Ymddangosodd yr erthygl
ganlynol gan Glyndŵr Cennydd Jones yn y Cylchgrawn Golwg ar 21 Medi 2017—wythnos
20fed pen-blwydd y bleidlais i sefydlu y Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolch i'r
Golwg am gopi electronig o'r darn.
06/10/2017
20/09/2017
Elystan Morgan yn trafod cwrs datganoli dros ugain mlynedd a’r dyfodol
Y sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017
Am lawer yn rhy hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a
bellach mae'n dra angenrheidiol y dylem godi ein disgwyliadau
Yn siarad am
effaith a’r meddylfryd tu ôl i Ddeddf Cymru ...
‘Ar ôl rhoddi
cyfansoddiad i Gymru sy’n trosglwyddo pob awdurdod arall na’r rhai sy’m
hymwneud a bywyd y Deyrnas Unedig sef olyniaeth y Goron, amddiffyn a pholisi
tramor, mae’n saffru’r cyfan drwy lwytho ar Gymru gant naw deg a phedwar o
eithriadau gydag ugeiniau ohonynt yn ymwneud a materion hollol leol.
Ni fu i’r Alban
na Gogledd Iwerddon gorfod dioddef y sarhad hwn.
Trwy wneud hyn y
mae’r Llywodraeth yn torri rheol, euraidd datganoli, sef fôr rhediad dyfroedd
(‘watershed’) o synnwyr a chyfiawnder yn dweud yn glir beth a ddylasai fod yn
fater lleol a beth ddylasai fod yn gyfrifoldeb i’r fam Senedd yn San Steffan.
Felly, yr irony
ydy, nad yw'r hyn a gynigir yn Ddeddf Cymru yn enghraifft o ddatganoli pellach
ond yn hytrach yn ymhlygiad llachar o ddibrisio a glanweithio holl egwyddor
datganoli’
Yna edrych blaen
i’r dyfodol a’r hyn y dylasai gwleidyddion a phobl Cymru anelu ato gan gymeryd
i ystyriaeth y peryglon sydd ynghlwm wrth fwriadau’r llywodraeth yn Mesur
Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dwed Elystan ...
‘Rwy'n credu'n
gryf fod cenedlaetholdeb yng nghyd-destun Cymru fel gwladgarwch nag ŵyr unrhyw
gasineb o unrhyw genedl arall. Dyna beth ddylasai cenedl Cymru a
chenedlaetholdeb Cymreig ar eu gorau fod. Fy apêl pan ydym yn ystyried dyfodol
Cymru yw am i ni feddwl yn fawr. Os ydych yn meddwl yn fawr byddwch yn cyflawni
rhywbeth gwerth chweil; Os ydych yn meddwl yn fach, yna fydd yr hyn a gyflawnir
yn llai na'r hynny a disgwyliwyd.
Am lawer yn rhy
hir 'rydym wedi erfyn am friwsion datganoli a bellach mae'n dra angenrheidiol y
dylem godi ein disgwyliadau i fod yn deilwng o'n sefyllfa fel cenedl aeddfed,
p'un ai ei fod yn cychwyn ar daith drwy fodelau o ffederaliaeth neu Statws
Ddominiwn. Dyna'r sefyllfa sydd yn ein hwynebu yn 2017.’
09/01/2017
Dydd Mawrth Ionawr 10 2017 fydd Ty’r Arglwyddi yn ail gydio yn Fil Cymru a ei thaith drwy’r Senedd.
Saif y cysyniad o ddatganoli sy'n anochel yn arddel egwyddorion sylfaenol
Mae rheol domestig a sybsidiaredd yn y bôn yn golygu derbyn y
byddai yna 'drothwy' cyfiawnder a rheswm.
Mae gwadu y trothwy hwn yn sarhad i synnwyr cyffredin, ond hefyd yn
bradychu ac yn dibrisio'r datganoli.
Pwrpas y gwelliant yw ceisio cywiro cam
gymeriad affwysol sy’n treiddio i galon a chnewllyn holl egwyddor ymreolaith a
datganoli yng Nghymru.
Fe fyddai’r gweithgor yn adrodd i’r Senedd yn
San Steffan o fewn tair mlynedd ar weithgaredd y materion a neilltuwyd dan y
pwerau ataliwyd sydd yn eglur yn lleol eu heffaith.

Dwed Elystan Morgan -
‘Ar ol rhoddi cyfansoddiad i Gymru sy’n
trosglwyddo pob awdurdod arall na’r rhai sy’n ymwneud a bywyd y Deyrnas Unedig sef
oluniaeth y Goron, amddiffyn a polisi tramor, mae’n saffru’r cyfan drwy lwytho
ar Gymru gant naw deg a phedwar o eithriadau gyda ugeiniau ohonynt yn ymwneud
a materion hollol leol.
Ni fui i’r Alban na Gogledd Iwerddon gorfod
dioddef y sarhad hwn, er engraifft fe neilltuwyd hawliau ar drwyddedi diodydd a
dreosgwlyddyd i Gymru mor gynnar a 1881 ynghyd (ac mae’n anodd credu!) casgliadau
elusennol.
