Felly aeth y llais ar ddiwedd
y ffôn pan yn fy swyddfa yng Nghaerdydd
Roedd yn Medi
1967 ac roeddwn newydd cael fy newis gan Blaid Lafur Etholaeth Caerfyrddin fel
ei ymgeisydd i yn erbyn Gwynfor Evans yn yr etholiad cyffredinol nesaf a ddaeth
fel trodd allan yn 1970. Mae y modd ddigwyddodd yr holl beth yn destun i’r llyfr
rwy'n ysgrifennu ar hyn o bryd!
Yn 1967, yr
oeddwn yn gweithio fel economegydd cynorthwyol i Nwy Prydain yn pencadlys Cymru
yn Nhŷ Snelling, Caerdydd ac yr oeddwn yn mwynhau yn fawr y cwmni da oedd yno.
Ar ddydd
Llun ar ôl cael fy newis i fod yn ymgeisydd daeth y newyddion allan bod person 24
oed! wedi'u ddewis i herio Gwynfor Evans ac ar unwaith roedd y wasg a diddordeb
mawr yn wir – pam rhywun mor ifanc a chyda enw mor Gymreigedd?
Canodd y
ffôn ac roedd yna ohebydd y Daily
Express yn Llundain ar y lein ac fe aeth
ymlaen ar unwaith yn gofyn y cwestiwn uchod. Roeddwn ddim yn gwybod p'un a oedd
yn gobeithio i mi hael fy nal oddi ar fy ngard! ond ta beth yr oeddwn yn ddigon
cyfrwys ynglyn a’r cyfryngau hyd yn oed y dydddiau hynny!. Atebais fy mod wedi
fy enwi ar ol y Parchedig Gwynoro Davies, Pencader. Roedd gan fy mam a’m mam-gu
lun mawr ar y mur o Genhadon Hedd Y Methodistiaid Calfinaidd 1912 gyda lluniau pen
o 100 weinidogion.
Yn wir roedd
fy enw bob amser wedi bod yn ffynhonnell o ddadl ysgafn rhwng fy nhad a’i fam-yng-nghyfraith!
Mae'n debyg nad oedd fy mam yn dda ar ôl fy geni ac felly fy mam-gu a aeth i
gofrestru y genedigaeth. Naer roedd fy nhad wedi gadael cyfarwyddiadau yr
oeddwn i’m galw'n – Glyndwr Gwynoro – ond nid gwnaeth fy mam-gu gan gwrthdroi y
gorchymyn!
Yn ddiweddarach
mewn bywyd, deuthum i fod yn hapus iawn gyda’i fersiwn hi!
Ah! dywedodd
newyddiadurwr y Daily Express mae eich enw yn mynd llawer ymhellach yn ôl na
hynny. Cymerwch olwg ar lyfr 'Ar bywyd Dewi Sant' dywedodd ac fe welwch eich
enw ynddo.
Felly ffwrdd
euthum i’r hen Lyfrgell Ganolog yng Nghaerdydd lle yr oedd wedi treulio cymaint
o amser pan yn y brifysgol. HolYmholais o'r bobl yno am y llyfr bach hwn ac ar
ôl tua 20 munud fe gyrhaeddodd o'r archifau. Yn wir roedd yn llyfr bach, hen
iawn ac ynddo roedd fy enw – ynghyd â pedwar Saint eraill o Llanpumsaint!
Mae'n debyg yr
oeddynt yn bump o frodyr – Gwyn, Gwynno, Gwynoro, Ceithio a Celynin – ac roeddynt
wedi cymdeithasau â Dewi Sant. Ni wn pa mor wir ond roeddwn yn ymfalchio yn yr
hanes oedd yn y llyfr bach.
Allaf ddweud
fy mod yn wirioneddol falch iawn o fy enw, ac mae’r ffaith ei fod yn enw mor
iddo fy helpu yn fy ngyrfa. Bron byth defnyddir fy cyfenw pan yn cyfeirio ataf.
Yr wyd wedi
dod ar draws dau Gwynoro Jones arall. Y cyntaf oedd pan yn canfasio yn Cwmann
ger Llanbedr Pont Steffan yn 1970. Pan curais ar y drws atebodd dyn a cyn dweud
dim byd dywedodd ‘Gwynoro Jones? - cwrdd a Gwynoro Jones’. Yna yr wyf hefyd
wedi darllen am rhywun yng Nghaerfyrddin ryw 30 mlynedd yn ôl gyda‘r enw.
Felly ar
Dydd Gwyl Dewi Sant daeth y digwyddiad unwaith eto yn ol i'r meddwl.
Yr wyt wedi
siomi mwyafrif o bobl Cymru – a dweud y gwir nid wyt yn addas i fod yn Brif Weinidog ein
gwlad!
Wedi mynd yn
erbyn dy Prif Weinidog, rhan fwyaf o ASau ac ACau dy blaid yng Nghymru
Bellach yn carfan
UKIP – gyda Farage a Galloway
Mae Andrew
Davies wedi taflu ei blaid yng Nghymru i pwll tro ac gallaifod yn drychineb i’r Toriaid yn ymgyrch etholiadau Senedd Cymru. Er ei
bod yn wir na fydd Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) tan chwe wythnos ar ôl hynny fe
fydd llawer o faterion ymgyrch etholiad y Senedd yn anochel o gorgyffwrdd a dadleuon ynglyn a'r refferendwm. Dyma rhai ohonynt– rhagolygon ar gyfer twf econ omaidd a
swyddi, ailstrwythuro’r cyn-gymunedau diwydiannol, hyfforddiant a buddsoddiad,
amaethyddiaeth, twristiaeth, gwasanaethau gwledig a'r amgylchedd.
Mae David
Cameron yn dweud bod
Cronfeydd ariannol
yr UE wedi gwneud gwahaniaeth mawr "mewn llawer o rannau o Gymru.
Yna dywed ei Ysgrifennydd
Gwladol Stephen Crabb:
"ar y cyfan o gymharu costau a manteision,
risgiau a chyfleoedd, Prydain a Chymru yn mewn gwirionedd mae Prydain a Chymru yn
well eu byd tra yn aros yn rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig."
Cytunaf yn llwyr â Kirsty
Williams pan ddywed bod penderfyniad Andrew Davies yn:
"sarhad i
ffermwyr sy'n gweithio'n galed, perchnogion busnesau bach a phobl eraill ydd
mewn swyddi sydd yn gwbl ddibynnu ar masnachu gyda’r UE"
Yn ddi os nid
yw pobl Cymru bob amser yn sylweddoli fod yr UE yn chwarae rhan sylweddol yn
eu bywydau bob dydd - heb gwestiwn mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i les ein gwlad.
Mae'r Farchnad
Sengl y farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru. Yn 2014 'roedd allforio nwyddau
o Gymru i aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn unig yn werth bron £5.8bn. Ac mae’r
ymchwil diweddara yn dangos fod tua 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar
fynediad i'r Farchnad Sengl.
Mae hefyd yn
brif ffactor o ran mewnfuddsoddi. Bellach gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd
eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru ac maent yn cyflogi dros
55,000 o bobl.
Mae Cymru
wedi elwa o biliynau o bunnoedd o gronfeydd arianol yr UE dros y blynyddoedd.
Yn y flwyddyn hon yn unig ‘rydym wedi cael fuddsoddiad o £425 miliwn gan gronfeydd
strwythurol yr UE i gefnogi ein economi a'r farchnad lafur.
Rhwng 2007 a
2013 ‘roedd Cymru wedi elwa ar fuddsoddiad o dros £1.9bn allan o’r gronfeydd strwythurol yr UE tuag 290 o
brosiectau. Pan gynhwysir y cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru mae’r cyfan
yn fuddsoddiad o £3.7bn ar y prosiectau yma.
Mae'r holl
arian hyn wedi helpu’r prosiectau UE i gyflawni manteision pwysig ar gyfer
pobl, busnesau, yr amgylchedd a chymunedau, cefnogi 190,800 o bobl i ennill
cymwysterau addysgiadol a sgiliau, dros 62,800 i mewn i waith, a chreu 30,600 o
swyddimewn dros 10,400 o fentrau. Nid pethau bach ‘rydym yn delio gyda pan yn
penderfynu eich pleilais dydd y refferendwm!
Eisoes mae £2
biliwn pellach wedi ei rhaglenni gan cronfeydd strwythurol yr UE dros y 6
mlynedd nesaf.
