Tua chwe degawd yn ol fe gynhyrchwyd chwe record o ganeuon fy nhadcu John Jones Cwmmawr. Ei enw esteiddfodol oedd 'Cymro'.'Roedd yn adnabyddus traws de Cymru ac yn enwedig yn Eisteddfodau'r Glowyr ym Mhorthcawl. Cefais y records blynydde 'nol gan fy nhad. A dyma nhw er cof a chadw.
'Roedd tua 80 deg ar y pryd. Cof sydd gennyf o deulu a oedd yn gerddorol iawn ac yn berfformwyr a nifer, gan gynnwys rhai o'r wyron, gyda lleisiau canu da.
Gyda pob record mae yna grwp o luniau o'r teulu ac eraill - dim mewn trefn strwythedig. Eto y mwyafrif o'r llunie mewn album oedd gan fy nhad John Ellis.
Record 1 'Cloch y Llan' Llunie - Beti, ei ferch a oedd yn cyfeilio, John Jones gyda'i.gwpane, gydai wraig, Beti eto, llun o'r plant ar achlysur priodas Aur eu rhieni, gyda Joe Gormley yn Eisteddfod y Glowyr ac yna gyda minne.
Record 2 'Buddigoliaeth' Llunie - gyda fy nhadcu a'i gwpane ('roedd yn hynod browd ohonynt), achlysur priodas Aur, gyda'r wyron.
Record 3 'Caersalem' Llunie - Beti, cwpane, cydweithwyr o Lofa'r Tymbl
Record 4 'O'r Niwl i'r Nef' llunie - Beti, priodas Aur, pennill amdano gan y bardd Dai Culpitt o Gefneithin, gyda Joe Gormley, pedwar cenhedlaeth yn 1969 a'r mab Glyndwr Cennydd yn faban, tu allan i'r gweithdy yn y Lofa.
Record 5 'Yr Hen Gerddor' Llunie - Cwpane, mewn priodas, priodas ei ferch Fanny a Gwyn, Jeannie a Dai, ei fab Gwilym, Claudia ( yr unig blentyn sydd dal yn fyw bellach), pedair o'r merched -Valmai, Bronwen, Beti a Claudia, Jeannie.
Record 6 'Pistyll y Llan' LLunie - 'Yn ei Elfen', cwpane, priodas Elsie a Bryn, Bronwen, Lilian pan yn nyrs, Lilian a'i gwr Glyn (fu'n garcharor rhyfel yn rhyfel Korea), Elsie, priodas fy mam a nhad, yn 'page boy' priodas Valmai ac Alan, y tri nesa megis cynt ac yna yn ola priodas Claudia a Islwyn.
Wel dyna ni - peth atgofion o amseroedd hyfryd 'rwyf o hyd yn eu trysori .
19/06/2019
11/06/2019
Gwynoro yn ymateb i adolygiad Vaughan Hughes yn Cylchgrawn Barn
Wela i ddim byd anraslon nac anghytbwys yn fy llyfyr 'Gwynoro a Gwynfor'
Beth sydd yma ydy cofnod o'r hyn a welais, glywais ac a dystiais
Un nod syml oedd wrth fwrw ati i sgrifennu’r llyfr ‘Gwynoro
a Gwynfor’, sef croniclo hanes etholaeth Caerfyrddin 1966-75, a hynny mewn modd
nad oedd wedi ei wneud mewn un cyfrol o’r blaen. Roedd y croniclo’n seiliedig ar
archif gynhwysfawr nes i gasglu dros y cyfnod hwnnw. Mae corff y llyfr yn adrodd
y stori fel roedd yn datblygu ar y pryd ac yn y bennod ola rydw i’n pwyso a
mesur wrth edrych nôl heddi ar ddigwyddiadau’r cyfnod. Dw i ddim yn siŵr os ydy
Vaughan Hughes wedi deall y strwythur yma. Trueni iddo ostwng i lefel tabloid
trwy fy nghuddo o ‘bigo crachen’. Sylw arwynebol ar y gore.
Mae’n ddigon posib bod rhai yn gwybod am rhai o’r straeon
sydd yn y llyfr eisoes, wrth gwrs ei fod e. Yng Nghymru ydyn ni wedi’r cyfan.
Ond, mae y mwyafrif helaeth iawn o’r deunydd yma sydd yn gwbl newydd, fel mae’r
rhan fwyaf wedi nodi wrth ymateb i’r llyfr, gan gynnwys mewn sgyrsiau radio a
theledu ac adolygwyr eraill hefyd. Ac mae cael y cyfan gyda’i gilydd rhwng dau glawr
yn newydd hefyd.
