02/07/2021

Y cyn-ddarlledwr a gwleidydd Wyn Thomas ar y llyfr Whose Wales?


'Mae'n rhaid l longyfarch, Gwynoro Jones ac Alun Gibbard, am glamp o lyfr pwysig iawn ar holl agweddau datganoli ac anibynniaeth yng Nghymru. Fe ddylai hwn fod yn lyfr ar gyfer bob disgybl a myfyriwr sydd yn astudio hanes Cymru. Fe ddyliau bob un sydd yn cynreichioli Cymru mewn unrhyw ffordd ei ddarllen.'

'Nid tasg fyddai ei ddarllen, mae'r arddull yn ddiddorol, Yn gymwys, ac yn cydio ym mhob agwedd, personoliaethau, pleidiau, dulliau gweithredu, mesurau, mudiadau ac eraill. Testunau sydd yn swnio'n sych braidd, ond mae Gwynoro a Alun wedi gwneud pob un yn ddifyr ac yn hawdd i'w ddarllen.'

'I wir adnabod gwleidyddiaeth Cymru a'I hunaniaeth o gannol y 19eg ymlaen, mae'n orfodol darllen y llyfr yma. Mae’r awduron wedi llwyddo i ddod a nifer o ffynhonnellau ynghyd ac i ychwanegu at ein gwybodaeth o'r hanes, gan gyflwyno i ni'r Cymry lyfr mor bwysig yn hanes y DU a Chymru'n arbennig.'

 

Mae Whose Wales? ar gael yma i'w archebu