Saif y cysyniad o ddatganoli sy'n anochel yn arddel egwyddorion sylfaenol
Mae rheol domestig a sybsidiaredd yn y bôn yn golygu derbyn y
byddai yna 'drothwy' cyfiawnder a rheswm.
Mae gwadu y trothwy hwn yn sarhad i synnwyr cyffredin, ond hefyd yn
bradychu ac yn dibrisio'r datganoli.
Pwrpas y gwelliant yw ceisio cywiro cam
gymeriad affwysol sy’n treiddio i galon a chnewllyn holl egwyddor ymreolaith a
datganoli yng Nghymru.
Fe fyddai’r gweithgor yn adrodd i’r Senedd yn
San Steffan o fewn tair mlynedd ar weithgaredd y materion a neilltuwyd dan y
pwerau ataliwyd sydd yn eglur yn lleol eu heffaith.
Dwed Elystan Morgan -
‘Ar ol rhoddi cyfansoddiad i Gymru sy’n
trosglwyddo pob awdurdod arall na’r rhai sy’n ymwneud a bywyd y Deyrnas Unedig sef
oluniaeth y Goron, amddiffyn a polisi tramor, mae’n saffru’r cyfan drwy lwytho
ar Gymru gant naw deg a phedwar o eithriadau gyda ugeiniau ohonynt yn ymwneud
a materion hollol leol.
Ni fui i’r Alban na Gogledd Iwerddon gorfod
dioddef y sarhad hwn, er engraifft fe neilltuwyd hawliau ar drwyddedi diodydd a
dreosgwlyddyd i Gymru mor gynnar a 1881 ynghyd (ac mae’n anodd credu!) casgliadau
elusennol.
Mae’n anhygoel feddwl y gallasai Prydain
dweder tri chwarter canrif yn ol fod wedi neilltuo y fath bwerau rhag drefedigaethatu
yn y Caribbi neu’r Afrig.
Trwy wneud hyn y mae’r Llywodraeth yn torri
rheol,euraidd datganoli, sef fod rhediad dyfroedd (‘watershed’) o synwyr a
chyfiawnder yn dweud yn glir beth a ddylasai fod yn fater lleol a beth
ddylasai fod yn gyfrifoldeb i’r fam Senedd yn San Steffan.
Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol am ddefnyddio
Gweithgor – ‘oddiar y shelf’ – ni allasai wneud yn well na gwahodd Pwyllgor
Silk, a oedd yn aml bleidiol ac a adroddwyd yn unfrydol ddwywaith mewn modd
creadigol dros ben ar ddatganoli, i’w wasanaethu am y trydydd tro’