12/09/2018

Etholiad arweinyddol holl bwysig i aelodau Plaid Cymru ac o bosib i wleidyddiaeth Cymru

Etholiad arweinyddol Plaid Cymru yw un o’r datblygiadau pwysicaf yn y degawdau diwethaf i'r blaid ac o bosib i wleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol ers datganoli.

Yn wir, bu'n flwyddyn o ymgyrchoedd mewnol i bleidiau Cymru.

Yn gyntaf oedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, gyda Jane Dodd yn cael ei hethol yn arweinydd gyda 33% o’r 3000 aelod yn pleidleisio. Sylwebaeth drist ar blaid sydd ers sawl blwyddyn bellach yn cael trafferth gwneud unrhyw argraff ystyrlon ar dirwedd gwleidyddol Cymru - oni bai eich bod yn cynnwys cyfraniad Kirsty Williams AC yng nghabinet Llywodraeth Lafur Cymru, yn dosbarthu arian cyllideb Llafur.

Yna, UKIP Cymru, plaid mewn cyfnod cythryblus nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU ers ychydig flynyddoedd, wedi ethol Gareth Bennett gyda 60% o'i 900 aelod yn cymryd rhan.

A’r wythnos hon, gyda 52% o’r aelodau’n pledleisio, cadarnhawyd Paul Davies fel arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig. Yn rhyfeddol, ni wnaeth y blaid ddatgelu nifer y pleidleisiau a fwriwyd i'r ddau ymgeisydd – rwy’n amau nad oeddent am ddatgelu nifer isel aelodau'r blaid yng Nghymru.

A chyn diwedd 2018 bydd Llafur Cymru hefyd yn ethol arweinydd newydd, gan benderfynu yn fuan a fyddant yn ddigon democrataidd i symud tuag at ddull pleidleisio un-aelod un-bleidlais yn yr etholiad mewnol. Mae'n anodd credu mai’r cwestiwn pleidlais un-aelod oedd un o'r rhesymau pam y ffurfiwyd yr SDP yn 1981! Mae gan Lafur oddeutu 100,000 o aelodau unigol ac aelodau cysylltiedig yng Nghymru.

Mae dau ymgeisydd wedi datgan diddordeb, ond byddai'r blaid yn elwa o ddewis ehangach, yn sicr pe bai yr aelodau profiadol Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies ar y papur pleidleisio hefyd. Ond mae gan Lafur Cymru ffordd unigryw ac arbennig o gyrraedd y canlyniad 'cywir' yn ôl dymuniad y rhai sy’n rheoli grym yn y blaid.

Nawr, gadewch i ni drafod yr etholiad pwysicaf sy'n mynd rhagddo, sef cystadleuaeth arweinyddiaeth Plaid Cymru. Rwy’n dweud mai dyma’r pwysicaf gan fod gwleidyddiaeth Cymru angen ei adfywio, os nad eil ail-ddeffro, ac er y byddwn wrth fy modd yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn codi o'u cwsg, mae'n amlwg mai Plaid Cymru fwy denamic a chynwysol sy’n ganolog i’r gwaith o wella democratiaeth wleidyddol yng Nghymru.

Mae yna dri ymgeisydd cryf, pob un â chryfderau a gwendidau.



Mae Leanne Wood, yr arweinydd ers 2012 ac mae wedi cael uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Yn Hystings teledu arweinwyr Etholiad Cyffredinol 2015 roedd hi'n ddigon effeithiol ac roedd ei buddugoliaeth yn etholiadau’r Cynulliad yn y Rhondda yn drawiadol. Ond rwy’n credu ei bod wedi cyrraedd pwynt sy'n wynebu pob arweinydd yn ei amser - efallai fod Leanne wedi pasio ei ‘dyddiad gwerthu’ gwleidyddol. Mae hyd yn oed ei pholisiau yn perthyn i oes wahanol, yn agosach at Brydain ganoledig fy ieuenctid na’r Gymru ddatganoledig!

Yna mae Adam Price, sy’n AC ers 2016, ond fu’n AS yn 2001 ac am ryw reswm na allaf ei ddirnad gamodd i lawr yn 2010. Efallai y gall rhywun daflu ychydig o oleuni ar hyn? Mae ganddo hefyd lawer o gryfderau, yn berfformiwr cryf, yn gwybod sut i ddal y penawdau a sydd a defnder i’w feddwl yn gyffredinol. Ond mae'n dueddol yn aml o ‘saethu o'r glun’ heb fod yn ddigon strategol – yn debyg i Boris Johnson sydd hefyd yn tueddu i saethu bwledi i bobman.

