22/10/2015

Ydy bod yn Sosialydd yn bwysicach na bod yn Genedlaetholwr?

Beth yw pwrpas Plaid Commie - Cymru bellach? 

Gydag aelodau Plaid Cymru yn casglu ar gyfer eu cynhadledd flynyddol – cofiwch Tryweryn, 50 mlynedd yn ôl, i‘r wythnos.

Mae gwleidyddiaeth Cymru mewn llanast, ac mae'n sefyllfa sydd wedi bodoli fwy neu lai ers sefydlu'r Cynulliad. Nid yw ein gwleidyddiaeth yn gwasanaethu'r bobl yn dda ac yn wir mae'n sefyllfa lle ni allant ennill ynddo.
  
Yr unig opsiynau sydd gan y  bobl yw naill weinyddiaeth Lafur gyda mwyafrif; neu weinyddiaeth Lafur sydd yn cael ei chynnal gan naill ai Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol; neu weinyddiaeth Lafur a fydd yn chwilio am gytundebau byr-amser a dros dro, o bryd i'w gilydd er mwyn dal mewn grym . Onid yw'r opsiynau yn gyffrous dros ben!. Mewn gwirionedd mae gwleidyddiaeth ein gwlad yn cael ei reoli gan un blaid, sef Llafur ac nid oes rhyfedd fod Cymru yn statig ac yn ddi-flas. Ychydig iawn o fywiogrwydd sydd i’n wleidyddiaeth mwyach.

Mae llawer o wleidyddiaeth Cymru bellach yn gweithredu mewn modd cyfrinachgar ac megis 'siop gaeedig'. Gwelwn yr ASau ac ACau Llafur o Gymru yn gyhoeddus o leiaf yn hspud i weithredu dan arweiniad plaid Corbyn – ac eto un neu ddau ohonynt yn unig bleidleisiodd iddo. Nid oes unrhyw awgrymiadau o raniadau neu anghytundeb heblaw'r helynt a fu yn  ddiweddar ynglŷn a Jenny Rathbone. Mae'r un peth yn wir am Blaid Cymru er enghraifft cafodd Leanne Wood, mi gredaf dim ond cefnogaeth dau o'r ACau presennol Plaid Cymru wrth ymgyrchu am yr arweinyddiaeth. Mae’r gweddill yn enwedig y rheini sy'n cynrychioli'r ardaloedd mwy gwledig a Chymreigaidd o Gymru yn dawedog ynglŷn â drifft amlwg y blaid i’r chwyth. Mae bod yn sosialydd wedi bron mynd yn bwysicach na bod yn genedlaetholwr.

Ond trwy’r cyfan mae’r dyfroedd gwleidyddol yng Nghymru yn esmwyth, yn dawel a tangnefeddus. Dyna'r hyn a alwaf yn ystrywgar a gwleidyddiaeth afreal. Yn wir fentraf awgrymu fod arweinydd nesaf y Blaid Lafur yng Nghymru ar ôl dydd Carwyn Jones eisoes wedi clustnodi sef Huw Irranca–Davies, AS dros Ogwr, beth bynnag sydd yn cael eu dweud ar y foment. Stopiwch a meddylwch pam mae yn mynd i’r Cynulliad. Mae gan Huw un peth pwysig o’i ochr a hynny yw  iddo enwebu Jeremy Corbyn i fod yn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, er ni phleidleisiodd yntau iddo ef!. Stopiwch a meddylwch pam mae e yn mynd i’r Cynulliad blwyddyn nesaf.

 
Yr ydym ar drothwy cychwyn y ras ar gyfer etholiad fis Mai nesaf ac oni bai bydd newidiadau i'r polai piniwn, a derbyniaf fod hynny yn bosibl, mae’r arwyddion presennol yn awgrymu y bydd Llafur angen cymorth eto i ffurfio llywodraeth yn y Cynulliad. Eisoes fe welwn arwyddion o'r hyn sy'n fwyaf tebygol o ddigwydd sef cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Mae’n lled arwyddocaol fod Plaid Cymru wedi cefnogi Llafur ynglŷn â’r  mesur i ad-drefnu Llywodraeth Leol gan i’r ddwy blaid gytuno na weithredir dim tan ar ôl mis Mai nesaf.

