06/12/2016

Canlyniadau PISA 2016 yn datgelu roedd perfformiad disgyblion Cymru mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg yn is na chyfartaledd y 72 o wledydd oedd yn rhan o'r profion.

Nid yw disgyblion Cymru ddim wedi gwneud cystal yn y profion â'u cyfoedion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Y pedwerydd tro yn olynol i Gymru berfformio'n waeth na gwledydd eraill y DU.

Post cyhoeddais Tachwedd 2015
Gallai safonau mewn perfformiad a darpariaeth addysg yng Nghymru fod yn well o lawer



Yn gyffredinol y dyddiau hyn pan yn ffurfio barn ynghylch perfformiad annerbyniol neu wael unrhyw sefydliad, corff cyhoeddus neu hyd yn oed unigolyn yr ymadrodd a ddefnyddir yw 'ddim yn addas i’r pwrpas‘. 

Mae'n deg nodi bod arwyddion o welliant yn y ein hysgolion mewn materion megis presenoldeb, triwantiaeth, lles disgyblion, agweddau ar addysgu a dysgu, hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella a gostyngiad yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant mewn meysydd penodol.

Ond yn y maes allweddol sef y safonau mae yna le sylweddol i wella. Yn wir roedd y ddau Wweinidog Addysg blaenorol yn cytuno â mi gydag un pwyntio at 'ddifaterwch' pan yn trafod canlyniadau PISA a’r llall yn nodi 'gwendidau systemig' yn y gwasanaeth addysg.

Tra yn edrych ar y pwyntiau allweddol a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol diweddara mewn perthynas a’r ysgolion a arolygwyd, mae’n deg i nodi fod perfformiad yn erbyn nifer o ddangosyddion wedi gwella ‘ond yn raddol iawn’. Dangosyddion megis cyfraddau presenoldeb, triwantiaeth a y bwlch mewn perfformiad rhwng isgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill yn lleihau.

Ond ar y cwestiwn mawr sut mae’r plant a’r ysgolion yn perfformio wrth edrych ar y  safonau mae yna bryderon yn dal i fod o hyd. Mae yna heriau pwysig yn parhau megis:
Gostyngiad mewn safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd a fod cyfran yr ysgolion cynradd â ' safonau 'da' neu 'ardderchog' wedi gostwng i 6 o bob 10. Felly mae 4 o bob 10 yn 'ddigonol' yn unig (mewn geiriau eraill ocê!). Y broblem ganolog oedd gwendid yn sgiliau rhifedd disgyblion a’r diffyg hyder y disgyblion o ran defnyddio’r medrau hyn mewn pynciau eraill, ond mae’r sefyllfa hyn wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd. 

Dwed Estyn fod safonau mewn llythrennedd wedi gwella 'ychydig' mewn perthynas a medrau ysgrifennu y plant ond fod y gwelliant yn ‘fwy’ yn y Cyfnod Sylfaen nag yng nghyfnod allweddol 2 ( disgyblion oedran 7 -9/10 ). Mae’r ffaith olaf yn bryder parhaus.

Er bod y safonau mewn ysgolion uwchradd yn gwella i’w gymharu a ‘pherfformiad cymharol wan‘ y flwyddyn cynt, erys cryn ffordd i fynd. Dim ond 50% o'r ysgolion a arolygwyd oedd yn cyflawni safonau 'rhagorol neu dda'. Felly, mae yna llawer iawn ohonynt yn y blwch 'digonol' – yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Nodwyd bod angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwy abl a dawnus. 

Un ffaith sydd yn sefyll allan yn Adroddiad Blynyddol Estyn ac o bosib sydd yn crynhoi y sefyllfa sef ers 2010 mae yna nifer gynyddol o ysgolion ac angen monitro  pellach arnynt yn dilyn eu harolygiad ‘craidd’ cychwynnol. Dwed yr adroddiad fod y nifer o ysgolion sy’m mynd mewn i gategori ‘gweithgarwch dilynol’ wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Dros bron yr ugain mlynedd ’roeddwn yn arolygu ’roedd ymroddiad, a phroffesiynoldeb staff ysgolion yn ddi gwestiwn ond yn amlwg mae angen mynd i’r afael a’r diffygion yn llawer mwy treiddgar a grymus.