Meysydd eraill lle mae Cymru yn elwa o'r UE yw ymchwil gwyddonol, arloesi
a datblygiadau technoleg sy'n hanfodol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi o
ansawdd uchel.
Wrth gwrs bydd gadael yr Undeb
Ewropeaidd yn ddiau yn cael effaith ddinistriol ar ffermwyr y genedl, yr
economi wledig a twristiaeth. Ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn
dibynnu ar gymorth yr UE i fyny at rhwng 35-50% o'u hincwm gros. Mae astudiadau yn datgelu fyddai dyfodol llwm i ffermio y
tu allan i'r UE ac amcangyfrifir er enghraifft y gallai dim ond tua 10-15% o
ffermwyr cadw mewn busnes yn llwyddianus heb y lefelau presennol o gymorth.
Ar hyn o bryd, derbynnir tua £4.0bn
mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer amaethyddiaeth ym Mhrydain. Y dyfaliad gorau
yr ydw i wedi ei weld yw pe byddai Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar ei ben
ei hun, tu allan i'r UE, dim ond tua £1.0 biliwn y gallau’r llywodraeth ariannu.
Heb gwestiwn felly byddai gadael yr UE yn arwain at ganlyniadau difrifol ar
gyfer ffermio.
Yn sicr fydd yr effaith ar
economi Cymru a chefn gwlad yn peri poen! Mae 58,000 o bobl yn cael eu gyflogu
yn uniongyrchol yn y diwydiant amaethyddol. Pan gynhwysir y sectorau bwyd-amaeth a
phrosesu bwyd yn ogystal yna mae'r nifer yn cyrraedd tua 230,000 (18%
o'r gweithlu). Amcangyfrifir fod y
busnesau yma yn cyfrannu tua £6biliwn bob blwyddyn i economi Cymru.
Ar ben hyn mae polisïau
datblygu gwledig a mentrau eraill sydd yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig, twristiaeth, cymunedau, treftadaeth
a thirwedd.
Fel y dywedais mae Andrew
Davies wedi bod yn annoeth dros ben ac efallai wedi rhoi ei rhagfarnau personol yn gyntaf gan anghofio y
canlyniadau ar Cymru a'i phobl.
‘Sefydlwyd Amgueddfa Lloyd George yn 1947 ac fe‘i redwyd gan Ymddiriedolwyr hyd nes iddi gael ei throsglwyddo i'r Cyngor yn 1987. Mae'r Cyngor bellach yn rhedeg yr amgueddfa a hefyd Highgate, sef cartref plentyndod David Lloyd George, sydd wedi'i hadfer i ddangos i bobl sut brofiad oedd hi pan oedd yn weithdy cobler yn yr 1860au.
Mae'r amgueddfa yn un o'r unig ddwy amgueddfa ledled Prydain yn ymroddedig i gyn Prif Weinidog ac yn denu rhwng 6,000 a 7,000 o ymwelwyr y flwyddyn’.
Byddai cai yr amgueddfa yn golygu:
• llai o gyfleoedd i hyrwyddo hanes a dylanwad David Lloyd George ar Brydain a'r byd yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf ac yn ei gyfnod fel Prif Weinidog;
• yn cael effaith ar economi'r ardal o ran twristiaeth, a hefyd fe
• amddifadu’r ysgolion, colegau a chymdeithasau addysg a chyfleoedd ymchwil o’r adnodd holl bwysig a hanesyddol sydd yn atyniad gyda phroffil uchel.
Nawr mae yna gyfle i Llywodraeth Cymru, Cadw, Cymdeithas Lloyd George a llu o fudiadau eraill i ddod at ei gilydd i sicrhau am byth dyfodol yr amgueddfa sydd yn rhan mor amlwg o dreftadaeth Cymru.
Yn barod mae teulu Lloyd George wedi sefydly cronfa i godi £250,000 tuag at adnewyddu ylle hanesyddol hwn.
Yn ei anterth oedd
ei rym, ei ddylanwad, a'i fenter yn ddihafal yn y tir. Ef oedd Pencampwr y gwan
a'r tlawd.
