Bedair awr ar ddeg o atgofion ar
45 o fideos.
Hefyd chwe fideo o gyfweliadau
yn ddiweddar gyda’r Arglwydd Elystan Morgan
Ddwy flynedd
yn ôl mi sefyllais o flaen camera ar wahanol gyfnodau dros gyfnod o dri diwrnod
i gofio am gofnodi prif ddigwyddiadau o'm bywyd a'r amseroedd.
Mae'r fideos
yn cychwyn gyda'r adeg ar ôl yr ail ryfel byd hyd at ddechrau'r ganrif hon.
Y prif
bwrpas gwreiddiol oedd gwneud recordiadau i helpu darparu deunydd cyffredinol
fel sylfaen i'r cyfer y llyfr rwy'n ysgrifennu. Felly, er bod y mwyafrif
helaeth ohonynt yn gywir mae yna rhai gwallau sy’n amlwg a byddant yn cael eu
cywiro yn y llyfr.
Yn ogystal
cyfarfûm yn ddiweddar yr Arglwydd Elystan Morgan sydd yn ddyn o ddeallusrwydd
uchel iawn gyda phrofiad eang o wleidyddiaeth, llywodraeth, materion
cyfansoddiadol a'r gyfraith – gan 'roedd yn gyn-farnwr.
Treuliwyd diwrnod
dymunol yn hel atgofion a hefyd yn trafod digwyddiadau'r presennol gan gynnwys
canlyniad y refferendwm, beth fydd yn debygol o ddigwydd gyda Brexit, y
cythrwfl yn y Blaid Lafur, dyfodol Cymru a'i atgofion o'i ddyddiau ym Mhlaid
Cymru.
Recordiwyd chwe fideo gyda
Elystan fydd yn cael eu llwytho i fyny i fy sianel YouTube – gyda mwy i ddod
oddi wrtho mewn ychydig fisoedd.
Y bwriad yw uwchlwytho fideo
un yr wythnos gan roddi peth blaenoriaeth i rai Elystan.
Gobeithio y byddwch yn
mwynhau.
Dyma fideo gwneuthum y bore
yma fel trelar