11/01/2016

Wel mae Farage 'yn y ddinas'

Hen bryd iddo  ddechrau ateb cwestiynau a rhoi ffeithiau nid datganiadau gwag
Bydd gadael yr UE y gambl mwyaf yn fy oes i.

Mae UKIP yn dra effeithiol pan yn defnyddio tactegau sydd yn codi bwganod ac yn pwyntio allan y problemau o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a hefy manteisio ar anhapusrwydd pobl gyda cyflwr presennol gwleidyddiaeth Prydain. Ond pan herir hwy ynghylch sut fywyd fyddai yn gwynebu Cymru, ei phobl a chymunedau tu allan i’r UE nid oes dim ateb ganddynt. 
  
Felly rhaid inni bob amser herio UKIP, a hefyd y Toriaid sydd yn erbyn UE ac yn dadlau fyddai bywyd yn well tu allan, i ddweud wrth bobl Cymru beth fydd eu dyfodol yn mynd i fod. Beth a ddigwydd i’r buddsoddi, y twf economaidd, y dyfodol ar gyfer busnesau megis amaethyddiaeth a’r economi wledig ac ati?  Ar hyn o bryd y cyfan a geir oddi wrthynt yw ystrydebau a cyffredinoli gwag ac amwys.

Gan fod yna gymaint o ansicrwydd pam felly dylasai pobl Cymru neidio i fewn i’r tywyllwch? Pam cymeryd risg mor enfawr a gosod mewn perygl beth yr ydym yn gwybod o sicrwydd yn awr? Pan ddaw y dydd ar ôl y refferendwm ac os digwydd bydd y bleidlais yn ‘ie’ i aros yn y UE , yna yr ydym yn gwybod lle yr ydym. Bydd bywyd yn mynd yn ei flaen, a mwy na thebyg bydd rhai newidiadau i'n perthynas gyda’r UW wedi'u sicrhau drwy'r trafodaethau.

Ond os canlyniad i’r pleidleisio fydd ‘Na’ a thrwy hynny byddwn yn gadael yr UE, beth wedyn? Ni fydd dim troi'n ôl a newid meddwl ychydig flynyddoedd wedyn – go wahanol i adael clwb golff, plaid wleidyddol neu berthynas.

Heb os nac oni bae byddai ymadael yn dra anniben ac yn cymeryd amser i’w gwblhau.  Mae Cytuniad Lisbon yn caniatáu 2 flynedd neu fwy ar gyfer digwyddiad o'r fath ond nid yw yr UE yn nodedig am gyrraedd penderfyniadau cyflym. Yn sicr yn y sefyllfa pan fod angen trafod gyda 28 o wladwriaethau eraill sy'n gysylltiedig gyda amrywiaeth eang iawn o gytundebau, protocolau, cytundebau masnachol a chysylltiadau rhyngwladol eraill i ddatrys fydd trafodaethat rhwng Prydain a'r UE yn debygol o barhau am fwy na hynny.

Meddyliwch am yr ansicrwydd a'r effaith ar buddsoddiad, y marchnadoedd ariannol, gwerth y bunt, busnes a masnach, amaethyddiaeth a llawer mwy.

Felly beth a wyddom nawr?

Mae'r Deyrnas Unedig (DU) yn rhan o farchnad o 500 miliwn o bobl, ac mae gennym gytundebau masnach rydd gyda 50 o wledydd eraill. Hefyd ma hanner yr hyn rydym yn gwerthu tua £226bn yn mynd i'r UE ac mae 3 miliwn o swyddi ym Mhrydain yn gysylltiedig â masnachu mewnol gyda 28 o wledydd. O’r ochr arall buddsoddir £26bn y flwyddyn yn y DU gan wledydd yr UE.

Rhwng 2007 a 2013 mae’r Gronfa Strwythurol yr UE yn cael effaith amlwg ar ansawdd ein bywyd yma yng Nghymru. Fe gafwyd buddsoddiad o dros £1.9bn sy'n cwmpasu tua 290 o prosiectau a gyda arian Llywodraeth Cymru ac yn y blaen mae’r cyfan yn cynrychioli £3.7bn o fuddsoddi mewn prosiectau. Mae'r cyfan wedi wedi helpu i gyflawni manteision pwysig ar gyfer pobl, busnesau, yr Amgylchedd a chymunedau.

