09/05/2019


TENSIYNAU A CHASINEB YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU’R 60AU A 70AU

Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans.

Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.


Mae'r hanes yn seiliedig ar archif bersonol sylweddol yr awdur, ac atgofion byw. Mae’r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a 1974 wrth i Gwynoro a Gwynfor Evans gynrychioli’r etholaeth ar wahanol adegau yn y 1970au.

“Dydw i ddim yn credu y bu cyfnod tebyg yng ngwleidyddiaeth Cymru i ganol y chwedegau a dechrau’r saithdegau, sef union gyfnod y brwydro rhwng Gwynfor a fi. Roedd y ddau ohonom, yn hynny o beth, yn lwcus i gael bod yn rhan o’r amser hynny. Roedd yn gyfnod o frwydro a herio’r status quo, yn enwedig ar faterion cyfansoddiadol yn ymwneud â datganoli a statws yr iaith Gymraeg. Dyma gyfnod Tryweryn, Y Blaid Lafur yn ennill etholiad gyffredinol am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, dyddiau trais, bomio, protestio, Cymdeithas yr Iaith a Saunders Lewis yn corddi’r dyfroedd y tu fewn i Blaid Cymru,” meddai Gwynoro Jones.

Er y gwahaniaethau pleidiol, roedd lles eu cenedl yn eu gyrru. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Meddai’r newyddiadurwr Gwilym Owen yn y Rhagair:

“O’r cychwyn cyntaf, doedd yna fawr o gariad brawdol rhwng y ddau fel unigolion na rhwng eu pleidiau chwaith. Roedd yna awyrgylch o wawd a dychan, chwerwedd ac ymgecru personol i’w chanfod yn ddyddiol bron. Yn wir fe ellid honni fod yna gasineb yn bodoli ar bob lefel.”

“Does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant,” meddai Gwynoro.

Mae Gwynoro hefyd yn honni fod yna debygrwydd rhwng y cyfnod cythryblus yna a heddiw, wrth i’r drafodaeth ar ddatganoli ac annibyniaeth i Gymru ac Ewrop fod yn bynciau llosg o hyd:

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r fflam wleidyddol wedi ailgynnau yndda i. Mae gen i flog, sianel YouTube, tudalen Facebook, cyfri Twitter a’r cwbl yn weithgar tu hwnt. Dw i’n annerch unwaith eto, yn enw mudiadau amrywiol fel Ie Cymru. O ganlyniad, mae’n naturiol fy mod yn edrych ’nôl ar y cyfnod pan oeddwn yn Aelod Seneddol. Mae’r awch i wneud hynny yn ôl nawr.”

Erbyn hyn, mae Gwynoro yn cyfaddef ei fod yn cyd-weld gyda Gwynfor Evans ar nifer faterion yn ymwneud â Chymru:

“Mae’n siŵr petai’n fyw heddiw y bydden ni’n cyd-fynd ar sawl peth yng nghyd-destun dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl,” meddai Gwynoro yn ei lyfr.

Maent erbyn hyn yn siarad yr un iaith, gan gynnwys am annibyniaeth Cymru. Yn ôl Gwynoro, nid oedd annibyniaeth i Gymru yn un o ddymuniadau Plaid Cymru yn ystod y 60au a 70au, a chân cymharol newydd yw’r elfen yma o wleidyddiaeth Cymru.

“Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd (Saunders Lewis).” 

Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.

Mae Gwynoro a Gwynfor gan Gwynoro Jones a Alun Gibbard ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).