"Mae un o wleidyddion amlwg Cymru o'r saith a’r wyth
degau am roi ei enw yn yr het i sefyll am set yn y Cynulliad.
Yr enw?
Gwynoro Jones cyn aelod seneddol a chipiodd hen set Gaerfyrddin oddi wrth
Gwynfor Evans. Llafur oedd ar y pryd ond nawr yn aelod o’r Democratiaid
Rhyddfrydol.
Mae’n
ceisio am le ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fe ddywedodd wrth Golwg bod
“Angen ei
wneud yn Senedd (Y Cynulliad) go iawn gyda llawer mwy o ddadlau agored o
faterion y Genedl. Credai gallaf gyfrannu at hynny. Yn olaf 'rydwyf wedi bod o
blaid Senedd go iawn ers y 70 degau.
Wedi bod
allan o wleidyddiaeth ers 1992 wrth arolygu ysgolion hwn fydd y cyfle cyntaf ac
o bosib yr olaf i wireddu breuddwyd oes i fod yn Aelod ohono ac i sicrhau fod
llais Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn cael ei glywed yn gryf.”
Dipyn o
dasg, bydd cystadleuaeth frwd yn ei blaid am le ar y rhestr yma ond rhaid
peidio ag anwybyddu siawns gwleidydd sydd wedi bod yn y gêm ers tro.
Gareth
Hughes Gohebydd Golwg yn y Cynulliad: