TENSIYNAU
A CHASINEB YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU’R 60AU A 70AU
Os
oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau
Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans.
Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar
ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro
Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a
gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf
diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.
Mae'r hanes yn seiliedig ar archif bersonol sylweddol yr
awdur, ac atgofion byw. Mae’r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a
1974 wrth i Gwynoro a Gwynfor Evans gynrychioli’r etholaeth ar wahanol adegau
yn y 1970au.
“Dydw i ddim yn credu y bu cyfnod tebyg yng
ngwleidyddiaeth Cymru i ganol y chwedegau a dechrau’r saithdegau, sef union
gyfnod y brwydro rhwng Gwynfor a fi. Roedd y ddau ohonom, yn hynny o beth, yn
lwcus i gael bod yn rhan o’r amser hynny. Roedd yn gyfnod o frwydro a herio’r status quo, yn enwedig ar faterion
cyfansoddiadol yn ymwneud â datganoli a statws yr iaith Gymraeg. Dyma gyfnod
Tryweryn, Y Blaid Lafur yn ennill etholiad gyffredinol am y tro cyntaf ers
blynyddoedd maith, dyddiau trais, bomio, protestio, Cymdeithas yr Iaith a
Saunders Lewis yn corddi’r dyfroedd y tu fewn i Blaid Cymru,” meddai Gwynoro
Jones.
Er y gwahaniaethau pleidiol, roedd lles eu cenedl yn eu
gyrru. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r
gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Meddai’r newyddiadurwr Gwilym
Owen yn y Rhagair:
“O’r cychwyn cyntaf, doedd yna fawr o gariad brawdol
rhwng y ddau fel unigolion na rhwng eu pleidiau chwaith. Roedd yna awyrgylch o
wawd a dychan, chwerwedd ac ymgecru personol i’w chanfod yn ddyddiol bron. Yn
wir fe ellid honni fod yna gasineb yn bodoli ar bob lefel.”
“Does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei
wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud
i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant,” meddai Gwynoro.
Mae Gwynoro hefyd yn honni fod yna debygrwydd rhwng y
cyfnod cythryblus yna a heddiw, wrth i’r drafodaeth ar ddatganoli ac
annibyniaeth i Gymru ac Ewrop fod yn bynciau llosg o hyd:
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r fflam wleidyddol wedi
ailgynnau yndda i. Mae gen i flog, sianel YouTube, tudalen Facebook, cyfri
Twitter a’r cwbl yn weithgar tu hwnt. Dw i’n annerch unwaith eto, yn enw
mudiadau amrywiol fel Ie Cymru. O ganlyniad, mae’n naturiol fy mod yn edrych
’nôl ar y cyfnod pan oeddwn yn Aelod Seneddol. Mae’r awch i wneud hynny yn ôl
nawr.”
Erbyn hyn, mae Gwynoro yn cyfaddef ei fod yn cyd-weld
gyda Gwynfor Evans ar nifer faterion yn ymwneud â Chymru:
“Mae’n siŵr petai’n fyw heddiw y bydden ni’n cyd-fynd ar
sawl peth yng nghyd-destun dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl,” meddai Gwynoro
yn ei lyfr.
Maent erbyn hyn yn siarad yr un iaith, gan gynnwys am
annibyniaeth Cymru. Yn ôl Gwynoro, nid oedd annibyniaeth i Gymru yn un o
ddymuniadau Plaid Cymru yn ystod y 60au a 70au, a chân cymharol newydd yw’r
elfen yma o wleidyddiaeth Cymru.
“Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed
ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un
dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd (Saunders Lewis).”
Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.
Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.
Mae Gwynoro
a Gwynfor gan Gwynoro Jones a Alun Gibbard ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).