Ymgais oedd i ososd ar gof a chadw yr hyn ‘a welais,
glywais ac a dystiais’. Ie,dweud yr hanes fel ‘roeddwn yn ei fyw ar y pryd.
Wrth gwrs bod stori Gwynfor wedi cael ei cyfnodi droeon a throeon, ac mae hynny
yn haeddiannol. Ond mae’r llyfr hwn yn cymeryd agwedd gwahanol ar bethe.
Roeddwn yn deall y bydde rhai yn anhapus â hyn. ‘Rwyn cofio’r
diweddar Dr Phil Williams yn dweud wrthyf tua diwedd y saithdegau – ‘Fe geision
ni ym Mhlaid Cymru dy ysgrifennu di allan o’rholl gyfnod a gwneud yn siŵr nad oedd
fawr ddim son amdanat’. Wel,chwerthynais ar y pryd, ond roedd go agos at ei le.
Mewn gwirionedd, mae’n dal i barhau hyd yn oed yn adolygiad Vaughan Hughes – a
oes unrhyw gyfeiriad at fy ngweithgaredd â’m ymdrechion fel Aelod Seneddol? Na,
anwybyddu’r cyfan!
Dyw e ddim yn sôn am
fy ymdrechion pan yn Aelod Seneddol, ac ymhell cyn hynny, i wneud y Blaid Lafur
yn fwy Cymreigedd â’m cyfraniad sylweddol tuag at hybu datganoli. Cyfraniad sydd
yn cynnwys bod y cynta i siarad Cymraeg yn un o’r Seneddau Ewropeaidd, cymryd fy
llw yn y Gymraeg yn San Steffan a bod yn cyd-drefnydd sefydlu’r broses i ganiatau
i unrhyw un arall wneud hynny hefyd i’r dyfodol. Dyma’r fath o ffeithie sydd wedi
profi’n dân ar groen Plaid Cymru erioed.
Mae’n rhaid pwysleisio un pwynt mwy personol. Does dim
chwerwder ynglŷn â’r holl ymrafael a fu yn perthyn i fi o gwbl bellach. Dyna
pam ro’ ni’n hapus i sgrifennu’r llyfr nawr, gan fod unrhyw deimladau cas wedi
hen fynd a bod modd croniclo’n fwy cytbwys. Wrth gwrs fe fu ‘colbio, dirmygu a
diraddio’ o blaid cefnogwyr ac aelodau Llafur a Plaid Cymru. ‘Roedd yn gyfnod chwerw gyda atgasedd amlwg fel
mae’r llyfr yn son.
Profais yr atgasedd â’r chwerwder yna droeon, yn enwedig ar
nosweithiau etholiadau 1970 a 1974. Bu’n rhaid i’r heddlu fy rhwystro rhag annerch
y dorf yn‘70 oherwydd yr awyrgylch cas, a chefais bygythiadau personnol wedi cyfri
etholiad ‘74 pan enillais o dair pleidlais, a bu’n rhaid i’r heddlu warchod fy nghartre
am dau ddiwrnod. Ydw, dwi’n gwbod digon
am ddicter cefnogwyr Plaid Cymru y dyddie hynny. Dangoswyd cryn dipyn o
chwerwder ac atgasedd hefyd tuag at etholwyr Sir Gar oherwydd i Gwynfor golli,
yn y cylchgrawn ‘Taliesin’ er enghraifft.
Ond dyw’r dicter yna ddim wedi corddi dros y pedwar degawd
a mwy ers hynny. Yn y blynyddoedd diwetha, dw i wedi rhannu llwyfan gyda rhai o
selogion y Blaid ar faterion yn ymwneud a datganoli pellach i Gymru, gan
gynnwys hunan lywodraeth i’n Cenedl. Ni fyddai
unrhyw chwerwder wedi caniatau i fi wneud hynny. A beth bynnag, dw i ddim am adael
i unrhyw chwerwder o’r gorffennol pell ddiflasu fy mywyd a finne nawr yn fy saithdegau!
Dydw i ddim yn derbyn hefyd fod yna ‘anraslonrwydd’
gennyf ac mae’r penode olaf yn dangos hyn yn amlwg, lle dwi’n
cyfadde gwendidau ac yn dyfaru ambell beth.
Difyr nodi bod Vaughan Hughes yn disgwyl i fi fod yn wrthrychol.
