Wel wedi'r cyfan nid yr Undeb Ewropeaidd (EU) neu San Steffan oedd ar fai am Brexit ond Cynulliad Cymru!
Fel y gwyr pawb nid wyf pob amser wedi bod yn ffan o Lywodraethau'r Cynulliad dros y blynyddoedd a'r modd maent wedi llywodraethu, ymddwyn a gweithredu. Nac eroed wedi bod yn edmygwr o ansawdd y Cynulliad - y dadleuon a'r trafodaethau o ran safon a sylweddau
Ond
Dwi'n gallu adnabod pan fo helynt ar droed gyda rhai pobl gyda bwriadau maleisus tuag at y Senedd, mae hyd yn oed yr enw hwnnw,mae'n debyg, yn tramgwyddo rhai Aelodau'r Cynulliad.
Yng
Nghymru, dim ond ychydig dros hanner yr etholwyr a bleidleisiodd i adael yr UE. Wrth gwrs, yr oedd y canlyniad
siomedig iawn i lawer ohonom — ac ‘roedd llawer o resymau dros y canlyniad
hwnnw a byddaf yn delio gyda hynny dros y misoedd i ddod.. Mae'r feirniadaeth
am y rhesymau’n haeddiannol.
Fodd
bynnag, mae'r bleidlais honno wedi ysgogi David Taylor i ddweud:
' Mae’r bleidlais i adael yn dangos fod Cymru
wedi’i chael eu cydio gan zeitgeist gwrthryfelgar, gwrth-sefydliad — fwy felly
nag unrhyw adeg ers i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth.'
' Y sefydliad gwleidyddol — ac, yn benodol, y
Llywodraeth Lafur Cymru a'r cenedlaetholwyr Cymreig — mewn cyflwr peryglus o
anwybyddu’r sefyllfa.'
Iawn, gadewch i ni dderbyn hynny ar hyn o bryd, ond
beth ydy gwir bwrpas y gosodiadau.
Wel mae Taylor yn mynd ymlaen i ddweud:
' Y gwirionedd yw nad yw Cymru
naill o blaid datganoli neu yn erbyn datganoli. Mae yna ddiffyg diddordeb
cronig yn y prosiect cyfan.'
a bod:
'Ers dyfodiad datganoli mae gwleidyddion wedi
teimlo’r angen taer i ddatblygu naratif cryfhau cenedlaetholdeb y lle '
Fel pe bae hynny yn beth drwg i wneud!
Mae Andrew Davies yn datgan hefyd yr un fath o farn — er bod yn ofalus i
osod cafeat megis y canlynol i ddiarfogi pobl —' dywedaf hynny gydag unrhyw bleser. Ar y dechrau ‘roeddwn yn erbyn
datganoli, ond bellach wedi dod yn eiriolwr brwd ond pragmatig.'
Serch hynny, mae o'r farn y :
' Byddai refferendwm ar ddiddymu
Llywodraeth y Cynulliad yn llwyddo os cynhaliwyd hyn nawr … byddai'n anodd
ennyn cefnogaeth i’r Cynulliad fel sefydliad... Y ffaith amdani yw dwi ddim yn
meddwl y gallai ymgyrch o'r fath cael ei hennill heddiw. ‘Roedd y canlyniad yn
agos iawn yn 1997, ond os ofnwyd y cwestiwn i bobl yfory, credaf y byddent yn
pleidleisio i gael gwared ar y Cynulliad Cenedlaethol’
O! Felly! fel ‘roedd y cymeriad cartŵn Bugs Bunny yn
i ddweud yn y 70au:
' Mmm … Beth sydd fyny Doc?'
Mae gennyf syniad go dda ac mae’n amser i reini
ohonom sy'n credu mewn corff cryfach fod yn fwy hyderus i ymgyrchu dros Cymru
hunanlywodraethol. Hen bryd ddeffro a siarad yn eglur.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi
ei rwystro o'r cychwyn a bu'n amddifad o’r rhyddid i weithredu'n yn effeithiol gyda
pwerau sy’n cyfateb i Senedd yr Alban.
Yn yr hinsawdd bresennol nid wyf yn beio Nicola Sturgeon
o gwbl am ail-agor y ddadl ar y cwestiwn o annibyniaeth i’r Alban nac Gordon
Brown ychwaith sydd bellach yn awgrymu ateb ffederal ar gyfer yr Alban yn y
Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, fel gyda Brexit, ble mae llais swyddogol y Blaid Lafur? Yn
anffodus y mae mewn gwrthdaro mewnol difrifol.
Wrth gwrs, yr wyf yn deall y rhwystredigaethau presennol o wleidyddiaeth a gwleidyddion. Mae
llawer o'r rhesymau a’r diffygion a’u gwreiddiau ymhellach nol yn y gorffennol.
Fodd bynnag, yr ateb yw nid i ddileu Llais cymharol newydd y Cynulliad yn y
broses gyfansoddiadol — ond ei alluogi i fod yn gorff gwbl gynrychioliadol o
holl bobl Cymru.
Felly yr angen yw i'r
Cynulliad cael llawer mwy o bwerau. Wrth reswm gallai’r Cymry wneud gwell ymgais
i lywodraethu ein hunain na San Steffan.
Gyda canlyniad Brexit, credaf
mai'r dyfodol yw mewn Cymru hunanlywodraethol o fewn DU ffederal o leiaf .
Gellir dadlau hefyd am fynd
ymhellach fel a’r blynyddoedd ymlaen, hyd yn oed ar seiliau economaidd.
O blith y 235 o wledydd sydd yn y byd ceir tua 130 ohonynt gyda phoblogaethau o tua 7 miliwn a llai. Yna mae 100 ohonynt gyda phoblogaethau o 4 miliwn neu lai a'r mwyafrif gyda niferoedd llai na Chymru.