17/09/2019

Cytundeb rhwng Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Gwyrddion ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2019

Byth yn hawdd i'w drafod ond dyma'r unig ffordd ymlaen


Dyma fel y gwelaf i pethe 

Cyn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed cyhoeddwyd gan Blaid Cymru a ' r Gwyrddion eu bod yn fodlon sefyll o ' r neilltu a rhoi reidiant i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru – ‘roedd yn benderfyniad cywir, a heb hynny nid wyf yn siŵr a fyddai Jane Dodds wedi cipio ' r sedd . 
Yn awr mae yna ddyfalu ynghylch sut i daro bargen er mwyn dyrannu'r etholaethau rhwng y tair plaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod  - ac yn sicr nad yw mor bell â hynny

Yn yr 1980au roeddwn yn cyd-rannu timau cyd-drafod rhwng y CDY a'r Rhyddfrydwyr am drefniadau tebyg yn Etholiadau Cyffredinol 1983 a 1987 a hefyd etholiad Ewrop yn 1984. Roedd y cytundebau ' n gymharol dderbyniol er fe fu negodi called. Wrth gwrs y rheswm am hynny oedd bod teyrngarwch pleidiau ' n rhedeg yn ddwfn ac yr oedd nifer o etholaethau lle ' r oedd y penderfyniadau yn ymylol iawn ac yn wir gallai’r dyraniad y brif blaid i ymladd y seddau wedi bod n yn wahanol. Felly roedd elfen o gyfaddawdu a tharo bargen

Yr wyf yn siŵr mai dyna ' r sefyllfa yn y trafodaethau presennol, os nad yn fwy felly.

Felly yn ystod y diwrnod diwethaf, mi wnes ymgais i ddyrannu’r  seddau rhwng y partïon fel yr wyf i yn gweld pethe.

Fy mharamedrau oedd edrych ar ganlyniadau etholaethol  Etholiad 2010, ar gyfer etholiad cyffredinol 2010, sef yr etholiad cyffredinol diwethaf a gynhaliwyd o dan 'amgylchiadau arferol' mae'n debyg. Wrth hynny rwy'n golygu bod Etholiad Cyffredinol 2015 yn un lle cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu cosbi ' n ddifrifol oherwydd blynyddoedd y glymblaid gyda’r Torïaid. Yna fe ddylanwadwyd ar Etholiad 2017 yn fawr gan Brexit a’r pleidleisio tactegol a gymerodd le. Oherwydd hynny fe ddaeth yn ras dau geffyl rhwng y Torïaid a Llafur. Yna edrychais ar ganlyniadau etholiad Senedd Cymru 2016 a ' r etholiadau Ewropeaidd ychydig yn ôl.

Mae'n wir fod ychydig o seddi yn y tablau isod ble y gellid bod wedi eu dyrannu'n wahanol.

Wrth gwrs mae Ceredigion yn cael ei dynnu allan o'r hafaliad oherwydd, gadewch i ni gyd wynebu’r ffaith byddai uffern yn rhewi drosodd cyn y byddai naill ai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru neu Blaid Cymru yn cytuno i aros lawr. .

Cefais anhawster hefyd wrth ddyrannu seddi i Wyrddion Cymru, er  cymaint ag yr wyf yn cytuno â llawer iawn o ' r hyn y maent yn sefyll drosto. Serch hynny, y mae yna seddi ble y gellir eu dyrannu'r naill ffordd neu'r llall–ac felly nid wyf wedi eu cynnwys yn y tablau isod.

Y rhain yw

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Gorllewin Casnewydd-altho ' wedi ' i demtio i wneud DRh
Dwyrain Abertawe
Dyffryn Clwyd

efallai y gallent fod yn bedair etholaeth lle y gallai ' r Gwyrddion sefyll.

Grwp 1

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - 8
       Plaid Cymru - 10
Brycheiniog a Maesyfed
Aberconwy
Canol Caerdydd
Caerffili
Gogledd Caerdydd
Gotllerin Caerdydd
De Ddwyrain Caerdydd a Penarth
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
De Clwyd
Gorllewin Clwyd
Merthyr a Rhymni 
Llanelli
Mynwy
Castell Nedd
Trefaldwyn
Ynys Mon
Dwyfor Meirionydd
Arfon


Grwp 2

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - 11
       Plaid Cymru - 6
Aberafan
Blaenau Gwent
Alun a
Dyffryn Cynon
Penybont ar Ogwr
Islwyn
Dwyrain Casnewydd
Preseli
Gorllewin Abertawe
Rhondda
Torfaen
Ogwr
Dyffryn Morgannwg
Gwyr
Pontypridd
Wrecsam
Delyn


Beth bynnag dyma fy ymgais i. Cawn weld beth digwyddyth.