Gallai ddim bod yn gwbl wrthrychol, dim mwy nag y gall e wrth fy meirniadu. Mae
ei sylwadau yn sicr yn ategu’r hyn a nodir yn y llyfr, sef ei fod yn annodd iawn
beirniadu Gwynfor o gwbl, er gwaetha ei wendidau â’i ffaeleddau amlwg. Ond lleiafrif
oddifewn i BlaidCymru sydd wedi mynegu’r un farn â Vaughan Hughes, yn gyhoeddus
o leia. Mae nifer fawr, yn enwedig y genhedlaeth ifanca, yn gweld pethe fel ma
nhw, heb yr eilun addoli. Dw i’n cadw at y safbwynt sydd yn y llyfr, doedd Gwynfor
ddim yn wleidydd da,cenhadwr oedd e – a dyna fy ymwneud i ag e yn y brwydrau etholaethol.
Mae lan i eraill i werthuso ei gyfraniad mewn meysydd eraill.
Mae’r llyfr yn gorffen trwy fynegi dyhead didwyll y bydde
wedi bod yn beth da petai Gwynfor a fi wedi siarad a thrafod gyda’ngilydd. Wnaethom
hynny erioed, yn hytrach anwybyddu’n gilydd a fu. Bydde’r ddau ohonom wedi cytuno
ar gryn dipyn dw i’n argyhoeddedig. Welai ddim byd anghytbwys nac anraslon yn y
fath osodiad.
26/05/2019
Dyfyniadau o lyfr Gwynoro a Gwynfor.
Ymateb cefnogwyr Gwynfor i
fuddugoliaeth Gwynoro yn 1970.
Fe’m rhwystrwyd rhag siarad o
falconi’r neuadd oherwydd ymddygiad y dorf. Dyna sydd yn arferol i’r ymgeisydd
buddugol, wrth gwrs, ond chefais i mo’r cyfle. Doedd dim llawer o wahaniaeth
gen i ar y noson, roedd blasu’r fuddugoliaeth yn ddigonol.
Ond daeth yn amser meddwl am adael
Neuadd y Dre. Roedd yr heddlu yn ansicr iawn a ddylen i a Laura fynd allan o
gwbl. Dywedwyd wrthym nad oedd yn saff i ni fynd trwy’r drysau ffrynt ac na
allen nhw warantu ein diogelwch.
Ar ôl ennill o 3 pleidlais yn
etholiad Chwefror 1974.
Ar ôl cyrraedd adref, aeth y ffôn
rhyw chwech gwaith gyda lleisiau gwahanol yn chwythu bygythion i’n lladd neu
niweidio’n ddifrifol. Fe adroddwyd y digwyddiadau i’r heddlu, ac am y 72 awr
nesaf codwyd bob neges ffôn ganddynt yn swyddfa’r heddlu.
Yr Arwisgo
Heb os fe siomwyd a diflaswyd nifer
fawr o bobol gan ddiffyg cefnogaeth Plaid Cymru i’r Arwisgo. Ond yr hyn a
wnaeth pethau’n llawer gwaeth oedd penderfyniad Gwynfor i beidio â mynd i’r
seremoni ei hun…Ond roedd rhagor o halen i ddod i’r briw, a Gwynfor ei hun
roddodd yr halen yno! Er ei fod ar ymweliad prin â San Steffan ar ddiwrnod yr
Arwisgo, gwnaeth yn siãr y byddai’n ôl yn ei etholaeth i groesawu’r Tywysog
Cymru newydd ar ei daith i Gaerfyrddin. Dyna un o gamgymeriadau mwyaf bywyd
gwleidyddol Gwynfor. Roedd pobol wedi dod i dderbyn na fyddai yn y seremoni.
Ond, doedden nhw ddim yn barod i dderbyn ei fod yn fodlon cwrdd â’r tywysog pan
fyddai ei daith ar ôl yr Arwisgo yn cyrraedd Caerfyrddin.
Fietnam
Doedd Plaid Cymru ddim yn unfrydol
ei chefnogaeth i fwriad Gwynfor i ymweld â’r wlad. Roedd rhai, yn naturiol
ddigon, yn pryderu am ei ddiogelwch ac yn wir am ei fywyd. Ar lefel ideolegol,
credai adain oedd fwy i’r dde yn y Blaid y byddai’r ymweliad yn cael ei
ddehongli fel cefnogaeth i’r garfan gomiwnyddol oedd yn brwydro yn erbyn yr
Unol Daleithiau. A phryder arall, oedd yn berthnasol i fi yn etholaeth
Caerfyrddin, oedd y byddai ymweliad tramor o’r fath yn atgyfnerthu’r ddelwedd
roedd nifer yn credu bod Gwynfor yn ei chyflwyno ohono’i hun, sef fel yr Aelod
dros Gymru, rhyw fath o arweinydd cenedlaethol, yn hytrach na’r Aelod Seneddol
dros etholaeth Gaerfyrddin.
Ar lefel fwy gwleidyddol, roedd hwn
yn gyfle euraidd i fi daro ambell ergyd i gyfeiriad Gwynfor. Wedi dod ’nôl o
Cambodia, siaradodd Gwynfor gryn dipyn am y sefyllfa yn Fietnam yn gyffredinol,
gan gynnwys yn Nhñ’r Cyffredin. Dau sylw o’i eiddo wnaeth fy sbarduno i ymateb
yn y wasg. Yn gyntaf, ei awgrym mai bai’r Americanwyr oedd rhyfel Fietnam, sef
y sylw a wnaeth yn ystod un sesiwn o’r Senedd yn San Steffan. Ac yn ail, ei
sylw’n cymharu Plaid Cymru â’r National Liberation Front yn Ne Fietnam. Roedd y
ddau sylw yn gwbl wallgo.
Bomio
Gofynnwyd i Gwynfor gondemnio’r
defnydd o drais yn enw cenedlaetholdeb. Gwrthododd wneud hynny. Gofynnwyd iddo
wneud hynny ar lawr y Tñ Cyffredin hefyd. Gwrthod a wnaeth. Doedd hynny ddim yn
syndod i fi. Oherwydd yn syth ar ôl ennill yr isetholiad, dywedodd yn y Times:
The government does not think anyone
is serious until people blow up things or shoot others.
Fy ymateb i yn y papurau lleol oedd
nodi efallai bod rhywun wedi cymryd Gwynfor Evans o ddifri.
Yn hytrach, yn y Western Mail, ac ar raglen deledu Heddiw, honnodd mai gwaith y
Gwasanaethau Cudd oedd y bomio, er mwyn dwyn cywilydd ac anfri ar achos
cenedlaetholdeb.
Yr Almaen.
(Roedd nifer o sylwadau yn llyfr
Gwynfor, Wales can win, wedi cythruddo Gwynoro. Er enghraifft:)
German invaders could not have
caused more than a fraction of the havoc to Welsh national life than the
British system had been wreaking for generations.
Gwnaeth sylwadau tebyg pan ymosododd
Rwsia ar Tsiecoslofacia. Honnodd bryd hynny fod y gorthrwm a ddioddefodd Cymru
trwy law’r Saeson yn waeth o lawer. Wrth gyfeirio at yr Ail Ryfel Byd yn
benodol, dywedodd:
At a time when the vast majority of
their fellow countrymen had been brainwashed by Britishness... to ask them to
kill their fellow human beings for England in these circumstances was, they
felt, to become murderers.
Yn y papurau lleol, fe ymosodais ar
y fath sylwadau:
Gwynfor can not accept that in both
World Wars, a great deal was at stake for the people of Wales, but according to
him, these wars were waged ‘not to defend anything of great value to Wales’.
Yr
‘A’ fawr
Mae’r llyfr yn trafod y ddadl ynglyn a’r defnydd o’r gair ‘annibyniaeth’. Mae’n ymwneud â diffinio elfen ganolog gwleidyddiaeth
cenedlaetholdeb. Yn y cyd-destun hwnnw, clywn gryn dipyn am annibyniaeth y
dyddie yma gan arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price.
Ond o ba lyfr emynau
oedd Gwynfor yn canu? Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed
ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un
dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd Siaradodd Saunders
Lewis yn nhermau statws dominiwn ac wedi hynny siaradodd Gwynfor yn nhermau
conffederaliaeth.
Doedd annibyniaeth
ddim yn rhan o eirfa yr un o’r ddau. Ond roedd yr ymosodiadau ar Blaid Cymru yn
y cyfnod sydd dan sylw yn y llyfr hwn yn seiliedig ar y gred bod y Blaid yn
galw am Gymru annibynnol.
Beth mae hyn yn ei olygu felly? Plaid genedlaetholgar yn cael ei
diffinio yn nhermau galw am Gymru rydd ond dau o’i harweinwyr cyntaf heb
ddefnyddio’r gair annibyniaeth o gwbl. Daeth hyn dipyn yn gliriach ar ôl
darllen ymhellach.
