A
fydd y partïon yn ennyn digon o ymddiriedaeth i rwymo eu hunain mewn i raglen
ddiwygio a gytunwyd ganddynt cyn yr etholiad ac i'w galluogi i weithio gyda'i
gilydd ar ôl yr etholiad?
Yr wyf wedi dadlau ers tua chwe mis dylai'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer diwygio y cyfansoddiad a’r dull pleidleisio. Golyga hyn sefydlu confensiwn trawsbleidiol gyda’r nod i gytuno ar raglen ddiwygio flaengar erbyn 2018.
Felly yr wyf yn falch iawn bod yr SNP, y Gwyrddion
a Plaid Cymru yn unedig i alw am pact etholiadol gyda Llafur a Democratiaid
Rhyddfrydol i gytuno ar newidiadau ysgubol i system bleidleisio ar gyfer
etholiadau San Steffan.
Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn‘Yr Inde pendent’ mae arweinwyr
y tair blaid yn galw am gytundeb ar ddiwygio etholiadol i'w cynnwys ym mhob maniffesto
ar gyfer 2020.
Yn y llythyr mae’r arweinyddion yn
croesawu'r trafodaethau yr ymddengys sydd yn digwydd rhwng Llafur a'r
Democratiaid Rhyddfrydol. Serch fy mod wedi darllen rhywle fod Tim Farron yn amheus
fod hyn yn digwydd!.
Mae’r tri Aelod Seneddol wedi ysgrifennu:
"Drwy weithio gyda'n gilydd rydym
yn credu mai'n bosibl i drawsnewid gwleidyddiaeth Prydain – ac y bydd system
bleidleisio decach yn helpu i gyflawni Prydain decach. Hoffem weld Llafur, y
Democratiaid Rhyddfrydol a'r pleidiau a gynrychiolwn yn uno gyda'i gilydd yn yr
etholiad cyffredinol nesaf gyda’r bwriad o gael maniffesto ar y cyd i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin.
Byddai'n rhoi llais i bob pleidleiswyr mewn etholiadau yn y dyfodol ac yn rhoi
mandad ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth yn gynnar."
Mae’r tri Aelod Seneddol yn addo gweithio gydag
arweinwyr y pleidiau eraill "ynglŷn â sut y gellir cyflawni’r addewid
hwn".
Ond beth yw barn arweinwyr y pleidiau eraill?
Jeremy Corbyn
Mae yn cyfaddef ei fod yn "agored" i pact
etholiadol gyda phleidiau eraill i ddiwygio y gyfundrefn etholiadol.
Pan ofynwyd iddo a fyddai'n barod i siarad a’r Democratiaid
Rhyddfrydol a'r pleidiau eraill am gytuno ar newidiadau yn y system
bleidleisio, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur "gallai ddigwydd". Ond pan
y pwyswyd ymhellach a oedd yn agored i’r syniad, ei ateb oedd: "wrth gwrs".
Tim Farron
Adroddir bod gymorthyddion i Tim
yn trafod a AS Llafur - rhywun sydd yn gyfaill agos i Corbyn
- ac sy'n gweithredu fel cyfrwng rhwng y ddau arweinydd. .
Mae un o’r cymorthyddion yn
dweud fod Tim:
"wedi dweud ers tro fod cyflwyno
mesur cynrychiolaeth gyfeannol yn rhan allweddol o ail-lunio gwleidyddiaeth
Prydain. Bydd ef yn gweithio gydag unrhyw un, yn holl bleidiau a dim, i
gyflawni hynny."
Honni’r hefyd bod y
Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn am
wladweinydd henoed, sydd yn uchel ei barch yn y Blaid Lafur, i ymgymryd â rôl
ffurfiol fel canolwr rhwng y partïon.
UKIP
Mae UKIP hefyd yn cefnogi diwygio etholiadol, ond yn annhebygol o ddod i
gytundeb ffurfiol â Llafur neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Un ffigur uwch sydd dros y misoedd diwethaf wedi galw am yr angen o sefydlu
cynghrair flaengar a Chonfensiwn Cyfansoddiadol trawsbleidiol yw David Owen.
Tynwyd sylw at hyn ar y blwg hwn yr wythnos diwethaf ac ‘roedd yn cynnig
syniadau adeiladol ynghylch y ffordd ymlaen.
Dywed David Owen:
'
Fe all Llafur ennill yr
etholiad nesaf yn 2020 – ond dim ond drwy "cynghrair flaengar". Mae
hyn yn galw am gyfaddawdu realistig gan Corbyn, Cynhadledd y Blaid, y Pwyllgor
Gweithredol Cenedlaethol a’r Blaid Seneddol. Mae'n golygu creu Confensiwn Cyfansoddiadol
yn 2017 ochr yn ochr â'r SNP (y blaid fwyaf nesaf mwyaf tebygol), y
Democratiaid Rhyddfrydol (os byddant yn newid eu polisi ar farchnad ym maes Iechyd),
Plaid Cymru, y Blaid Werdd ac unrhyw Aelodau Seneddol o Ogledd Iwerddon. Drwy
dutuno ar y diwygiadau yn eu gwahanol maniffestos gellid wedyn ddeddfu ar hyn yn
sesiwn gyntaf y Senedd.newydd yn 2020'
Y cwestiwn bellach yw bydd y
wagen yn rholio!
Yn y Blwg Saesneg::