22/07/2016

Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi wynebu llawer trosffordd ond dim byd sydd yn ei gwynebu nawr.

Yr wyf wedi credu a hybu ffederaliaeth ers ail ran saith degau ond bellach yn sgil Brexit mae'n amser i ystyried o ddifri beth fydd y berthynas rhwng Cymru â Lloegr yn y dyfodol.

Fe gymerodd dros 30 mlynedd ar ôl isetholiad Caerfyrddin 1966 i Gymru gael ei Chynulliad - hynny ar ôl 8 Etholiad Cyffredinol a 2 refferenda.

Ond er bod gennym ‘Senedd’ am tua ugain mlynedd nid oes gennym unrhyw beth tebyg i'r pwerau sydd gan Senedd go iawn yr Alban. Mewn gwirionedd mae'n frwydr barhaus i gael pwerau ychwanegol-fel y tyst yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Yn y cyfamser cynyddu'r yn sylweddol mae‘r pwerau sydd yn cael eu datganoli i Senedd yr Alban yn rheolaidd Bellach mae yn un o’r sefydliadau datganoledig mwyaf pwerus yn y byd.

Fel mae strwythur economaidd, busnes a diwydiannol Cymru wedi newid yn sylweddol yn y chwarter canrif ddiwethaf felly hefyd mae ei demograffeg – gyda 30% o'r bobl sy'n byw yng Nghymru wdedi eu geni tu allan i'r wlad.

Yna mae pedwar deg wyth y cant o bobl sy'n byw yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir o Glawdd Offa a hefyd mae 140,000 o bobl yn croesi’r ffin honno bob dydd i weithio. Yr ystadegau cyfwerth ar gyfer yr Alban ydy tua phedwar y cant yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a tua 30,000 yn croesi’r ffin yn ddyddiol.

Mae’r ystadegau hyn yn datgelu'r agosatrwydd sydd rhwng Cymru a Lloegr ac mae hyn yn fater i gymryd i ystyriaeth wrth drefnu’r ffordd ymlaen.

Ond mae yna faterion eraill sydd wedi newid, erbyn heddiw mae tua thri deg pump y cant o bobl Cymru bellach yn cefnogi a phleidleisio partïon y canol – ochr dde.

Yn bersonol mae twf UKIP yng Nghymru yn anodd ei derbyn – wedi’r cyfan parti gyda'i wreiddiau yn gadarn ac wedi'u lleoli yn Lloegr ydy.

Problem fawr arall sydd rhaid ei goresgyn yw ble mae ein pobl yn cael eu newyddion. 
Cofier fod ein ‘Senedd’ yn gyfrifol am feysydd polisi allweddol megis iechyd, addysg, amaethyddiaeth ac ati ond mae’r arolwg diweddar yn dangos fod y Western Mail, (sydd yn cario'r sylw mwyaf cynhwysfawr am weithgareddau’r Senedd) dim ond yn cael ei ddarllen yn rheolaidd gan lai na phedwar y cant o bobl yng Nghymru.


Pan ofynnwyd iddynt enwi eu papurau newydd, ymatebodd un y cant yn unig y Western Mail. Ond mae bron ddeg gwaith yn fwy yn cyfri'r Daily Mail fel eu prif bapur newydd dyddiol. Yna dilynir hyn gan y Guardian sydd yn cael ei ddarllen gan tua deg y cant a’r Mirror, Sun a’r Telegraph gan bump i wech y cant.

Yna pan ddaw i’r teledu a radio mae’r sefyllfa yn well ar gyfer newyddion a’i darlledir yng Nghymru ond eto mae yna broblem. Newyddion Chwech y BBC ydy’r sianel fwyaf poblogaidd gyda thua tri deg a saith y cant yn rheolaidd yn gwylio tra bod tri deg y cant yn gwrando ar Newyddion Naw o’r gloch.

Ar ôl hynny mae newyddion ITV am Ddeg a Sky News yn cael eu gwylio gan i fyny at dri ar ddeg y cant o’r gwylwyr. Maent yn ffynonellau allweddol o'i gymharu â newyddion eraill a gynhyrchir yng Nghymru.

O bosibl y rhybudd terfynol i mi oedd am y sefyllfa sydd yn datblygu yn gyflym yng Nghymru yw’r ffaith bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd – ni ydy’r wlad sydd wedi elwa fwyaf o fod yn aelod. Mae ein hamaethyddiaeth, ardaloedd llai ffyniannus, cefn gwlad a thwristiaeth yn ogystal â sector addysg, ymchwil a busnes wedi derbyn buddsoddiad a chymorth sylweddol iawn dros y blynyddoedd.

Nawr mae gennym sefyllfa sydd ychydig yn afiach fod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon am aros i mewn.
Mae hyn oll yn mynd i godi amrywiaeth o faterion cyfansoddiadol.

Felly mae rhaid i Gymru fod yn ofalus iawn nad yw'n mynd i orffen fel atodiad i Loegr rywbryd yn y dyfodol  - ar ôl i’r Alban o bosib gadael Undeb y Deyrnas Unedig a hefyd os ellir creu fframwaith newydd ar gyfer Ynys Iwerddon.


Heb unrhyw amheuaeth rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus.

Mae angen meddwl o ddifri am y dyfodol gan gynllunio yn awr ar gyfer pob posibilrwydd.


Dyna pam roeddwn yn y rali Yes Cymru yng Nghaerfyrddin  - nid yn unig i gefnogi ei egwyddorion. ond hefyd i helpu'r mudiad bywiog yma i symud ymlaen yn gadarnhaol gan ddatblygu cynllun strategol ar gyfer gweithredu.