Mae'r cyfan wedi cynorthwyo dros 190,000 o bobl i ennill cymwysterau a sgiliau ar gyfer eu dyfodol ac mae dros 62,800 wedi cael gwaith. Yn ogystal mae dros 10,400 o fentrau wedi eu cefnogi. Eisoes mae tua £2 biliwn o gymorth o’r Gronfa Strwythurol wedi cael ei gytuno ar gyfer y cyfnod hyd at 2020. Y cwestiwn i UKIP a Farage ydy faint fyddai Llywodraeth Prydain yn ei wario ar hyn i gyd os digwydd i Gymru gael ei hunan y tu all i'r UE? 

Yn olaf amlinellodd astudiaeth ddiweddar gan ‘Ewrop Agra’ am bryder y dyfodol i amaethyddiaeth a'r economi gwledig os fydd i Prydain adael yr UE. Ar hyn o bryd, mae'r diwydiant ffermio yn derbyn rhwng £3.5bn a £4bn o gymorth ariannol. Yn ol yr astudiaeth rhagwelir byddai ffigwr lefel o gymorth i amaethyddiaeth yn gosti ychydig dros £1bn. Mae hyn yn ôl amcan gyfrif Llywodraeth y DU eu hunain.

Ar y sail yna bydd y dyfodol ar gyfer yr economi wledig yng Nghymru yn llwm iawn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Felly beth ydy cynnigion UKIP ynglyn a hyn i gyd?


Dyma' fath o gwestiynnau sydd rhaid i Nigel Farage eu hateb ac mae yn hen bryd i UKIP ddechrau rhoi enghreifftiau o'r cyfreithiau sydd ar hyn o bryd yn seiliedig ar Frwsel y byddent yn ei diddymu pe bai Prydain yn gadael yr UE.

Beth am y canlynol? -  
Cyfreithiau cyflog cyfartal, dylid cael gwared ar hynny?
Deddfau ar gemegau?
Deddfau ar symud anifeiliaid ?
Deddfau ar draethau mor glân?

A byddai UKIP eisiau gweld y cyfreithiau hyn yn cael eu dileu? Ac os felly beth fyddai'n cymryd eu lle? Sut fyddai hynny'n gwella pethau?

Yna beth am gyfreithiau a sefydliad y farchnad sengl? Beth yn union yw sail sydd gan UKIP sy'n tybio y bydd mynediad i'r farchnad sengl yn dal i fod yn rhad ac am ddim heb Lawer o gost i'r DU ar ôl inni adael?

Pam nad yw’r ewrosgeptigiaid yn deall nad y cwestiwn masnachol hanfodol yw a allwn ddal i brynu ceir o’r Almaen ond pa delerau y gallwn werthu iddynt ein gwasanaethau ariannol (a phopeth arall).

Cwestiwn arall ydy pam yw Norwy (tu allan i'r UE) yn talu mwy y pen i UE na Prydain? Hefyd maent megis y Swistir ac eraill yn gorfod derbyn telerau a safonau UE os ydynt am masnachu gyda gwledydd Ewrop. Yr union beth bydd yn digwydd i Prydain pan byddwn y tu allan – pa fath o annibyniaeth ydy yna?

Os yw gadael yr UE yn syniad da, pam nad ydy’r Almaen yn dymuno gadael yr UE? Gan derbyn y dadleuon a gyflwynwyd gan UKIP ac eraill sydd am adael yr UE byddai gan yr Almaen fwy i ennill na neb bron.

Os yw gadael yr UE yn syniad da pam mae dim ond Arlywydd Putin sydd eisiau inni adael? Tra bod Arlywydd Obama, Prif Weinidog India a'r Llywydd Tsieineaidd yn erfyn ar i Prydain aros yn yr UE.

Sut bydd gadael yr UE yn gwella sefyllfa Prydain a Chymru yn nhermau gweithjgareddau sy’n ymwneud ac ymchwil gwyddonol a thechnolegol?


Bydd gadael yr UE yn ansefydlog Ewrop. A’i hyn sydd eisiau ar Prydain? -cyfandir ansefydlog ar garreg ein drws a hynny ar adeg pan ydym yn gwynebu pwysau mawr o ran ymfudo, terfysgoedd rhyngwladol a newid hinsawdd byd?