‘He was the greatest Welshman which that
unconquerable race has produced since the age of the Tudors’ - Winston
Churchill
Fe anwyd David Lloyd George 153
flynyddoedd yn ôl bellach a cyn hir bydd 71 mlynedd wedi mynd heibio ers ei
farwolaeth. Ers y cychwyn mae wedi bod yn un o fy arwyr gwleidyddol ac yn
ddiweddar ‘rwyf wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol i atgoffa pobl amdano.
Ar
yr un pryd ag yr oeddwn wrthi'n paratoi fy mlog Saesneg cysylltodd rywun a mi o
ardal Llanystumdwy i fy hysbysu fod yr amgueddfa wych a tharawiadol yn y pentref i goffáu bywyd a chyflawniadau Lloyd George ar restr hir iawn o opsiynau i'w hystyried
fel toriadau gan Gyngor Sir Gwynedd.
Nodwyd gan y Cyngor:-
‘Sefydlwyd Amgueddfa Lloyd George yn 1947 ac fe‘i redwyd
gan Ymddiriedolwyr hyd nes iddi gael ei throsglwyddo
i'r Cyngor yn 1987. Mae'r Cyngor bellach yn rhedeg yr amgueddfa a hefyd Highgate, sef cartref plentyndod David Lloyd
George, sydd wedi'i hadfer i ddangos i bobl sut brofiad oedd hi pan oedd yn
weithdy cobler yn yr 1860au.
Mae'r amgueddfa yn un
o'r unig ddwy amgueddfa ledled Prydain yn ymroddedig i gyn Prif Weinidog ac yn
denu rhwng 6,000 a 7,000 o ymwelwyr y flwyddyn’.
Bellach mae Cyngor Gwynedd yn gorfod gwneud
toriadau o tua £50 miliwn yng nghyllid yr awdurdod erbyn 2017/18. Mewn dogfen
ymgynghori a fu ar gael i drethdalwyr gofynnwyd am eu barn ynglŷn â’r llu o
doriadau a gynigwyd gerbron ac fe dderbyniodd yr awdurdod tua 2000 o sylwadau.
Amcan a gyfrifir
byddai cau'r amgueddfa yn achub £27,000 y flwyddyn ond ar y llaw arall yn ôl y
Cyngor Sir byddai yn golygu:
• llai o gyfleoedd i hyrwyddo hanes a dylanwad
David Lloyd George ar Brydain a'r byd yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf ac yn ei gyfnod fel Prif
Weinidog;
• yn cael effaith ar economi'r ardal o ran
twristiaeth, a hefyd fe
• amddifadu’r
ysgolion, colegau a chymdeithasau addysg a chyfleoedd ymchwil o’r adnodd holl bwysig a hanesyddol sydd
yn atyniad gyda phroffil uchel.
Mae gennyf sawl atgof o ymweld â’r amgueddfa dros y blynyddoedd, a
chofiaf un ymweliad yn arbennig yn Hydref 1985 i ddathlu lansiad Cymdeithas
Lloyd George dan arweiniad Syr Winston Roddick.
Fe gynhaliwyd seremoni wrth y
bedd sydd mewn man tawel a heddychlon
iawn a gyda ni oedd ei ferch Lady Olwen. Gwnaethpwyd ychydig o areithiau byr ac
fe ganom Hen Wlad Fy Nhadau. I mi roedd yn brofiad ysbrydoledig.
Fel inni adael a’r fangre gofynnais i Lady Olwen beth fyddai ei thad
wedi dweud wrth David Steel a David Owen a oedd oeddynt ar y pryd yn cael
problemau cytuno dros bolisi amddiffyn Y Gynghrair. Ei hateb oedd byddai ef
wedi dweud wrthynt ‘just get on with it’!
‘Roedd Lloyd George yn ddiwygiwr cymdeithasol ac fe gyflwynodd
diwygiadau pan yn Ganghellor y Trysorlys sydd wedi elwa y rhan fwyaf o
gymdeithas ers hynny. Diwygiadau fel y Ddeddf Pensiynau 1908 a Deddf Yswiriant
Cenedlaethol 1911 ac yn wir fe ragflaenodd y wladwriaeth les.
Heb amheuaeth mae Lloyd George a Churchill yn gewri deublyg o hanes
Prydain 20fed ganrif. Wrth gwrs oedd ganddynt eu gwahaniaethau. Ond erys y
ffaith bod y berthynas rhwng y ddwy gawr fel yr honnodd Lloyd George yn 1938:
'the longest
friendship in British politics'.