Mae’n anhygoel feddwl y gallasai Prydain
dweder tri chwarter canrif yn ol fod wedi neilltuo y fath bwerau rhag drefedigaethatu
yn y Caribbi neu’r Afrig.
Trwy wneud hyn y mae’r Llywodraeth yn torri
rheol,euraidd datganoli, sef fod rhediad dyfroedd (‘watershed’) o synwyr a
chyfiawnder yn dweud yn glir beth a ddylasai fod yn fater lleol a beth
ddylasai fod yn gyfrifoldeb i’r fam Senedd yn San Steffan.
Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol am ddefnyddio
Gweithgor – ‘oddiar y shelf’ – ni allasai wneud yn well na gwahodd Pwyllgor
Silk, a oedd yn aml bleidiol ac a adroddwyd yn unfrydol ddwywaith mewn modd
creadigol dros ben ar ddatganoli, i’w wasanaethu am y trydydd tro’
Dyma’r Arglwydd Elystan Morgan yn esbonio cefndir Bil Cymru
Pam mae hynny wedi codi?
Beth yw'r goblygiadau?
Hyn sydd gennym yw llai o bwerau a oedd gennym cynt ac mae yn Dibrisio
Datganoli.
Ym mis Gorffennaf 2014 gofynywyd am i’r Uchel Lys benderfynni’r ffin rheng audurdod deddfwrthiaethol y Cynulliad yng Ngaerdydd ac awdurdod y Senedd yn San Steffan.
Y mater gerbron oedd dymuniad y Cynulliad i basio deddfwriaeth oedd yn gosod cyfraddeau cyflogi gweithwyr amaethyddol yng
Nghymru.
Penderfynodd y Goruchaf Lys yn unfrydol i’r
gwrthwyneb gan ddweud pa le bynnag yn yr unrhyw ugain maes sydd wedi eu
datganoli (yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ) ble dangosir y bwriad o
drosglwyddo darnau helaeth o awdurdod i Gymru yna yn yr amgylchiadau hynny
mae’r gyfraith yn derbyn bod y cyfan wedi’i throsglwyddo o’r maes hynny ond i’r
graddau mae hynny o eiriau penodol yn neilltuo i unrhyw bŵer arbennig.
Disgrifiad y Goruwch Lys oedd fod yna ‘silent transfer’.
Yr oedd y penderfyniad hen yn seisemic ei
effeithiau :-
- ‘roedd yn glir bod tiriogaethau eang o awdurdod wedi eu
trosglwyddo i Gymru hebi neb sylweddoli hyn;
a hefyd
- bod yna yn ychwanegol amryw o amgylchiadau na ellid ddweud a oedd
trosglwyddiad wedi cymeryd lle neu peidio.
Y mae darpariaethau Mesur Cymru felly yn
deilliaw yn uniongyrchol o’r sefyllfa gyfansoddiadol hon.
Ymateb y LLywodraeth a’r Ysgrifennydd Gwladol
yw cyfyngu yn llym ar y pwerau sy gan y Cynulliad ac o ganlyniad felly yn sgil Mesur
Cymru mae yn lleihau ar awdurdod deddfwyrieithol y Cynulliad.
I ba raddau ni
allaf ddweued pin a’i hyd at 10 y cant neu at 30 y cant o’r sefyllfa bresennol,
ond yn sicr fydd yn sylweddol iawn.
Felly, yr irony ydy, nad yw'r hyn a gynigir
yn Mesur Cymru yn enghraifft o ddatganoli pellach ond yn hytrach yn ymhlygiad
llachar o ddibrisio a glanweithio holl egwyddor datganoli
05/01/2017
Cyfweliad gyda’r Arglwydd Elystan Morgan ar Radio Cymru Ionawr 4ydd 2017
Yn
trafod agweddau o’i yrfa fel gwleidydd, cyfreithiwr, Barnwr a’u waith yn Dŷ’r
Arglwyddi.
Yna
dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl
Rhag ofn i chi golli'r rhaglen ar Radio
Cymru - dyma’r cyfweliad gyda’r Arglwydd
Elystan Morgan, a fu wrth gwrs yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru ac yna yn ganol
y chwe degau ymunodd a’r Blaid Lafur.
Yn 1966 fe ddaeth yn Aelod Seneddol
Llafur Ceredigion.
Mae yn sôn am y cyfnod.
Hefyd mae yn trafod pwysigrwydd gosod i
fyny'r Swyddfa Gymreig yn 1964.
Yr ymrafael tu fewn i’r Blaid Lafur ar
ddatganoli.
Yna ei agwedd tuag at Fesur Cymru sydd
yn wae’i ffordd drwy Dreiglid ar hyn o bryd
Ac yn gorffen gyda dyfodol Cymru fel
gwlad a chenedl ac yn trafod beth ydy Statws Dominiwn yng nghyswllt Cymru
Subscribe to:
Posts (Atom)