06/09/2019

Tuag at Gonfensiwn Cyfansoddiadol i Gymru


Y ffordd ymlaen 

Cyfarfod - Gwesty’r Castell, Merthyr, 7 Medi 2019 Amser:10.00

Yn dilyn cyflwyniad byr ac anysbrydoledig ddoe yn y Senedd  (Medi 5) i benderfynu a ddylid sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol i Gymru ai peidio, (gyda llaw, prin y gellid ei alw ' n ddadl) ac yn enwedig y penderfyniad negyddol a gyrhaeddwyd yr wyf yn fwy argyhoeddedig bod ' Confensiwn Y Bobl ' yn hanfodol.

Dros y ddwy neu dair blyneddd diwethaf mae pobl o bob plaid gwleidyddol, ynghŷd â rhai sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid, wedi galw am Gonfensiwn.

Ynghŷd ag eraill, rydw i hefyd wedi dadlau achos sefydlu’r fath beth er mwyn datblygu’r ddadl dros ddiwygio cyfansoddiadol yn y DU. Mae angen diwygio trwyadl a phell- gyrhaeddol.

Bu ymateb digon ffafriol i’r awgrym yma ar y dechrau, gan gynnwys ymateb cefnogol gan cyn Brif Weinidog a chyn Prif Weinidog Cymru hefyd, ond does dim byd wedi digwydd hyd yn hyn.

Rwy’n argyhoeddedig na fydd achos diwygio cyfansoddiadol yn symud yn ei flaen tan y bydd i’w weld yn amlwg bod pobl yn cynllunio’n weithgar ar ei gyfer. Nid areithiau, erthyglau a raliau sydd eu hangen yn unig. 

Heb y gweithgaredd yma, credaf y gall Cymru gael ei hesgeuluso ac o bosib, ei gadael ar ôI.

Gallaf gymharu’r sefyllfa gyda’r cyfnod pan ofynnwyd i mi, ac eraill, i baratoi tystiolaeth y Blaid Lafur yng Nghymru ar gyfer Comisiwn Kilbrandon. Casgliadau’r Comisiwn hwnnw oedd yn sylfaen i Gynulliad Cymru yn 1999.

Ni fydd newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol yn digwydd trwy ddamwain. Rhaid cynllunio ar ei gyfer.

Gwelaf y Confensiwn yn gatalydd ar gyfer y camau nesa a rwy’n hapus i fod yn gyd-lynudd yn y dyddiau cynnar.  Wrth gwrs, wrth i’r misoedd fynd yn eu blaen, y gobaith yw y bydd yn datblygu’n gorff mwy arwyddocaol, ac y bydd gwleidyddion San Steffan a’r Senedd,cynrychiolwyr llywodraeth leol, academyddion, mudiadau gwirfoddol ac ystod eang o gynrychiolwyr bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn cyfrannu.

Y nod yw galluogi cyfranogwyr, yn drefnus ac yn synhwyrol, i drafod a rhannu barn ynglŷn â ' r Cyfansoddiad gorau i Gymru. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cytuno ar nodau ac amcanion, o bosibl yn ystyried nifer fach o bapurau, ac yn gosod rhaglen waith.  

Bydd angen archwilio meysydd fel:

-        Gweithrediadau mewnol Cymru fel cenedl-wladwriaeth o fewn ystod o opsiynau cyfansoddiadol sy’n bosib gan gynnwys sofraniaeth
-        Cysylltiadau sefydliadol o fewn y fframweithiau
-        Dyrannu pwerau, hawliau a chyfreithiau
-        Datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd
-        Effeithiau cymdeithasol. 

 Rwy ' n rhagweld y gallai ' r eitemau ar yr agenda gynnwys  -

-        Nodau ' r Gynhadledd Sefydlog ar Gonfensiwn Cyfansoddiadol Cymru,
-       Cysylltiadau cyfansoddiadol a sofraniaeth yn yr ynysoedd hyn – papur sy’n gosod y posibiliadau,
-       Llyfryddiaeth o adroddiadau a dogfennau i ' w darllen a’u harolygu.

Cytuno ar raglen waith -
-   Pa mor aml y dylid cwrdd?
-   Nifer aelodaeth y Gynhadledd Sefydlog,  
-   Am ba hir ddylai ' r Confensiwn fod mewn bodolaeth? 

 Yn ogystal, gallai ' r nodau a ' r amcanion fod ar hyd y llinellau canlynol

-       Cyrraedd y strwythur cyfansoddiadol gorau i Gymru,
-       Archwilio ' n drylwyr anghenion bywyd democrataidd Cymru,
-       Ymchwilio y modelau presennol a gynigwyd gan brif awdurdodau i gynllunio strwythur sefydliadau democrataidd i Gymru ar gyfer y dyfodol,
-       Adeiladu consensws ledled Cymru,
-       Cyfrannu at unrhyw ymchwiliadau Cyfansoddiadol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cychwyn a'u cynnal.

19/06/2019

Recordiau o John Jones, Cwmmawr -'Cymro' - tua 1960

Tua chwe degawd yn ol fe gynhyrchwyd chwe record o ganeuon fy nhadcu John Jones Cwmmawr. Ei enw esteiddfodol oedd 'Cymro'.'Roedd yn adnabyddus traws de Cymru ac yn enwedig yn Eisteddfodau'r Glowyr ym Mhorthcawl. Cefais y records blynydde 'nol gan fy nhad. A dyma nhw er cof a chadw.

'Roedd tua 80 deg ar y pryd. Cof sydd gennyf o deulu a oedd yn gerddorol iawn ac yn berfformwyr a nifer, gan gynnwys rhai o'r wyron, gyda lleisiau canu da. 

Gyda pob record mae yna grwp o luniau o'r teulu ac eraill - dim mewn trefn strwythedig. Eto y mwyafrif o'r llunie mewn album oedd gan fy nhad John Ellis.



Record 1 'Cloch y Llan' Llunie - Beti, ei ferch a oedd yn cyfeilio, John Jones gyda'i.gwpane, gydai wraig, Beti eto, llun o'r plant ar achlysur priodas Aur eu rhieni, gyda Joe Gormley yn Eisteddfod y Glowyr ac yna gyda minne.

Record 2 'Buddigoliaeth' Llunie - gyda fy nhadcu a'i gwpane ('roedd yn hynod browd ohonynt), achlysur priodas Aur, gyda'r wyron.

Record 3 'Caersalem' Llunie - Beti, cwpane, cydweithwyr o Lofa'r Tymbl

Record 4 'O'r Niwl i'r Nef' llunie - Beti, priodas Aur, pennill amdano gan y bardd Dai Culpitt o Gefneithin, gyda Joe Gormley, pedwar cenhedlaeth yn 1969 a'r mab Glyndwr Cennydd yn faban, tu allan i'r gweithdy yn y Lofa.

Record 5 'Yr Hen Gerddor' Llunie - Cwpane, mewn priodas, priodas ei ferch Fanny a Gwyn, Jeannie a Dai, ei fab Gwilym, Claudia ( yr unig blentyn sydd dal yn fyw bellach), pedair o'r merched -Valmai, Bronwen, Beti a Claudia, Jeannie.

Record 6 'Pistyll y Llan' LLunie - 'Yn ei Elfen', cwpane, priodas Elsie a Bryn, Bronwen, Lilian pan yn nyrs, Lilian a'i gwr Glyn (fu'n garcharor rhyfel yn rhyfel Korea), Elsie, priodas fy mam a nhad, yn 'page boy' priodas Valmai ac Alan, y tri nesa megis cynt ac yna yn ola priodas Claudia a Islwyn.

Wel dyna ni - peth atgofion o amseroedd hyfryd 'rwyf o hyd yn eu trysori .

11/06/2019

Gwynoro yn ymateb i adolygiad Vaughan Hughes yn Cylchgrawn Barn


Wela i ddim byd anraslon nac anghytbwys yn fy llyfyr 'Gwynoro a Gwynfor' 

Beth sydd yma ydy cofnod o'r hyn a welais, glywais ac a dystiais 


Un nod syml oedd wrth fwrw ati i sgrifennu’r llyfr ‘Gwynoro a Gwynfor’, sef croniclo hanes etholaeth Caerfyrddin 1966-75, a hynny mewn modd nad oedd wedi ei wneud mewn un cyfrol o’r blaen. Roedd y croniclo’n seiliedig ar archif gynhwysfawr nes i gasglu dros y cyfnod hwnnw. Mae corff y llyfr yn adrodd y stori fel roedd yn datblygu ar y pryd ac yn y bennod ola rydw i’n pwyso a mesur wrth edrych nôl heddi ar ddigwyddiadau’r cyfnod. Dw i ddim yn siŵr os ydy Vaughan Hughes wedi deall y strwythur yma. Trueni iddo ostwng i lefel tabloid trwy fy nghuddo o ‘bigo crachen’. Sylw arwynebol ar y gore.

Mae’n ddigon posib bod rhai yn gwybod am rhai o’r straeon sydd yn y llyfr eisoes, wrth gwrs ei fod e. Yng Nghymru ydyn ni wedi’r cyfan. Ond, mae y mwyafrif helaeth iawn o’r deunydd yma sydd yn gwbl newydd, fel mae’r rhan fwyaf wedi nodi wrth ymateb i’r llyfr, gan gynnwys mewn sgyrsiau radio a theledu ac adolygwyr eraill hefyd. Ac mae cael y cyfan gyda’i gilydd rhwng dau glawr yn newydd hefyd.