“Do not ask for independence for Wales. Not
because it is impracticable but because it’s not worth having... we want not independence
but freedom and the meaning of freedom in this respect is responsibility’’.
Yn 1976 cyhoeddodd
Pennar Davies lyfr ar Gwynfor. Ynddo mae’n crynhoi ei ddealtwriaeth o safbwynt
Gwynfor
…’’it is not independence in the form of ‘untarnished
sovereignty’ that is Plaid Cymru’s aim but an essential freedom to cooperate
and work with other nations’’
…does dim amheuaeth bod Gwynfor ei
hun wedi cael ei wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr.
Ond yn fy ymwneud i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant. Yr
argraff ges i oedd ei fod yn wleidydd ac ynddo wendidau amlwg a amharodd ar ei
yrfa, yn enwedig ar lefel strategaethol ac o ran ei duedd cyson i
or-ddweud!...Cenhadwr brwdfrydig oedd e. Cenhadwr effeithiol ond nid oedd yr
effeithiolrwydd hwnnw yn ei droi yn wleidydd da o gwbwl. Amhosib meddwl amdano
yn yr un anadl â rhai o fawrion gwleidyddol y cyfnod, fel Clem Attlee, a
drawsnewidiodd y Wladwriaeth Les, Aneurin Bevan a’r Gwasanaeth Iechyd, a chyn y
ddau hynny, Lloyd George. Mae llawer mwy o enghreifftiau.
09/05/2019
TENSIYNAU
A CHASINEB YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU’R 60AU A 70AU
Os
oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau
Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans.
Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar
ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro
Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a
gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf
diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.
Mae'r hanes yn seiliedig ar archif bersonol sylweddol yr
awdur, ac atgofion byw. Mae’r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a
1974 wrth i Gwynoro a Gwynfor Evans gynrychioli’r etholaeth ar wahanol adegau
yn y 1970au.
“Dydw i ddim yn credu y bu cyfnod tebyg yng
ngwleidyddiaeth Cymru i ganol y chwedegau a dechrau’r saithdegau, sef union
gyfnod y brwydro rhwng Gwynfor a fi. Roedd y ddau ohonom, yn hynny o beth, yn
lwcus i gael bod yn rhan o’r amser hynny. Roedd yn gyfnod o frwydro a herio’r status quo, yn enwedig ar faterion
cyfansoddiadol yn ymwneud â datganoli a statws yr iaith Gymraeg. Dyma gyfnod
Tryweryn, Y Blaid Lafur yn ennill etholiad gyffredinol am y tro cyntaf ers
blynyddoedd maith, dyddiau trais, bomio, protestio, Cymdeithas yr Iaith a
Saunders Lewis yn corddi’r dyfroedd y tu fewn i Blaid Cymru,” meddai Gwynoro
Jones.
Er y gwahaniaethau pleidiol, roedd lles eu cenedl yn eu
gyrru. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r
gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Meddai’r newyddiadurwr Gwilym
Owen yn y Rhagair:
“O’r cychwyn cyntaf, doedd yna fawr o gariad brawdol
rhwng y ddau fel unigolion na rhwng eu pleidiau chwaith. Roedd yna awyrgylch o
wawd a dychan, chwerwedd ac ymgecru personol i’w chanfod yn ddyddiol bron. Yn
wir fe ellid honni fod yna gasineb yn bodoli ar bob lefel.”
“Does dim amheuaeth bod Gwynfor ei hun wedi cael ei
wyngalchu hyd at drwch blewyn i fod yn sant gan ei ddilynwyr. Ond yn fy ymwneud
i ag e, ni welais i ddyn oedd yn agos at fod yn sant,” meddai Gwynoro.
Mae Gwynoro hefyd yn honni fod yna debygrwydd rhwng y
cyfnod cythryblus yna a heddiw, wrth i’r drafodaeth ar ddatganoli ac
annibyniaeth i Gymru ac Ewrop fod yn bynciau llosg o hyd:
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r fflam wleidyddol wedi
ailgynnau yndda i. Mae gen i flog, sianel YouTube, tudalen Facebook, cyfri
Twitter a’r cwbl yn weithgar tu hwnt. Dw i’n annerch unwaith eto, yn enw
mudiadau amrywiol fel Ie Cymru. O ganlyniad, mae’n naturiol fy mod yn edrych
’nôl ar y cyfnod pan oeddwn yn Aelod Seneddol. Mae’r awch i wneud hynny yn ôl
nawr.”