Ni ddylai neb synnu oherwydd mae Leanne Wood wedi datgelu yn barod os fydd angen clymblaid neu unrhyw fath o fargen ar ôl mis Mai nesaf bydd hi dim ond yn siarad gyda Llafur. Felly, mae pobl Cymru yn gwybod nawr bod y slogan 'Bleidleisiwch i Blaid Cymru ac fe gewch Lafur’ cant y cant yn debygol.

Nid oes unrhyw amau y byddai arweinydd Plaid Cymru yn ddigon hapus i weithio gyda gweinyddiaeth Corbyn – mewn gwirionedd mae'n debyg y byddai yn hapusach nag y byddai Carwyn Jones! Ond ni fyddai hi wrth ben ei hun. Mae rhai eraill megis Bethan Jenkins, Adam Price a'i gyn cynorthwyydd Jonathan Edwards a fu hefyd yn trefnu ymgyrch  Leanne Woods adeg ras arweinyddiaeth y blaid. Mae cefndir gwleidyddol o leiaf tri ohonynt yn ddiedifar yn sosialaidd ac efallai yn llawer mwy i’r chwith pellach na hynny hyd yn oed. 

Yn ystod gornest arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr haf ofynnais gwestiwn mewn mwy nag un post ar fy mlog 'Beth yw pwrpas Llafur mwyach'? Roedd y plygiau a negeseuon trydar yn cael eu hanfon gennyf yn uniongyrchol at y pedwar ymgeisydd. Ond i fod yn deg mae aelodaeth a chefnogwyr Llafur, sydd yn rhifo tua 600,000, wedi cynnig ateb clir  a phendant gyda'r fuddugoliaeth ysgubol i Jeremy Corbyn. Mae'n gwestiwn a ofynnais yn ogystal ar ôl yr etholiad cyffredinol o 'm plaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, a hefyd Phlaid Cymru.

Wrth gwrs fe welir ychydig o newidiadau o bryd i'w gilydd yn yr etholiadau ar gyfer San Steffan neu Caerdydd ond symudiadau ar yr ymylon yn unig ydynt, oherwydd bob amser yr un canlyniad sydd yng Nghymru – y mwyafrif o’r ASau yn Llafur ac yn y Cynulliad bob tro Llafur sydd wedi ffurfio llywodraeth. Dros y degawd a fu mae'rr Ceidwadwyr wedi gwneud camau ymlaen ac yn mis Mai yr oedd perfformiad UKIP wedi achosi cyffro mewn llawer o rannau o Gymru. Ond eto fel y dwedais, ar y cyfan yr 'un hen un hen' ydy’r stori.

Ddwywaith bu cyfleoedd i newid pethau, ond yn ôl yr arfer awydd i ymglymyd â’r 'brawd mawr' wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2001 a Phlaid Cymru yn 2007 – yn y ddau achos ni fedrai Llafur lywodraethu heb gefnogaeth yr un ohonynt. Y ddadl a geir bob amser yw rhaid cael sefydlogrwydd a sicrwydd i lywodraethu. Mae hynny'n wir ond gallai'r blaid fwyaf lywodraethu gyda gras a ffafr, mewn geiriau eraill sicrhau fod ei pholisïau yn bodloni dymuniadau'r mwyafrif  o Aelodau'r Cynulliad heb yr angen cael cytundeb penodedig y pleidiai llai am bedair blynedd. Ond oherwydd y ddadl am sicrwydd a sefydlogrwydd mae pob peth yn gweithio er  budd Llafur.

Tacteg Llafur o hyd yw awgrymu i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru y byddai pobl Cymru byth yn maddau i naill neu'r llall o'r ddwy blaid pe baent yn mynd i glymblaid gyda'r Torïaid. Mae'n berffaith bosibl na fyddent ond nid oes neb wedi bod digon eofn i roi cynnig arni. Ta beth mae’r fath senario yn amhosibl i’w ystyried y flwyddyn nesaf pan gymerir i ystyriaeth y polisïau cynilo a ddilynir gan Cameron ac Osborne heb sôn am Refferendwm Ewrop, cael gwared ar y Ddeddf Hawliau Dynol, deddfi ynglŷn â’r Undebau ac ar ddisodli Tridant. Felly, mae'r canlyniad yn fis Mai yn edrych i fod go debyg i’r gorffennol.