Ymgais oedd i ososd ar gof a chadw yr hyn ‘a welais, glywais ac a dystiais’. Ie,dweud yr hanes fel ‘roeddwn yn ei fyw ar y pryd. Wrth gwrs bod stori Gwynfor wedi cael ei cyfnodi droeon a throeon, ac mae hynny yn haeddiannol. Ond mae’r llyfr hwn yn cymeryd agwedd gwahanol ar bethe.

Roeddwn yn deall y bydde rhai yn anhapus â hyn. ‘Rwyn cofio’r diweddar Dr Phil Williams yn dweud wrthyf tua diwedd y saithdegau – ‘Fe geision ni ym Mhlaid Cymru dy ysgrifennu di allan o’rholl gyfnod a gwneud yn siŵr nad oedd fawr ddim son amdanat’. Wel,chwerthynais ar y pryd, ond roedd go agos at ei le. Mewn gwirionedd, mae’n dal i barhau hyd yn oed yn adolygiad Vaughan Hughes – a oes unrhyw gyfeiriad at fy ngweithgaredd â’m ymdrechion fel Aelod Seneddol? Na, anwybyddu’r cyfan!  

Dyw e ddim yn sôn am fy ymdrechion pan yn Aelod Seneddol, ac ymhell cyn hynny, i wneud y Blaid Lafur yn fwy Cymreigedd â’m cyfraniad sylweddol tuag at hybu datganoli. Cyfraniad sydd yn cynnwys bod y cynta i siarad Cymraeg yn un o’r Seneddau Ewropeaidd, cymryd fy llw yn y Gymraeg yn San Steffan a bod yn cyd-drefnydd sefydlu’r broses i ganiatau i unrhyw un arall wneud hynny hefyd i’r dyfodol. Dyma’r fath o ffeithie sydd wedi profi’n dân ar groen Plaid Cymru erioed.

Mae’n rhaid pwysleisio un pwynt mwy personol. Does dim chwerwder ynglŷn â’r holl ymrafael a fu yn perthyn i fi o gwbl bellach. Dyna pam ro’ ni’n hapus i sgrifennu’r llyfr nawr, gan fod unrhyw deimladau cas wedi hen fynd a bod modd croniclo’n fwy cytbwys. Wrth gwrs fe fu ‘colbio, dirmygu a diraddio’ o blaid cefnogwyr ac aelodau Llafur a Plaid Cymru.  ‘Roedd yn gyfnod chwerw gyda atgasedd amlwg fel mae’r llyfr yn son. 

Profais yr atgasedd â’r chwerwder yna droeon, yn enwedig ar nosweithiau etholiadau 1970 a 1974. Bu’n rhaid i’r heddlu fy rhwystro rhag annerch y dorf yn‘70 oherwydd yr awyrgylch cas, a chefais bygythiadau personnol wedi cyfri etholiad ‘74 pan enillais o dair pleidlais, a bu’n rhaid i’r heddlu warchod fy nghartre am dau ddiwrnod.  Ydw, dwi’n gwbod digon am ddicter cefnogwyr Plaid Cymru y dyddie hynny. Dangoswyd cryn dipyn o chwerwder ac atgasedd hefyd tuag at etholwyr Sir Gar oherwydd i Gwynfor golli, yn y cylchgrawn ‘Taliesin’ er enghraifft.

Ond dyw’r dicter yna ddim wedi corddi dros y pedwar degawd a mwy ers hynny. Yn y blynyddoedd diwetha, dw i wedi rhannu llwyfan gyda rhai o selogion y Blaid ar faterion yn ymwneud a datganoli pellach i Gymru, gan gynnwys hunan lywodraeth i’n Cenedl.  Ni fyddai unrhyw chwerwder wedi caniatau i fi wneud hynny. A beth bynnag, dw i ddim am adael i unrhyw chwerwder o’r gorffennol pell ddiflasu fy mywyd a finne nawr yn fy saithdegau!

Dydw i ddim yn derbyn hefyd fod yna ‘anraslonrwydd’ gennyf ac mae’r penode olaf yn dangos hyn yn amlwg, lle dwi’n cyfadde gwendidau ac yn dyfaru ambell beth.
Difyr nodi bod Vaughan Hughes yn disgwyl i fi fod yn wrthrychol. Gallai ddim bod yn gwbl wrthrychol, dim mwy nag y gall e wrth fy meirniadu. Mae ei sylwadau yn sicr yn ategu’r hyn a nodir yn y llyfr, sef ei fod yn annodd iawn beirniadu Gwynfor o gwbl, er gwaetha ei wendidau â’i ffaeleddau amlwg. Ond lleiafrif oddifewn i BlaidCymru sydd wedi mynegu’r un farn â Vaughan Hughes, yn gyhoeddus o leia. Mae nifer fawr, yn enwedig y genhedlaeth ifanca, yn gweld pethe fel ma nhw, heb yr eilun addoli. Dw i’n cadw at y safbwynt sydd yn y llyfr, doedd Gwynfor ddim yn wleidydd da,cenhadwr oedd e – a dyna fy ymwneud i ag e yn y brwydrau etholaethol. Mae lan i eraill i werthuso ei gyfraniad mewn meysydd eraill.

