bolisi mwy rhyddfrydol a hefyd lleihau neu ddileu cymorth uniongyrchol yn gwneud llawer o ffermydd yn y DU yn llai hyfyw.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd, mae’r Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn hyderus bod y sefyllfaoedd a gyflwynwyd yn cynnig cynrychiolaeth dda o’r sbectrwm o opsiynau polisi a allai Llywodraeth y DU ystyried pe byddem du allan i’r UE.

Fy nyfarniad:

Fel yr wyf wedi postio sawl gwaith mae'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd yn llawer gormod o gambl i gymryd, mae'n llawn o ansicrwydd ac mae yn  hollbwysig nad yw’r rheini sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi darparu unrhyw wybodaeth neu ymrwymiadau clir o gwbl ar bolisïau amgen PAC, rheoliadau a masnach ryngwladol ffermio.


Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â cholli mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd yn rhy fawr, ac mae (PAC) y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn hanfodol i amaethyddiaeth Cymru, yn enwedig yn yr argyfwng presennol ar bris nwyddau Hefyd mae Rhaglen Datblygu Wledig yr UE yn helpu ffermio Cymru wella ei cystadleurwydd a phroffidioldeb.