Y sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017
Am lawer yn rhy hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a
bellach mae'n dra angenrheidiol y dylem godi ein disgwyliadau
Yn siarad am
effaith a’r meddylfryd tu ôl i Ddeddf Cymru ...
‘Ar ôl rhoddi
cyfansoddiad i Gymru sy’n trosglwyddo pob awdurdod arall na’r rhai sy’m
hymwneud a bywyd y Deyrnas Unedig sef olyniaeth y Goron, amddiffyn a pholisi
tramor, mae’n saffru’r cyfan drwy lwytho ar Gymru gant naw deg a phedwar o
eithriadau gydag ugeiniau ohonynt yn ymwneud a materion hollol leol.
Ni fu i’r Alban
na Gogledd Iwerddon gorfod dioddef y sarhad hwn.
Trwy wneud hyn y
mae’r Llywodraeth yn torri rheol, euraidd datganoli, sef fôr rhediad dyfroedd
(‘watershed’) o synnwyr a chyfiawnder yn dweud yn glir beth a ddylasai fod yn
fater lleol a beth ddylasai fod yn gyfrifoldeb i’r fam Senedd yn San Steffan.
Felly, yr irony
ydy, nad yw'r hyn a gynigir yn Ddeddf Cymru yn enghraifft o ddatganoli pellach
ond yn hytrach yn ymhlygiad llachar o ddibrisio a glanweithio holl egwyddor
datganoli’
Yna edrych blaen
i’r dyfodol a’r hyn y dylasai gwleidyddion a phobl Cymru anelu ato gan gymeryd
i ystyriaeth y peryglon sydd ynghlwm wrth fwriadau’r llywodraeth yn Mesur
Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dwed Elystan ...
‘Rwy'n credu'n
gryf fod cenedlaetholdeb yng nghyd-destun Cymru fel gwladgarwch nag ŵyr unrhyw
gasineb o unrhyw genedl arall. Dyna beth ddylasai cenedl Cymru a
chenedlaetholdeb Cymreig ar eu gorau fod. Fy apêl pan ydym yn ystyried dyfodol
Cymru yw am i ni feddwl yn fawr. Os ydych yn meddwl yn fawr byddwch yn cyflawni
rhywbeth gwerth chweil; Os ydych yn meddwl yn fach, yna fydd yr hyn a gyflawnir
yn llai na'r hynny a disgwyliwyd.
Am lawer yn rhy
hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a bellach mae'n dra angenrheidiol y
dylem godi ein disgwyliadau i fod yn deilwng o'n sefyllfa fel cenedl aeddfed,
p'un ai ei fod yn cychwyn ar daith drwy fodelau o ffederaliaeth neu Statws
Ddominiwn. Dyna'r sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017.’