Mae’r llyfr yn gorffen trwy fynegi dyhead didwyll y bydde wedi bod yn beth da petai Gwynfor a fi wedi siarad a thrafod gyda’ngilydd. Wnaethom hynny erioed, yn hytrach anwybyddu’n gilydd a fu. Bydde’r ddau ohonom wedi cytuno ar gryn dipyn dw i’n argyhoeddedig. Welai ddim byd anghytbwys nac anraslon yn y fath osodiad.

26/05/2019

Dyfyniadau o lyfr Gwynoro a Gwynfor.


Ymateb cefnogwyr Gwynfor i fuddugoliaeth Gwynoro yn 1970.
Fe’m rhwystrwyd rhag siarad o falconi’r neuadd oherwydd ymddygiad y dorf. Dyna sydd yn arferol i’r ymgeisydd buddugol, wrth gwrs, ond chefais i mo’r cyfle. Doedd dim llawer o wahaniaeth gen i ar y noson, roedd blasu’r fuddugoliaeth yn ddigonol.
Ond daeth yn amser meddwl am adael Neuadd y Dre. Roedd yr heddlu yn ansicr iawn a ddylen i a Laura fynd allan o gwbl. Dywedwyd wrthym nad oedd yn saff i ni fynd trwy’r drysau ffrynt ac na allen nhw warantu ein diogelwch.
Ar ôl ennill o 3 pleidlais yn etholiad Chwefror 1974.
Ar ôl cyrraedd adref, aeth y ffôn rhyw chwech gwaith gyda lleisiau gwahanol yn chwythu bygythion i’n lladd neu niweidio’n ddifrifol. Fe adroddwyd y digwyddiadau i’r heddlu, ac am y 72 awr nesaf codwyd bob neges ffôn ganddynt yn swyddfa’r heddlu.



Yr Arwisgo
Heb os fe siomwyd a diflaswyd nifer fawr o bobol gan ddiffyg cefnogaeth Plaid Cymru i’r Arwisgo. Ond yr hyn a wnaeth pethau’n llawer gwaeth oedd penderfyniad Gwynfor i beidio â mynd i’r seremoni ei hun…Ond roedd rhagor o halen i ddod i’r briw, a Gwynfor ei hun roddodd yr halen yno! Er ei fod ar ymweliad prin â San Steffan ar ddiwrnod yr Arwisgo, gwnaeth yn siãr y byddai’n ôl yn ei etholaeth i groesawu’r Tywysog Cymru newydd ar ei daith i Gaerfyrddin. Dyna un o gamgymeriadau mwyaf bywyd gwleidyddol Gwynfor. Roedd pobol wedi dod i dderbyn na fyddai yn y seremoni. Ond, doedden nhw ddim yn barod i dderbyn ei fod yn fodlon cwrdd â’r tywysog pan fyddai ei daith ar ôl yr Arwisgo yn cyrraedd Caerfyrddin.
Fietnam
Doedd Plaid Cymru ddim yn unfrydol ei chefnogaeth i fwriad Gwynfor i ymweld â’r wlad. Roedd rhai, yn naturiol ddigon, yn pryderu am ei ddiogelwch ac yn wir am ei fywyd. Ar lefel ideolegol, credai adain oedd fwy i’r dde yn y Blaid y byddai’r ymweliad yn cael ei ddehongli fel cefnogaeth i’r garfan gomiwnyddol oedd yn brwydro yn erbyn yr Unol Daleithiau. A phryder arall, oedd yn berthnasol i fi yn etholaeth Caerfyrddin, oedd y byddai ymweliad tramor o’r fath yn atgyfnerthu’r ddelwedd roedd nifer yn credu bod Gwynfor yn ei chyflwyno ohono’i hun, sef fel yr Aelod dros Gymru, rhyw fath o arweinydd cenedlaethol, yn hytrach na’r Aelod Seneddol dros etholaeth Gaerfyrddin.
Ar lefel fwy gwleidyddol, roedd hwn yn gyfle euraidd i fi daro ambell ergyd i gyfeiriad Gwynfor. Wedi dod ’nôl o Cambodia, siaradodd Gwynfor gryn dipyn am y sefyllfa yn Fietnam yn gyffredinol, gan gynnwys yn Nhñ’r Cyffredin. Dau sylw o’i eiddo wnaeth fy sbarduno i ymateb yn y wasg. Yn gyntaf, ei awgrym mai bai’r Americanwyr oedd rhyfel Fietnam, sef y sylw a wnaeth yn ystod un sesiwn o’r Senedd yn San Steffan. Ac yn ail, ei sylw’n cymharu Plaid Cymru â’r National Liberation Front yn Ne Fietnam. Roedd y ddau sylw yn gwbl wallgo.
Bomio
Gofynnwyd i Gwynfor gondemnio’r defnydd o drais yn enw cenedlaetholdeb. Gwrthododd wneud hynny. Gofynnwyd iddo wneud hynny ar lawr y Tñ Cyffredin hefyd. Gwrthod a wnaeth. Doedd hynny ddim yn syndod i fi. Oherwydd yn syth ar ôl ennill yr isetholiad, dywedodd yn y Times:
The government does not think anyone is serious until people blow up things or shoot others.
Fy ymateb i yn y papurau lleol oedd nodi efallai bod rhywun wedi cymryd Gwynfor Evans o ddifri.
Yn hytrach, yn y Western Mail, ac ar raglen deledu Heddiw, honnodd mai gwaith y Gwasanaethau Cudd oedd y bomio, er mwyn dwyn cywilydd ac anfri ar achos cenedlaetholdeb.



