18/11/2015

Cyflwyno Sianel fideo Gwynoro




Ddwywaith yn wythnosol bydd gennyf fideo yn trafod amrediad o faterion cyfoes.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod gennyf sianel YouTube ers tua blwyddyn. Ei chynnwys yn bennaf yw am fy mywyd ac amserau rhwng 1970 – 1992. Ar y Blog hwn gallwch ddod o hyd i ddolen i'r sianel ynghyd â 'm cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Yr wythnos diwethaf, lansiais raglen newydd sydd bellach ar YouTube. Byddaf yn gosod fideo ddwywaith yr wythnos a bydd yn bennaf yn trafod amrywiaeth o faterion cyfoes a phynciau gwleidyddol sy'n cwmpasu Cymru a'r byd! . Hefyd byddaf yn cynnwys pynciau megis chwaraeon a materion o ddiddordeb cyffredinol.

Cymewrwch cip olwg ar y trelar. Mae fideo arall bellach wedi‘i llwytho i fyny a bydd mwy  yn ymddangos yn rheolaidd o'r wythnos nesaf ymlaen.

Ar ochr y Blog, fe welwch ddolen i gyfres o’r enw ‘ O’r Archif’ sydd yn rhoi disgrifiad byr o hanes y Gynghrair rhwng yr SDP/Rhyddfrydwyr a dyddiau cynnar y Democratiaid Rhyddfrydol o 1981 tan 1992.


Mawr obeithio fyddwch chi'n hoffi y trafodaethau fideo. Fydd rhai ohonynt yn y Gymraeg.

17/11/2015

Gwynoro am fod yn ymgeisydd dros Canolbarth a Gorllewin Cymru

"Mae un o wleidyddion amlwg Cymru o'r saith a’r wyth degau am roi ei enw yn yr het i sefyll am set yn y Cynulliad.

Yr enw? Gwynoro Jones cyn aelod seneddol a chipiodd hen set Gaerfyrddin oddi wrth Gwynfor Evans. Llafur oedd ar y pryd ond nawr yn aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’n ceisio am le ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fe ddywedodd wrth Golwg bod

“Angen ei wneud yn Senedd (Y Cynulliad) go iawn gyda llawer mwy o ddadlau agored o faterion y Genedl. Credai gallaf gyfrannu at hynny. Yn olaf 'rydwyf wedi bod o blaid Senedd go iawn ers y 70 degau.

Wedi bod allan o wleidyddiaeth ers 1992 wrth arolygu ysgolion hwn fydd y cyfle cyntaf ac o bosib yr olaf i wireddu breuddwyd oes i fod yn Aelod ohono ac i sicrhau fod llais Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn cael ei glywed yn gryf.”

Dipyn o dasg, bydd cystadleuaeth frwd yn ei blaid am le ar y rhestr yma ond rhaid peidio ag anwybyddu siawns gwleidydd sydd wedi bod yn y gêm ers tro.


Gareth Hughes Gohebydd Golwg yn y Cynulliad: