08/08/2024

Atgofion o 1974 fel yr ymdrinnir â hwy yn ein llyfr newydd ‘Only Three Votes’

 

Atgofion o 1974 fel yr ymdrinnir â hwy yn ein llyfr newydd ‘Only Three Votes’ – Brwydr Enaid Gwleidyddol Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn y 1970au. 

Tri digwyddiad – 

Llw Teyrngarwch yn yr iaith Gymraeg

Siarad Cymraeg yng Nghynulliad Cyngor Ewrop

Llywydd y Dydd, Eisteddfod Bro Myrddin Awst 1974 – 50 mlynedd i'r dydd

Gyda lansiad y gyfrol ‘Only Three Votes’ gan Parthian a gynhelir ar Awst 9fed yn Storyville, Pontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod daeth digwyddiadau a ddisgrifir yn y llyfr yn ôl i’r meddwl.

Rwyf bob amser wedi edrych yn ôl gyda boddhad a mwy na ychydig o falchder ar fy ymdrechion i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn weledol yn 1974.

Achosodd dau ohonynt rywfaint o syndod ac annifyrrwch o fewn pwyllgor gwaith Plaid Lafur etholaeth Caerfyrddin yn ogystal â nifer o ASau Llafur Cymreig yn San Steffan. Achosodd y trydydd bryderon a dicter o fewn Plaid Cymru yn yr etholaeth.

Cymryd y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg Chwefror 1974 - ar dudalen 103.

Ers rhai blynyddoedd bu honiadau bod Gwynfor Evans, ar ôl ennill trwy ym mis Gorffennaf 1966, wedi cymryd y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg yn y Senedd ond nid felly y bu. (Er gwybodaeth, heb dyngu'r Llw ni all AS gymryd rhan yn trafodaethau  ar llawr y Tŷ Cyffredin.)

Ar ôl Etholiad Cyffredinol 1970 daeth mewnlifiad o Aelodau Llafur Cymraeg eu hiaith i’r Senedd a felly gofynnom am ganiatâd i dyngu’r Llw yn Gymraeg ond eto fe’i gwrthodwyd. Ar ddiwedd 1973 cysylltodd Tom Ellis a minnau â’r Llefarydd a Chlercod y Tŷ i ddadlau pam ei bod yn briodol ac yn iawn i’r Llw gael ei wneud yn Gymraeg ar ôl yr etholiad nesaf.

Yna daeth etholiad ym mis Chwefror 1974 a chadwais Gaerfyrddin gyda tair pleidlais  ‘Only Three Votes’ Y tro hwn roedd y gwaith sylfaenol wedi'i baratoi ynghylch y Llw yn Gymraeg. Felly Chwefror 1974 oedd y tro cyntaf i'r Llw gael ei gymryd yn Gymraeg yn y Senedd a gwnaeth sawl AS Cymreig hynny.

Siarad Cymraeg yng Nghynulliad Cyngor Ewrop yn Strasbwrg Mai 1974 – tudalennau 153 i 156

Wna i ddim cofnodi yma sut y daeth i fod a beth oedd yr ymateb yn y Cynulliad ar y pryd nac, yn bwysicach fyth, yr ymateb wedyn. Gorau fydd i chi i ddarllen y llyfr! Digon yw dweud mai syniad John Smith AS (yn ddiweddaeach fu yn arweinydd y Blaid Lafur ond yn anffodus fu iddo farw’n  yn gynamserol ). Roedd yr hyn a ddigwyddodd wedi taro prif benawdau newyddion yn ôl yn y DU. Ond nid oedd ymateb o fewn pwyllgor gwaith y blaid yng Nghaerfyrddin ac Aelodau Seneddol Cymru mor ffafriol â hynny. Serch hynny roedd peilot yr awyren a hedfanodd y ddirprwyaeth Brydeinig yn ôl i Lundain, wrth ei fodd – ganwyd ef yn Lanelli.

Mae wedi bod yn destun balchder aruthrol mai fi oedd y gwleidydd cyntaf i siarad Cymraeg mewn cynulliad Ewropeaidd. 

Llywydd y Dydd, Eisteddfod Bro Myrddin, Awst 9 1974 – tudalennau 139-141 a 164-166

Hanner can mlynedd i'r union ddiwrnod, Awst  9fed 2024, traddodais fy araith fel Llywydd y Dydd. Cafodd penderfyniad Pwyllgor yr Eisteddfod ei feirniadu gan Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin ac fe wnaethon nhw bob ymdrech i wyrdroi’r gwahoddiad. Roedd hynny bob amser yn mynd i fod yn ofer oherwydd ers degawdau bu'n draddodiad y byddai'r AS lleol, os oedd yn siarad Cymraeg, yn cael ei wahodd i annerch y Eisteddfod. Eto nid ‘rwyf yn cofnodi yma'r digwyddiadau, beth oedd y disgwyliadau a'r ymateb wedyn. Gorau fydd i ddarllen y llyfr! Heblaw y pwt bach yma gan ohebydd y Western Mail

‘roedden ni gyd dan ein sang yn y pafiliwn i glywed beth oedd e’n mynd i’w ddweud’ ... ‘a beth fydd yn digwydd?’