‘Mewn cymdeithas oleuedig mae system bwerau ataliedig yn dibynnu yn gyfan
gwbl ar gyd-ymddiriedaeth a pharch...Os bydd y Senedd bresennol yn gwrthod
derbyn hynny, yna mae geometreg foesol y sefyllfa yn cael ei effeithio’.
‘Cofiwn bob amser mae Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr a bod pobl o
hyd a fydde yn dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser. Nid ydym wedi
torri cwys newydd eto’.
Cyflwynodd
Elystan Morgan welliant i Fil Cymru yng nghyswllt y penderfyniad i gadw tua 200
o bwerau yn ôl yn nwylo'r Llywodraeth Ganolog. Gofynnodd i’r Ysgrifennydd
Gwladol i sefydlu gweithgor i adrodd i'r Senedd o fewn tair blynedd ar y
cwestiwn o sut mae’r pwerau ac ataliwyd a’u cadwyd yn nwylo’r Llywodraeth
ganolig yn gweithredu ym mhob achos.
Dyma ddetholiad o’i araith a hefyd datganiad a wnaethpwyd ganddo cyn y ddadl.
'Yn arferol
byddwn yn neidio gyda llawenydd at y datblygiad hwn oherwydd mae'n gosod Cymru
ar yr un sail gyfansoddiadol a’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn
tacluso'r llawer iawn o'r hyn sydd yn awr mewn cyflwr o ddryswch. a ellir ei
ddisgrifio megis confetti.
Ar ôl
drosglwyddo pwerau bach dros gyfnod hir, ac sydd wedi dod o gannoedd o wahanol
ffynonellau, yr ydych yn creu sefyllfa sydd bron yn gwarantu niwrosis
cyfansoddiadol ar ran cenedlaethau lawer o gyfreithwyr Cymreig.
Byddai osgoi
hynny yn hollol werth chweil.
Fodd bynnag,
rwyf ymhell o fod yn fodlon ar y sefyllfa y credaf sydd yn ddiffygiol iawn yn
(Bil Cymru) ac yn lasbrint fydd yn arwain at fethiant a thrychineb.
Mae'r ffaith
bod tua 200 o bwerau wedi eu hatal o dan y Bil, a hefyd natur y pwerau eu hunain,
yn gwneud y mater yn nonsens llwyr. Pethau dibwys sy’n yn ymwneud a
materion bychain a thila (e.e. trwyddedau alcohol, cwn peryglus, puteindra,
casgliadau elusennol ac yn y blaen). Yn fy marn wrth eu cynnwys mae yn sarhad ar bobl Cymru.
Pan mae’r
llywodraeth yn cynnig setliad, fel yr un y maent bellach yn ceisio ei wireddu mewn
perthynas â Chymru yna mae rhaid cael cyd-ymddiriedaeth a rhyw ymdeimlad o gydbwysedd.
….. Os bydd y Senedd bresennol yn gwrthod derbyn hynny, yna mae geometreg foesol
y sefyllfa yn cael ei effeithio.
Sut daeth
hyn i fod? …….
Ceir hanes hir o ragfarn y gallech ei ddisgrifio fel iâ parhaol tuag
at ddatganoli yng Nghymru.
Nid wyf yn
credu bod unrhyw beth yn wahanol na hyn wedi cymeryd lle.
Aeth Ysgrifennydd
Gwladol Cymru, efallai yn rhy barchus,
at amryw o’i gyd-aelodau yn y cabinet a gofyn y cwestiwn -
'pa faterion y dymunech eu hatal '?
yr ateb unfrydol ydoedd –
‘pob peth ar wyneb daear boed mor fach a thila neu gwbl leol y gelyd
meddwl amdano'.
Pam y fath agwedd?
Cofiwn bob
amser mae Cymru oedd trefedigaeth cyntaf Lloegr a bod pobl o hyd a fydde yn
dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser. Nid ydym wedi torri cwys newydd
eto.
Pan ydych yn
ystyried bod rhai o'r pwerau a ataliwyd – mae yna ddwsinau sydd, yn fy marn i,
yn gwbl hurt a allwch ddychmygu Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Unedig tri
ugain mlynedd yn ol,yn enwedig pan oedd Jim Griffiths yn bennaeth yr adran
honno, yn meiddio ymddwyn fel hyn tuag unrhyw drefedigaeth Brydeinig yn y
Caribi neu yn yr Afrig.
'Mae'r rhain
yn bwerau y mynnaf ei chadw yn ôl?’
Yn syml ni
allai hyn ddigwydd
Bydd rhaid
aros am ychydig cyn cael ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r syniad o
weithgor i adrodd ar y sefyllfa .
Yn sicr fe
fydd yn ddiddorol.