Yn olaf, mae’r newydd-ddyfodiad, Rhun ap Iorwerth, oedd â phrofiad cyfryngau a phrofiadau proffesiynol eraill cyn cael ei ethol yn AC yn 2013. Mae'n sicr yn gyfathrebwr a datblygwr polisi effeithiol, gyda'r gallu i apelio at gynulleidfa ehangach y tu hwnt i sylfaen pleidleiswyr presennol Plaid Cymru. Mae’n eithaf tebygol bod Rhun yn wleidydd mwy cynhwysol a fyddai'n gallu cynyddu aelodaeth Plaid Cymru o'i lefel isel presennol o tua 8,000 o aelodai, ar adeg pan mae gan yr SNP dros 125,000 o aelodau!

Nawr, dydw i ddim yn aelod o Blaid Cymru ond petawn i, dyma rai o'r cwestiynau allweddol y byddwn i'n gofyn i fy hun:

1. Pa un o'r tri fyddai'n cynnig toriad clir gyda'r gorffennol, gan gynnwys yr 'arbrawf sosialaidd' ar y chwith, a gynigir gan Leanne ac Adam? Cofiwch ddatganiad enwog Adam 'Roeddwn i'n sosialydd cyn dod yn genedlaetholwr'. Mae'n amlwg i mi fod eu gwleidyddiaeth yn eithaf tebyg. Mae gan Rhun hefyd werthoedd ar y chwith, ond mae'n ymddangos bod ganddo sylfaen ehangach i'w wleidyddiaeth.

2. Ai parhau â pholisïau 'Labor lite' yw’r ffordd ymlaen? Mae hyn wedi gweld y blaid yn aros yn llonydd. Gyda Llafur dan arweiniad Corbyn, bydd Plaid Cymru yn ei chael hi'n anodd cymryd pleidleisiau oddi arnynt ledled Cymru. Dangosodd yr etholiadau Cyffredinol a Chynulliad diwethaf hynny yn glir -  daeth Llafur o fewn llai na 100 o bleidleisiau o ennill sedd Arfon, gyda Hywel Williams AS yn cadw ei sedd, o drwch blewyn ...

3. Sut mae Plaid Cymru yn torri allan o'r cylch y mae wedi bod ynddo ers 1974? Bryd hynny, derbyniodd 174K o bleidleisiau ar gyfer etholiadau San Steffan, gan aros tan 2001 i gyrraedd ei lefel uchaf o 195K, cyn llithro i lawr - ar wahân i welliant bach yn 2015 (181K). O ran canran y pleidleisiau yng Nghymru, cafodd Plaid Cymru eu canlyniad sylweddol cyntaf yn 1970 (11.5%), yna’i chael yn anodd trwy gydol yr 1980au, gan gyflawni eu perfformiad gorau yn 2005 (12.6%), yna mynd lawr i 10.4% yn 2017.

Ar gyfer y Senedd, y flwyddyn orau o gryn bellter oedd 1999, gyda 17 AC a thua 28% o'r bleidlais. Fe welwyd adferiad da dan Ieuan Wyn Jones yn 2007, ond erbyn 2016 eu cyfran o'r bleidlais oedd 20% a dim ond 12 AC a etholwyd – ac mae dau ohonynt sydd ddim bellach yn swyddogol yn y blaid!

4. Sut mae'r blaid yn mynd i'r afael â'r cwestiwn 'annibyniaeth'? Mae nhw wedi osgoi hynny ers dyddiau Gwynfor Evans. Dychwelaf at hyn eto ...

5. Ac yn olaf, pa un o'r tri ymgeisydd fydd yn cynrychioli y 'newid clir a mawr sydd ei angen' gyda'r gallu i gyrraedd cynulleidfa ehangach? Yn wir, mae'n amser am arddull gwleidyddol fwy cynhwysol i Gymru gydag agenda radical a diwygiedig.

Rwyf am fentro i awgrymu mai’r unig ymgeisydd sy’n ateb y gofynion hyn yw Rhun ap Iorwerth, ac fe allai hyd yn oed fod yn wleidyddiaeth y gallwn i a phobl tebyg i mi gael fy nenu ato.