Yn
wir, mae'n anodd meddwl am berthynas arall a ddaw yn agos.
Am
bron i 40 mlynedd Lloyd George oedd yr unig berson y byddai Churchill yn
gohirio’n gyson. Weithiau nid oedd yn hoffi darostwng i Lloyd George ac, mae'n
debyg, yn aml ‘roedd yn ymledu'n wyllt ar Lloyd George tu ôl i'w gefn; ond
roedd hefyd bob amser yn cydnabod rhagoriaeth y dyn hŷn.
Ar
ôl cyfnod o flynyddoedd fynd heibio heb iddynt gyfarfod fe wnaethant ar un
achlysur a dywedodd Churchill:
'Within five minutes the old
relationship between us was completely re-established; the relationship between
Master and Servant, and I was the Servant.'
‘When I first became Lloyd
George's friend and active associate, now more than 40 years ago, this deep
love of the people, the profound knowledge of their lives and of the undue and
needless pressures under which they lived, impressed itself indelibly upon my
mind.
Then there was his dauntless
courage, his untiring energy, his oratory, persuasive and provocative. His
swift, penetrating, comprehen sive mind was always grasping at the root, or what
he thought to be the root, of any question. His eye ranged ahead of the
obvious. He was always hunting in the field beyond. I have often heard people
come to him with a plan, and he would say "That is all right, but what
happens when we get over the bridge? What do we do then?"
In his prime, his power, his
influence, his initiative was unequalled in the land. He was the champion of
the weak and the poor. These were great days. Nearly two generations have
passed.
Most people are unconscious of how much their lives have been
shaped by the laws for which Lloyd George was responsible. Health insurance and
old age pensions were the first large-scale State-conscious efforts to set a
balustrade along the crowded causeway of the people's life and, without pulling
down the structures of society, to fasten a lid over the abyss into which vast
numbers used to fall, generation after generation, uncared for and indeed
unnoticed. The stamps we lick, the roads we travel, the system of progressive taxation, the principal remedies that have yet been used against unemployment—all these to a very great extent were part not only of the mission but of the actual achievement of Lloyd George.
Now we move forward confidently into larger and more far-reaching
applications of these ideas. I was his lieutenant in those bygone days, and
shared in a minor way in the work. I have lived to see long strides taken, and
being taken, and going to be taken, on this path of insurance by which the
vultures of utter ruin are driven from the dwellings of the nations.
His long life was, from almost
the beginning to almost the end, spent in political strife and controversy. He
aroused intense and sometimes needless antagonisms. He had fierce and bitter quarrels
at various times with all the parties. He faced undismayed the storms of
criticism and hostility. In spite of all obstacles, including those he raised
himself, he achieved his main purposes.
As a man of action, resource and
creative energy he stood, when at his zenith, without a rival. His name is a
household word throughout our Commonwealth of Nations. He was the greatest
Welshman which that unconquerable race has produced since the age of the
Tudors.
A
fydd y partïon yn ennyn digon o ymddiriedaeth i rwymo eu hunain mewn i raglen
ddiwygio a gytunwyd ganddynt cyn yr etholiad ac i'w galluogi i weithio gyda'i
gilydd ar ôl yr etholiad?
Yr wyf wedi dadlau ers tua chwe mis dylai'r
Democratiaid Rhyddfrydol fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer diwygio y cyfansoddiad
a’r dull pleidleisio. Golyga hyn sefydlu confensiwn trawsbleidiol gyda’r nod i
gytuno ar raglen ddiwygio flaengar erbyn 2018.
Felly yr wyf yn falch iawn bod yr SNP, y Gwyrddion
a Plaid Cymru yn unedig i alw am pact etholiadol gyda Llafur a Democratiaid
Rhyddfrydol i gytuno ar newidiadau ysgubol i system bleidleisio ar gyfer
etholiadau San Steffan.
Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn‘Yr Independent’ mae arweinwyr
y tair blaid yn galw am gytundeb ar ddiwygio etholiadol i'w cynnwys ym mhob maniffesto
ar gyfer 2020.
Yn y llythyr mae’r arweinyddion yn
croesawu'r trafodaethau yr ymddengys sydd yn digwydd rhwng Llafur a'r
Democratiaid Rhyddfrydol. Serch fy mod wedi darllen rhywle fod Tim Farron yn amheus
fod hyn yn digwydd!.
Mae’r tri Aelod Seneddol wedi ysgrifennu:
"Drwy weithio gyda'n gilydd rydym
yn credu mai'n bosibl i drawsnewid gwleidyddiaeth Prydain – ac y bydd system
bleidleisio decach yn helpu i gyflawni Prydain decach. Hoffem weld Llafur, y
Democratiaid Rhyddfrydol a'r pleidiau a gynrychiolwn yn uno gyda'i gilydd yn yr
etholiad cyffredinol nesaf gyda’r bwriad o gael maniffesto ar y cyd i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin.
Byddai'n rhoi llais i bob pleidleiswyr mewn etholiadau yn y dyfodol ac yn rhoi
mandad ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth yn gynnar."
Mae’r tri Aelod Seneddol yn addo gweithio gydag
arweinwyr y pleidiau eraill "ynglŷn â sut y gellir cyflawni’r addewid
hwn".
Ond beth yw barn arweinwyr y pleidiau eraill?
Jeremy Corbyn
Mae yn cyfaddef ei fod yn "agored" i pact
etholiadol gyda phleidiau eraill i ddiwygio y gyfundrefn etholiadol.
Pan ofynwyd iddo a fyddai'n barod i siarad a’r Democratiaid
Rhyddfrydol a'r pleidiau eraill am gytuno ar newidiadau yn y system
bleidleisio, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur "gallai ddigwydd". Ond pan
y pwyswyd ymhellach a oedd yn agored i’r syniad, ei ateb oedd: "wrth gwrs".
Tim Farron
Adroddir bod gymorthyddion i Tim
yn trafod a AS Llafur - rhywun sydd yn gyfaill agos i Corbyn
- ac sy'n gweithredu fel cyfrwng rhwng y ddau arweinydd. .
Mae un o’r cymorthyddion yn
dweud fod Tim:
"wedi dweud ers tro fod cyflwyno
mesur cynrychiolaeth gyfeannol yn rhan allweddol o ail-lunio gwleidyddiaeth
Prydain. Bydd ef yn gweithio gydag unrhyw un, yn holl bleidiau a dim, i
gyflawni hynny."
Honni’r hefyd bod y
Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn am
wladweinydd henoed, sydd yn uchel ei barch yn y Blaid Lafur, i ymgymryd â rôl
ffurfiol fel canolwr rhwng y partïon.
UKIP
Mae UKIP hefyd yn cefnogi diwygio etholiadol, ond yn annhebygol o ddod i
gytundeb ffurfiol â Llafur neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Un ffigur uwch sydd dros y misoedd diwethaf wedi galw am yr angen o sefydlu
cynghrair flaengar a Chonfensiwn Cyfansoddiadol trawsbleidiol yw David Owen.
Tynwyd sylw at hyn ar y blwg hwn yr wythnos diwethaf ac ‘roedd yn cynnig
syniadau adeiladol ynghylch y ffordd ymlaen.
Dywed David Owen:
'
Fe all Llafur ennill yr
etholiad nesaf yn 2020 – ond dim ond drwy "cynghrair flaengar". Mae
hyn yn galw am gyfaddawdu realistig gan Corbyn, Cynhadledd y Blaid, y Pwyllgor
Gweithredol Cenedlaethol a’r Blaid Seneddol. Mae'n golygu creu Confensiwn Cyfansoddiadol
yn 2017 ochr yn ochr â'r SNP (y blaid fwyaf nesaf mwyaf tebygol), y
Democratiaid Rhyddfrydol (os byddant yn newid eu polisi ar farchnad ym maes Iechyd),
Plaid Cymru, y Blaid Werdd ac unrhyw Aelodau Seneddol o Ogledd Iwerddon. Drwy
dutuno ar y diwygiadau yn eu gwahanol maniffestos gellid wedyn ddeddfu ar hyn yn
sesiwn gyntaf y Senedd.newydd yn 2020'
Y cwestiwn bellach yw bydd y
wagen yn rholio!
Yn y Blwg Saesneg::
Reflections on a chaotic and fragmented Union ,
its survival prospects - June 27 2015.
The Governance and the Voting System of the UK
Union is Bad for democracy,bad for government and bad for the voters - Aug 20 2015