Ni fyddai ots gennyf gymaint os digwydd i Lafur ennill os byddent yn creu Cymru ffyniannus, ddemocrataidd a chyffrous gyda safonau uchel i’r gwasanaethau cyhoeddus. Ond nid felly mae’r hanes wedi bod ers 1997. Felly dechreuais chwilio am y gwleidydd Cymreig megis Nicola Sturgeon gyda’r dewrder, steil, arddull a chryfder cymeriad i fod yn arweinydd Cymru yn wir ystyr y gair.

Pwy yng Nghymru heddiw gallai ddatgan fel Sturgeon yn ei chynadledd flynyddol geiriau fel a ganlyn gyda’r un awdurdod a sicrwydd:-

"Mae gennyf neges ar gyfer y Prif Weinidog heddiw... gwae chi os anwybyddir yr Alban. Gwybyddwch hyn fod pobl yn gwylio ac yn gwrando. A Cofiwch hyn: Nid chi a fydd yn penderfynu dyfodol yr Alban, ond pobl yr Alban. "

Nawr chwaer yr SNP yw Plaid Cymru ac fe ddaeth yna gyfle euraidd ar draws eu ffordd yn 2007 fel efallai y byddai wedi fod yn bosib i Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog ddatgan yr union eiriau. Yn anffodus collwyd y cyfle drwy anwadalu ymysg ACau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yr wyf wedi'u croniclo y stori hon eisioes mewn post ar Mehefin 29fed.
  
Yn hytrach, portreadwyd Plaid Cymru i fod yn amharod i gymryd rheolaeth o'r sefyllfa a ddim digon taer neu o bosib yr hyder i arwain Llywodraeth Cymru.  Yn union ar yr un adeg nid oedd gan yr  SNP unrhyw ofn o'r fath yn Holyrood pan aethant ymlaen i ffurfio Llywodraeth leiafrifol ac, ie, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr ar gyfnodau allweddol dros y pedair blynedd ddilynol.  Mae hanes yr Alban ar ôl hynny yn wybodus i ni gyd. 
 
Roedd y methiant i gydio yn feiddgar a gyda dwy law arweinyddiaeth 'clymblaid enfys' yn golygu bod Plaid Cymru yn condemnio Cymru i Lywodraethau Llafur am gyfnod hir.  Bellach yn hytrach na chael eu gweld fel dewisiad amgen i Lafur yng Nghymru darlunnir y Blaid yn aml yn ddim byd mwy na  'helpwr bach' Llafur.

Ond y ffaith yw bod Plaid Cymru wedi datblygu yn blaid fwy chwyth na hyd yn oed Llafur yng Nghymru ac mae'n edrych fel y bod Leanne Wood yn eithriadol o falch o hynny. Socialydd yw cefndir yr arweinydd os nad ymhellach i’r chwyth nag hynny hyd yn oed. Ond fodd bynnag, nid yw hi'n unig, geir ACau eraill sy'n datgan yr un ffydd megis Bethan Jenkins ac Adam Price sydd wedi datgan gyda balchder ei fod yn 'sosialydd cyn ei fod yn genedlaetholwr'.

Wrth ddilyn sylwadau a thrafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n amlwg bod yna ddwy garfan lled wahanol ym Mhlaid Cymru gyda'r elfen sosialaidd/chwith pell yn cynyddu. Bellach mae'n amlwg ei bod yn bell i ffwrdd oddi wrth blaid Gwynfor Evans yn ei gwleidyddiaeth a’i dyheadau. Yn wir cwestiynaf yn aml pam y mae'r cymunedau Cymraeg eu hiaith yn Ogledd-orllewin a De-orllewin Cymru yn parhau i gefnogi'r Blaid Cymru fodern.