Yr Almaen.
(Roedd nifer o sylwadau yn llyfr Gwynfor, Wales can win, wedi cythruddo Gwynoro. Er enghraifft:)
German invaders could not have caused more than a fraction of the havoc to Welsh national life than the British system had been wreaking for generations.
Gwnaeth sylwadau tebyg pan ymosododd Rwsia ar Tsiecoslofacia. Honnodd bryd hynny fod y gorthrwm a ddioddefodd Cymru trwy law’r Saeson yn waeth o lawer. Wrth gyfeirio at yr Ail Ryfel Byd yn benodol, dywedodd:
At a time when the vast majority of their fellow countrymen had been brainwashed by Britishness... to ask them to kill their fellow human beings for England in these circumstances was, they felt, to become murderers.
Yn y papurau lleol, fe ymosodais ar y fath sylwadau:
Gwynfor can not accept that in both World Wars, a great deal was at stake for the people of Wales, but according to him, these wars were waged ‘not to defend anything of great value to Wales’.
Yr ‘A’ fawr
Mae’r llyfr yn trafod y ddadl ynglyn a’r defnydd o’r gair ‘annibyniaeth’. Mae’n ymwneud â diffinio elfen ganolog gwleidyddiaeth cenedlaetholdeb. Yn y cyd-destun hwnnw, clywn gryn dipyn am annibyniaeth y dyddie yma gan arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price.
Ond o ba lyfr emynau oedd Gwynfor yn canu? Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd Siaradodd Saunders Lewis yn nhermau statws dominiwn ac wedi hynny siaradodd Gwynfor yn nhermau conffederaliaeth.

Doedd annibyniaeth ddim yn rhan o eirfa yr un o’r ddau. Ond roedd yr ymosodiadau ar Blaid Cymru yn y cyfnod sydd dan sylw yn y llyfr hwn yn seiliedig ar y gred bod y Blaid yn galw am Gymru annibynnol.

Beth mae hyn yn ei olygu felly? Plaid genedlaetholgar yn cael ei diffinio yn nhermau galw am Gymru rydd ond dau o’i harweinwyr cyntaf heb ddefnyddio’r gair annibyniaeth o gwbl. Daeth hyn dipyn yn gliriach ar ôl darllen ymhellach.  
“Do not ask for independence for Wales. Not because it is impracticable but because it’s not worth having... we want not independence but freedom and the meaning of freedom in this respect is responsibility’’.

Yn 1976 cyhoeddodd Pennar Davies lyfr ar Gwynfor. Ynddo mae’n crynhoi ei ddealtwriaeth o safbwynt Gwynfor

…’’it is not independence in the form of ‘untarnished sovereignty’ that is Plaid Cymru’s aim but an essential freedom to cooperate and work with other nations’’

 Gwynfor fel gwleidydd
…does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant. Yr argraff ges i oedd ei fod yn wleidydd ac ynddo wendidau amlwg a amharodd ar ei yrfa, yn enwedig ar lefel strategaethol ac o ran ei duedd cyson i or-ddweud!...Cenhadwr brwdfrydig oedd e. Cenhadwr effeithiol ond nid oedd yr effeithiolrwydd hwnnw yn ei droi yn wleidydd da o gwbwl. Amhosib meddwl amdano yn yr un anadl â rhai o fawrion gwleidyddol y cyfnod, fel Clem Attlee, a drawsnewidiodd y Wladwriaeth Les, Aneurin Bevan a’r Gwasanaeth Iechyd, a chyn y ddau hynny, Lloyd George. Mae llawer mwy o enghreifftiau.


09/05/2019


TENSIYNAU A CHASINEB YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU’R 60AU A 70AU

Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans.

Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.


Mae'r hanes yn seiliedig ar archif bersonol sylweddol yr awdur, ac atgofion byw. Mae’r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a 1974 wrth i Gwynoro a Gwynfor Evans gynrychioli’r etholaeth ar wahanol adegau yn y 1970au.

“Dydw i ddim yn credu y bu cyfnod tebyg yng ngwleidyddiaeth Cymru i ganol y chwedegau a dechrau’r saithdegau, sef union gyfnod y brwydro rhwng Gwynfor a fi. Roedd y ddau ohonom, yn hynny o beth, yn lwcus i gael bod yn rhan o’r amser hynny. Roedd yn gyfnod o frwydro a herio’r status quo, yn enwedig ar faterion cyfansoddiadol yn ymwneud â datganoli a statws yr iaith Gymraeg. Dyma gyfnod Tryweryn, Y Blaid Lafur yn ennill etholiad gyffredinol am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, dyddiau trais, bomio, protestio, Cymdeithas yr Iaith a Saunders Lewis yn corddi’r dyfroedd y tu fewn i Blaid Cymru,” meddai Gwynoro Jones.

Er y gwahaniaethau pleidiol, roedd lles eu cenedl yn eu gyrru. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Meddai’r newyddiadurwr Gwilym Owen yn y Rhagair:

“O’r cychwyn cyntaf, doedd yna fawr o gariad brawdol rhwng y ddau fel unigolion na rhwng eu pleidiau chwaith. Roedd yna awyrgylch o wawd a dychan, chwerwedd ac ymgecru personol i’w chanfod yn ddyddiol bron. Yn wir fe ellid honni fod yna gasineb yn bodoli ar bob lefel.”

“Does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant,” meddai Gwynoro.

Mae Gwynoro hefyd yn honni fod yna debygrwydd rhwng y cyfnod cythryblus yna a heddiw, wrth i’r drafodaeth ar ddatganoli ac annibyniaeth i Gymru ac Ewrop fod yn bynciau llosg o hyd:

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r fflam wleidyddol wedi ailgynnau yndda i. Mae gen i flog, sianel YouTube, tudalen Facebook, cyfri Twitter a’r cwbl yn weithgar tu hwnt. Dw i’n annerch unwaith eto, yn enw mudiadau amrywiol fel Ie Cymru. O ganlyniad, mae’n naturiol fy mod yn edrych ’nôl ar y cyfnod pan oeddwn yn Aelod Seneddol. Mae’r awch i wneud hynny yn ôl nawr.”

Erbyn hyn, mae Gwynoro yn cyfaddef ei fod yn cyd-weld gyda Gwynfor Evans ar nifer faterion yn ymwneud â Chymru:

“Mae’n siŵr petai’n fyw heddiw y bydden ni’n cyd-fynd ar sawl peth yng nghyd-destun dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl,” meddai Gwynoro yn ei lyfr.

Maent erbyn hyn yn siarad yr un iaith, gan gynnwys am annibyniaeth Cymru. Yn ôl Gwynoro, nid oedd annibyniaeth i Gymru yn un o ddymuniadau Plaid Cymru yn ystod y 60au a 70au, a chân cymharol newydd yw’r elfen yma o wleidyddiaeth Cymru.

“Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd (Saunders Lewis).” 

Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.

Mae Gwynoro a Gwynfor gan Gwynoro Jones a Alun Gibbard ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).

26/04/2019

Fideo yn cyflwyno y llyfr 'Gwynoro a Gwynfor'

Pam cyhoeddi'r llyfr sy'n croniclo brwydrau ffyrnig Caerfyrddin 1966-74  


Dyma fideo deng munud o hyd, sy'n dweud pam i ni gyhoeddi’r llyfr, Gwynoro a Gwynfor. Mae’r llyfr yn croniclo’r brwydrau gwleidyddol yn etholaeth Caerfyrddin rhwng 1966 a 1974, gan ganolbwyntio ar y frwydr bersonnol rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans, y ddau a fu’n Aelodau Seneddol yn yr etholaeth yn y cyfnod dan sylw. Mae’r llyfr yn dangos yr atgasedd a’r chwerwder a oedd mor amlwg drwy’r cyfnod, nid yn unig rhwng y ddau unigolyn ond rhwng eu pleidiau â’u cefnogwyr. Go brin bod Cymru wedi gweld cyfnod mor chwerw yn wleidyddol.




Mae’r llyfr yn dweud stori Etholiad Cyffredinol 1966, pan ennillodd Plaid Cymru ei sedd seneddol gynta, trwy Gwynfor Evans, tair blynedd o frwydro gwleidyddol yn arwain at Etholiad `Cyffredinol 1970, pan gipiodd Gwynoro’s sedd oddi ar Gwynfor. Dyma gyfnod materion fel Arwisgo Tywysog Cymru, ymgyrchoedd bomio i enill cenedlaetholdeb a bwriad Gwynfor i ymweld a Fietnam yn stod y rhyfel rhwng y wlad honno â’r Unol Daleithiau. Caiff y straeon yma sylw yn y llyfr.
Yn 1974 roedd y ddau yn brwydro yn erbyn ei gilydd eto, nid unwaith ond ddwywaith. Bu dwy Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Gwynoro enillodd y gynta, o dair pleidlais yn unig. Gwynfor ennillodd yr ail. 

