24/03/2016

Hei wyt yn iawn? – Dim wedi marw neu rhywbeth felly!

Dyna oedd neges tecs a gefais gan ffrind ychydig ddyddiau yn ôl.

Y rheswm am ei neges oedd nad oeddwn wedi postio ar fy tri blog ers y rhan orau o dair wythnos.

Felly meddylais well esbonio'r hyn sydd wedi bod yn digwydd.

Ers cyn Naolig ‘roeddwn wedi cynllunio gweithgaredd hyd at ddechre mis Mai gan obeithio cael fy newis fel ymgeisydd i’r y Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain ymgeisydd ar gyfer y Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r blog -Gwynoro dros Canolbarth a Gorllewin Cymru – yn amlinellu yn fwy cyflawn. Ond nid felly ty trodd pethau allan oherwydd i’r aelodau y parti yn y rhanbarth meddwl yn wahanol, fel yr adroddwyd yn y Western Mail, gan ddewis William Powell.

Felly ‘roedd yn angenrheidiol newid cynllun a chyfeiriad. Yn ffodus roeddwn wedi addo fynd i Lundain i ymweld a theulu a ffrindiau, a hefyd, ar ôl bwlch o 28 o flynyddoedd cwrdd i fyny a’r Arglwydd David Owen. Wrth reswm soniasom am ddyddiau yr SDP, Y Gynghrair, cyfnod y Clymblaid, dyfodol i ddemocratiaeth cymdeithasol, y cythrwfl yn y Blaid Lafur a'r achos dros Cynghrair Flaengar i drechu y Torïaid.

Felly, cefais gyfle i ymlacio, ail feddwl pethe a llunio cynllun newydd o weithredu ar gyfer y tri mis nesaf.

Felly, ‘rwyn barod nawr i fynd ati unwaith eto ar ol ychydig ysbaid.  

Yn ganolog i’r blogio a gwneud fideos fydd cynnig barn a sylwadau diduedd, cyn belled ag y bydd hynny'n bosibl, ar yr ymgyrch etholiad Cynulliad Cymru wrth iddo ddatblygu yn yr wythnosau nesaf. Yna, wrth gwrs, ar ôl etholiad y Cynulliad, fel yr oedd wedi'i drefnu yn barod, chwarae rhan weithredol yn ymgyrch refferendwm yr UE.

Nawr dros y dair wythnos olaf mae nifer o bethau wedi digwydd oedd yn yn rhagweladwy ond hefyd fel bob amser eraill nas rhagwelwyd. Yn y categori olaf wrth gwrs mae’r ymosodiad terfysgol ym Mrwsel, gwelliant Llafur yn y polau piniwn, ymddiswyddiad Ian Duncan Smith ac ffiasgo gyllideb George Osborne. Gwelwyd hefyd dyrchafiad i dri o ASau Ceidwadol Cymru yn y Llywodraeth. Ar ben hyn cafwyd datgeliadau diddorol gan David Laws a Nick Clegg am ddigwyddiadau tu n’ol i’r lleni am Lywodraeth y Glymblaid. Ond mwy am hyn i gyd cyn hir.

Mae na digwyddiadau'r rhagweladwy wedi cymeryd lle hefyd megis holl drafferthion a helynt diddiwedd o fewn UKIP, yma yng Nghymru a hefyd ledled y DU, yna Boris Johnson yn gynyddol yn gwneud llanastr yn eu osodiadau ar Brexit, hefyd y refferendwm UE yn agor yn ehangach y craciau sydd yn y Blaid Doriaidd, ymgyrch i fod yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau ac i gloi canfyddiadau pôl piniwn Cymru.

Felly mae llawer i’w ysgrifennu a gwneud sylwadau amdanynt o’r penwythnos hwn ymlaen
Pan welais y neges tecs meddylais am gan Dafydd Iwan – ‘Yma o Hyd’ – ymysg un o’m ffefrynau - y don a’r geiriau a hefyd perfformiad a llais Dafydd yn ei anterth. Yr oedd hefyd atgof o gan y Dubliners am Joe Hill..     


Beth bynnag byddaf yn ôl yn fuan iawn!