Ystyriwch agwedd Plaid Cymru ers tro bellach tuag at Gymru i fod yn genedl hunanlywodraethol yn union ar yr un adeg pan mae’r SNP yn ymgyrchu’n frwd am annibyniaeth. Yn sicir ceir problemau yn yr Alban gyda gostyngiad mewn prisiau olew ac yn y blaen. Ac eto byth y clywir Nicola Sturgeon yn pwyntio tuag y problemau yn hytrach llais clir,  hyderus a phendant ar gyfer yr Alban sydd ganddi. Mewn cyferbyniad ar raglen BBC ‘Amser Cwestiwn’ esboniodd Leanne Wood  pam nad yw hi yn ymgyrchu am hunan lywodraeth neu annibyniaeth yn yr hinsawdd bresennol sydd yng Nghymru, ac fe ddywedodd:-

'Mae ein heconomi yn rhy wan. Rydym eisoes yn wynebu sefyllfa lle mae gweithwyr yng Nghymru yn derbyn incwm sydd ar gyfartaledd 85% o’r hyn a geir yn y DU. '

Pam ar y ddaear wneud achos Llafur a'r Toriaid yn hawddach?. Wrth gwrs, mae yna broblemau ar draws nifer i faes ym mywyd Cymru ond ar ôl ymladd Gwynfor Evans mewn tri etholiad cyffredinol mi wn yn sicr byddai geiriau o'r fath byth yn cael eu datgan ganddo. Yn hytrach byddai wedi beio’r sefyllfa, fel yr oedd yn fythol wneud, ar Lywodraethau 'Llundain' a oedd wedi 'esgeuluso', 'amddifadu', 'anwybyddu' a methu â buddsoddi yng Nghymru. Mae ei areithiau yn atseinio gyda mi hyd heddiw – yn wir mae'n debyg gallem lefaru un neu ddwy ohonynt!

Felly gyda chynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth ond dydd neu ddau i ffwrdd efallai ei bod yn bwrpasol dros ben fod y cynrychiolwyr a fydd yn ymgasglu yn ystyried beth yw diben, nod, gweledigaeth a strategaeth y Blaid dros y blynyddoedd i ddod. Mewn geiriau eraill, ‘Beth yw pwrpas Plaid Cymru mwyach’?

Er mwyn hybu y ddadl ymlaen ‘rwyf yn cynnwys dyfyniadau ar y pwnc hwn gan blogwr a ddeuthum ar ei draws yn ddiweddar.


Being a native of the Rhondda Ms Wood must know that throughout the Valleys (and indeed the south) there are tens and tens of thousands of people looking for a viable alternative to Labour, that’s why they turned out last month and last year to vote Tory and Ukip in Caerffili, Merthyr, Blaenau Gwent and Islwyn, and in the process pushed Plaid Cymru down to fourth place. So why should anyone who doesn’t want Labour in power vote for the party that will keep Labour in power?

Have those at the highest, policy-making levels of the party calculated that if a poor Wales votes Labour, then a poorer Wales might swing towards Plaid Cymru? Don’t dismiss the suggestion out of hand; just ask yourself, what other hope has Plaid Cymru got of ever becoming a successful party?

Well, of course, there is one, obvious route; Plaid could be a Welsh party, focusing on Welsh issues, from a Welsh perspective. But that option was rejected in favour of a slow, lingering death – for both nation and party – decades ago.

Last month I loaned Plaid Cymru my vote because I persuaded myself that doing so was a way of giving a proxy vote to the SNP, a party I respect greatly for confronting the Labour monster head-on, and slaying it. Compare that to what we now hear from Plaid Cymru – ‘A vote for us is a vote for Labour’. How do we explain the difference?

I can’t help thinking that one explanation for ruling out any pact with the Tories may be Ms Wood’s desire to play to a foreign gallery. I’m thinking now of those Left-Green ‘progressive elements’ Plaid so assiduously courted a few months ago. If so, then it’s another reminder of how divorced from Wales and Welsh issues Plaid Cymru has become. By comparison, the Scottish National Party does not fashion its policies to appeal to audiences in Islington, or the offices of the Guardian newspaper . . . and certainly not Labour HQ!

But if Plaid Cymru wants to talk about poverty, then okay. Let’s talk about the poverty of ambition in the party that has the nerve to call itself The Party of Wales. While the SNP is leading the Scottish people to independence, Plaid Cymru’s ambition extends no further than begging a few more crumbs from England’s table and propping up Carwyn Jones and his gang of deadbeats.

Almost fifty years after Gwynfor Evans won Carmarthen Plaid Cymru’s ambition today extends no further than acting as a crutch for the party of George Thomas and Neil Kinnock in a system of sham devolution. Now that’s poverty! And total failure.