Wrth adrodd stori’r ddau unigolyn, mae Gwynoro hefyd yn esbonio agwedd y Blaid Lafur tuag at ddatganoli ac yn sôn iddo gael ei ddad-rithio gan y Blaid Lafur yn ei flynyddoedd cynta fel Aelod Seneddol. 

Daw’r llyfr i ben wrth i Gwnoro asesu ffordd mae’n ymateb heddi i ddigwyddiadau’r cyfnod, sy’n cynnwys ystyried ei berthynas gyda Gwynfor â’i agwedd tuag at 'annibyniaeth' i Gymru. Daw i’r amlwg nad oedd y ddau mor wahanol a hynny i’w gilydd wedi’r cyfan.

23/04/2019

Darlith ar Parch Philip Jones Porthcawl

Parch Robert Ellis yn dynwared Parch Philip Jones, Porthcawl


Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny


Fel y dwedais cynt wrth cyflwyno record Diwygiad 1904 cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.


Dyma record arall nes i brynu yn 1958. Mae’n dweud stori’r Gymru y cefais fy magu ynddi, sydd mor wahanol i Gymru heddi. Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny, mor ddylanwadol yn eu cymunedau ag yr oedd y sêr roc a phop newydd. Ro’dd nifer, os nad y rhan fwya, yn actorion ac yn ddramodwyr eu dydd.




Un o’r rhai mwyaf blaenllaw o’dd y Parch. Philip Jones, o Taibach, ger Port Talbot. Byddai’n denu torfeydd enfawr i’w glywed yn pregethu. Ro’dd yn weinidog yn Abergwaun, Llanelli, LLandeilo a Phontypridd, cyn ymddeol i Borthcawl.

Yn y recordiad yma, mae gweinidog ro’ ni’n ei adnabod yn dda yn y 50au â’r 60au, Y Parch. Robert Ellis, Tycroes, Dyffryn Aman, yn pregethu yn null Philip Jones. Mae hyn hefyd yn dangos dylanwad y pregethwyr mwyaf adnabyddus. Ro’dd pregethwyr eraill am recordio eu pregethau nhw, fel rhywfath o deyrnged – fel ma cerddorion yn gwneud heddi!

08/04/2019

Diwygiad 1904

Atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru



Ro’ ni yn fy arddegau pan ro’dd y diwylliant roc a phop yn blaguro, yn gyntaf Radio Luxembourg, yna Radio Caroline ac yn ddiweddarach, y BBC. Dyma flynyddoedd Fats Domino, Buddy Holly, Elvis, Cliff Richard, Lonny Donnegan, Dusty Springfield, Lulu, Twiggy i enwi ond rhai. Ro’dd hyd yn oed gwisg teddy boy ‘da fi!  

Y rhaglenni teledu ro’ ni’n eu mwynhau oedd ‘Six Five Special’ ac yna ‘Top of the Pops’.  Hefyd, ro’dd Canu Gwlad yn dechrau dod yn boblogaidd. Felly, dyma fy mywyd yn Foelgastell, Sir Gar, ar ddiwedd y Pumdegau.



Ond ro’dd dylanwadau eraill, yr un mor gryf, arna’i hefyd. Cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.

Felly, ro’dd ‘Craig yr Oesoedd’ a ‘Rock and Roll’ yn gorwedd ochr yn ochr â’i gilydd yn ddigon cyffroddus yn fy mywyd. Ac er gwaetha’r fagwraeth grefyddol, do’dd fy rhieni, na’m mamgu â’m tadcu, ddim yn credu bod y fath ddeuoliaeth yn unrhyw broblem.

Ma’r recordiad yma o 1958 yn adlewyrchu bywyd capel y Gwynoro ifanc. Mae’n dangos agwedd o fywyd Cymru sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu. Dw i wedi bod yn awyddus i gynnwys y recordiad ar fy sianel YouTube ers amser maith er mwyn atgoffa pobol o’r Gymru dw i’n ei chofio – gwlad sy’n wahanol iawn i Gymru heddi, heb os.

Mae’r recordiad yma’n cyflwyno atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru, sef ‘Diwygiad 1904’. Dwi’n cofio siarad gyda nifer ym mhentre Foelgastell a oedd yn cofio’r Diwygiad. Fe ddechreuodd yng nghapel Moriah, Casllwchwr ar Tachwedd 6 1904, parodd am dros flwyddyn a lledodd trwy gapeli a chymunedau Cymru. Ro’dd sôn amdano drwy’r byd a phapurau newydd yn dweud stori’r ffeneomena ysbrydol yma. Dyma ddyddiau clybiau rygbi yn cau er mwyn cynnal cyfarfodydd pregethu a gweddi!