09/11/2016

Stori bywyd Gwynoro fel y crybwyllir yn y saith fideo gyntaf 
Y teulu yn y blynyddoedd cynnar 

Yr oeddwn yn meddwl y byddai'n syniad da i roi 'hwynebau i enwau' y bobl a fu yn ganolog i 'm blynyddoedd cynnar a ‘m magwraeth hyd y pumdegau cynnar.

Cymaint rwy'n ddyledus i bob un ohonynt

Mae'r fideos i'w gweld naill ar fy sianel YouTube neu ar y blog Saesneg  


Fy rhieni – Mae'n debyg mai llun o ganol 1940's ydynt.. Nid wyd yn iawn gofio iddynt edrych mor ifanc!  Ond cofiaf i fy nhad colli ei wallt mewn ychydig wythnosau cyn iddo fod yn ddeg ar ugain.



Gyda fy nhad pan oeddwn tua 3 mlwydd oed ac yna y llall pan yn hŷn – dyddiau cynnar yn yr ysgol!
















Rhieni fy Mam – Elizabeth Mary a Rhys Jones (a elwir yn Rhys y Castle) ac adwaenir fy mam-gu yn Bess). Fy nhad-cu yn dod o fferm fach iawn a oedd yn adnabyddus fel 'Y Castle' a fy mam-gu o fferm ychydig yn fwy yn Foelgastell o'r enw 'Penyfoel'. Cofio mynd i’r ddau le droeon.
















Gyda fy nhaid pan oeddwn tua 4 mlwydd oed – ychydig ar ôl hynny cafodd ddamwain yn bwll glo Blaenhirwaun.Yn y pen draw cafodd ei barlysu tua 1951/2. Treuliais cryn dipyn o weddill y ddegawd yn helpu fy mam yn amal ac edrych ar ei ôl, ‘Roedd o gorff mawr ac oedd yn methu gwneud dim dros ei hun.





 

Trefor – brawd fy Mam, 

Llun o ddeutu 1951 pan ‘roedd yn Aberystwyth yn astudio ar gyfer y weinidogaeth. ‘Roeddwn yn cyfri Trefor fel brawd mewn gwirionedd. Fe fuodd yn dda dros ben i mi - mynd â fi i wahanol gemau - rygbi, criced a hyd yn oed Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd. Chwaraeodd rygbi i Gefneithin ac oedd yn  chwaraewr eithaf grymus a chaled.







Rhieni fy nhad 
John Jones a Rachel Ann. 

Buaswn yn  mynd i Cwmmawr llawer yn y 1940's hwyr a’r pum degau, fel arfer ar nos Sadwrn neu ddydd Sul ar gyfer amser te. Yr oedd yn aelwyd yn llawn bwrlwm a bywyd, chwerthin a sŵn. ‘Roedd teulu fy nhad-cu yn dod o ardal Llanarthne a chredaf fy mam-gu o Cross Hands.








Fy nhad-cu gyda rhai o'r cwpanau a enillodd mewn Eisteddfodau – ei enw llwyfan oedd 'Cymro'. ‘Roedd yn adnabyddus ledled De Cymru. Os digwydd iddo golli mewn eisteddfod nid oedd yn hapus o gwbl ac wrth gwrs y beirniaid oedd ar fai. ‘Roedd y teulu cyfan yn gerddorol iawn mewn gwirionedd!









Clan Cwmmawr! Yn anffodus dim ond un ohonynt sydd ar ôl bellach  – Claudia yn y rhes flaen (canol).




Cwmni difyr dros ben a llawn bywyd. ‘Roeddynt yn syrthio i ddau wahanol fath o bersonoliaeth - pedwar yn y rhes flaen yn fwy tyner ac yn dawelach na'r gweddill. Y ddau frawd (rhes gefnyn) yn eithriadol o swnllyd fel yr oedd y chwaer sydd yn sefyll rhyngddynt. Roedd pob un yn gantorion da ac yn gerddorol – perfformwyr mewn gwirionedd!




Fy nghartref – Manyrafon (model) a gyflwynwyd i mi rywbryd yn yr 80au ar fy mhen-blwydd ac yna Capel Peniel.