Cyfeiriwyd hefyd at ddau agwedd oedd yn peri pryder sef y safonau mewn Cymraeg ail iaith ‘ddim yn gwella’ ac nid yw ysgolion yn asesu gwaith disgyblion ddigon cywir a cadarn. ‘Roedd y rhain yn faterion o bryder drwy gydol y blynyddoedd yr oeddwn yn  arolygwr, felly dim llawer wedi symud ymlaen. 

Pan oeddwn yn arolygu ‘roedd yr adroddiadau byth a beunydd yn tynnu sylw fod angen ar yr ysgolion i wella cywirdeb a chysondeb gwaith asesu athrawon gan gynnwys yr angen i esbonio’n glir i ddisgyblion sut i wella eu gwaith. Un peth arall oedd yn amlwg yn gymharol amal pan wrth ein gwaith sef wrth edrych ar lyfrau’r disgyblion yn ystod arolygiadau ’roeddwn yn canfod fod diffyg cyfatebiaeth rhwng y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a nodwyd gan yr athrawon ac ansawdd gwaith y disgyblion yn y dosbarth neu y llyfrau gwaith cartref.

Os ceir ddiffygion yn yr Asesu fe ganlyn diffygion mewn cyrraedd arfraniadau cywir sydd mor hanfodol nid yn unig i’r disgyblion a’r rhieni ond hefyd sydd yn codi cwestiynau am brosesau hunanarfarnu yr ysgol. Ymhellach nid oes gan arweinwyr ysgolion, gan gynnwys y llywodraethwyr, wybodaeth cywir am berfformiad y disgyblion ac felly ni allant farnu beth sydd yn gweithio’n dda er mwyn codi safonau a  pherfformiadau.

Nawr nid oes angen mynd ymhellach er mwyn dechrau deall pam mae Cymru mor isel  lawr y tabl gymhariaeth ryngwladol ar safonau addysg (PISA). Allan o 65 o wledydd mae y canlyniadau yn dangos yn y pynciau craidd ( Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) fod Cymru yn 43 at y tabl, Gogledd Iwerddon 33, Lloegr a'r Alban fwy neu lai yr un fath ar 25ain.  Wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn y proffesiwn addysg yn ceisio dweud bod cymariaethau o'r fath yn ddiystyr. Esgus ydy hynny ac mewn gwirionedd y maent yn arwyddocaol dros ben ac fe geir wendidau sylfaenol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Wrth orffen pan yn arolygu ‘roedd tua 70% o’r ysgolion bob amser yn cwyno am y diffyg cymorth a chanllawiau proffesiynol yr oeddent yn gael gan eu hawdurdodau addysg lleol. Roedd yn nodwedd gyffredin. Ond nid yw'n syndod oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf mae 9 awdurdod lleol, ar adegau amrywiol, wedi cael eu gosod yn y categori mewn angen o 'mesurau arbennig' a hefyd bod angen cymorth sylweddol arnynt er mwyn sicrhau gwelliant.

PISA 2016
Mae profion PISA yn digwydd bob tair blynedd a dyma canlyniadau disgyblion 15 oed wnaeth sefyll y profion y llynedd.

Sut mae Cymru'n cymharu?
Gwlad/Sgôr
Gwyddoniaeth
Darllen
Mathemateg
Lloegr
512
500
493
Gogledd Iwerddon
500
497
493
Yr Alban
497
493
491
Cymru
485
477
478
Mewn mathemateg, mae perfformiad disgyblion Cymru yn agos i'w cyfoedion yn Lithuania.
Lloegr ddaeth i'r brig mewn gwyddoniaeth a darllen, gan rannu'r brif safle mewn mathemateg gyda Gogledd Iwerddon.
Mewn profion gwyddoniaeth mae perfformiad disgyblion Cymru wedi dirywio ac wedi aros yn weddol debyg yn darllen a mathemateg
Nodwyd for 12% o ddisgyblion Lloegr yn ddisglair mewn gwyddoniaeth, tra dim ond 5% o ddisgyblion Cymru wnaeth gyrraedd yr un safle.

Mae perfformiad Cymru mewn gwyddoniaeth yn debyg iawn i Menorca ac Ibiza - tra bod y sgôr ar gyfer darllen yn debyg i ddisgyblion o Dubai neu Buenos Aires. .