20/09/2017

Elystan Morgan yn trafod cwrs datganoli dros ugain mlynedd a’r dyfodol

Y sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017

Am lawer yn rhy hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a bellach mae'n dra angenrheidiol y dylem godi ein disgwyliadau

Yn siarad am effaith a’r meddylfryd tu ôl i Ddeddf Cymru ...

‘Ar ôl rhoddi cyfansoddiad i Gymru sy’n trosglwyddo pob awdurdod arall na’r rhai sy’m hymwneud a bywyd y Deyrnas Unedig sef olyniaeth y Goron, amddiffyn a pholisi tramor, mae’n saffru’r cyfan drwy lwytho ar Gymru gant naw deg a phedwar o eithriadau gydag ugeiniau ohonynt yn ymwneud a materion hollol leol.


Ni fu i’r Alban na Gogledd Iwerddon gorfod dioddef y sarhad hwn.

Trwy wneud hyn y mae’r Llywodraeth yn torri rheol, euraidd datganoli, sef fôr rhediad dyfroedd (‘watershed’) o synnwyr a chyfiawnder yn dweud yn glir beth a ddylasai fod yn fater lleol a beth ddylasai fod yn gyfrifoldeb i’r fam Senedd yn San Steffan.


Felly, yr irony ydy, nad yw'r hyn a gynigir yn Ddeddf Cymru yn enghraifft o ddatganoli pellach ond yn hytrach yn ymhlygiad llachar o ddibrisio a glanweithio holl egwyddor datganoli’

Yna edrych blaen i’r dyfodol a’r hyn y dylasai gwleidyddion a phobl Cymru anelu ato gan gymeryd i ystyriaeth y peryglon sydd ynghlwm wrth fwriadau’r llywodraeth yn Mesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dwed Elystan ...

‘Rwy'n credu'n gryf fod cenedlaetholdeb yng nghyd-destun Cymru fel gwladgarwch nag ŵyr unrhyw gasineb o unrhyw genedl arall. Dyna beth ddylasai cenedl Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig ar eu gorau fod. Fy apêl pan ydym yn ystyried dyfodol Cymru yw am i ni feddwl yn fawr. Os ydych yn meddwl yn fawr byddwch yn cyflawni rhywbeth gwerth chweil; Os ydych yn meddwl yn fach, yna fydd yr hyn a gyflawnir yn llai na'r hynny a disgwyliwyd.


Am lawer yn rhy hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a bellach mae'n dra angenrheidiol y dylem godi ein disgwyliadau i fod yn deilwng o'n sefyllfa fel cenedl aeddfed, p'un ai ei fod yn cychwyn ar daith drwy fodelau o ffederaliaeth neu Statws Ddominiwn. Dyna'r sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017.’