Erbyn hyn, mae Gwynoro yn cyfaddef ei fod yn cyd-weld
gyda Gwynfor Evans ar nifer faterion yn ymwneud â Chymru:
“Mae’n siŵr petai’n fyw heddiw y bydden ni’n cyd-fynd ar
sawl peth yng nghyd-destun dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl,” meddai Gwynoro
yn ei lyfr.
Maent erbyn hyn yn siarad yr un iaith, gan gynnwys am
annibyniaeth Cymru. Yn ôl Gwynoro, nid oedd annibyniaeth i Gymru yn un o
ddymuniadau Plaid Cymru yn ystod y 60au a 70au, a chân cymharol newydd yw’r
elfen yma o wleidyddiaeth Cymru.
“Mae’r pwyso a’r mesur, y pendroni a’r dadansoddi a wnaed
ar gyfer y gyfrol hon, wedi peri i fi feddwl nad oedd ei ddwylo ar yr un
dudalen â Leanne ac Adam. Roedd yn agosach at ei ragflaenydd (Saunders Lewis).”
Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.
Mae Gwynoro yn datgan iddo fethu cofio nac amgyffred i Gwynfor Evans arddel na ddiarddel y term ‘annibyniaeth’ yn ei areithiau, ei gyfweliadau, neu mewn erthyglau papur newydd yn y cyfnod dan sylw. Ei ddadansoddiad felly yw byddai’r ddau wedi gweld llygad yn llygad ar eu hawydd am ryddid yn hytrach nag annibyniaeth i Gymru.
Mae Gwynoro
a Gwynfor gan Gwynoro Jones a Alun Gibbard ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).
26/04/2019
Fideo yn cyflwyno y llyfr 'Gwynoro a Gwynfor'
Pam cyhoeddi'r llyfr sy'n croniclo brwydrau ffyrnig Caerfyrddin 1966-74
Dyma fideo deng munud o hyd, sy'n dweud pam i ni gyhoeddi’r llyfr, Gwynoro a Gwynfor. Mae’r llyfr yn croniclo’r brwydrau gwleidyddol yn etholaeth Caerfyrddin rhwng 1966 a 1974, gan ganolbwyntio ar y frwydr bersonnol rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans, y ddau a fu’n Aelodau Seneddol yn yr etholaeth yn y cyfnod dan sylw. Mae’r llyfr yn dangos yr atgasedd a’r chwerwder a oedd mor amlwg drwy’r cyfnod, nid yn unig rhwng y ddau unigolyn ond rhwng eu pleidiau â’u cefnogwyr. Go brin bod Cymru wedi gweld cyfnod mor chwerw yn wleidyddol.
Mae’r llyfr yn dweud stori Etholiad Cyffredinol 1966, pan ennillodd Plaid Cymru ei sedd seneddol gynta, trwy Gwynfor Evans, tair blynedd o frwydro gwleidyddol yn arwain at Etholiad `Cyffredinol 1970, pan gipiodd Gwynoro’s sedd oddi ar Gwynfor. Dyma gyfnod materion fel Arwisgo Tywysog Cymru, ymgyrchoedd bomio i enill cenedlaetholdeb a bwriad Gwynfor i ymweld a Fietnam yn stod y rhyfel rhwng y wlad honno â’r Unol Daleithiau. Caiff y straeon yma sylw yn y llyfr.
Yn 1974 roedd y ddau yn brwydro yn erbyn ei gilydd eto, nid unwaith ond ddwywaith. Bu dwy Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Gwynoro enillodd y gynta, o dair pleidlais yn unig. Gwynfor ennillodd yr ail.
Wrth adrodd stori’r ddau unigolyn, mae Gwynoro hefyd yn esbonio agwedd y Blaid Lafur tuag at ddatganoli ac yn sôn iddo gael ei ddad-rithio gan y Blaid Lafur yn ei flynyddoedd cynta fel Aelod Seneddol.
Daw’r llyfr i ben wrth i Gwnoro asesu ffordd mae’n ymateb heddi i ddigwyddiadau’r cyfnod, sy’n cynnwys ystyried ei berthynas gyda Gwynfor â’i agwedd tuag at 'annibyniaeth' i Gymru. Daw i’r amlwg nad oedd y ddau mor wahanol a hynny i’w gilydd wedi’r cyfan.
Subscribe to:
Posts (Atom)

