Yr wyt wedi
siomi mwyafrif o bobl Cymru – a dweud y gwir nid wyt yn addas i fod yn Brif Weinidog ein
gwlad!
Wedi mynd yn
erbyn dy Prif Weinidog, rhan fwyaf o ASau ac ACau dy blaid yng Nghymru
Bellach yn carfan
UKIP – gyda Farage a Galloway
Mae Andrew
Davies wedi taflu ei blaid yng Nghymru i pwll tro ac gallai fod yn drychineb i’r Toriaid yn ymgyrch etholiadau Senedd Cymru. Er ei
bod yn wir na fydd Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) tan chwe wythnos ar ôl hynny fe
fydd llawer o faterion ymgyrch etholiad y Senedd yn anochel o gorgyffwrdd a dadleuon ynglyn a'r refferendwm. Dyma rhai ohonynt– rhagolygon ar gyfer twf econ omaidd a
swyddi, ailstrwythuro’r cyn-gymunedau diwydiannol, hyfforddiant a buddsoddiad,
amaethyddiaeth, twristiaeth, gwasanaethau gwledig a'r amgylchedd.
Mae David
Cameron yn dweud bod
Cronfeydd ariannol
yr UE wedi gwneud gwahaniaeth mawr "mewn llawer o rannau o Gymru.
Yna dywed ei Ysgrifennydd
Gwladol Stephen Crabb:
"ar y cyfan o gymharu costau a manteision,
risgiau a chyfleoedd, Prydain a Chymru yn mewn gwirionedd mae Prydain a Chymru yn
well eu byd tra yn aros yn rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig."
Cytunaf yn llwyr â Kirsty
Williams pan ddywed bod penderfyniad Andrew Davies yn:
"sarhad i
ffermwyr sy'n gweithio'n galed, perchnogion busnesau bach a phobl eraill ydd
mewn swyddi sydd yn gwbl ddibynnu ar masnachu gyda’r UE"
Yn ddi os nid
yw pobl Cymru bob amser yn sylweddoli fod yr UE yn chwarae rhan sylweddol yn
eu bywydau bob dydd - heb gwestiwn mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i les ein gwlad.
Mae'r Farchnad
Sengl y farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru. Yn 2014 'roedd allforio nwyddau
o Gymru i aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn unig yn werth bron £5.8bn. Ac mae’r
ymchwil diweddara yn dangos fod tua 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar
fynediad i'r Farchnad Sengl.
Mae hefyd yn
brif ffactor o ran mewnfuddsoddi. Bellach gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd
eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru ac maent yn cyflogi dros
55,000 o bobl.
Mae Cymru
wedi elwa o biliynau o bunnoedd o gronfeydd arianol yr UE dros y blynyddoedd.
Yn y flwyddyn hon yn unig ‘rydym wedi cael fuddsoddiad o £425 miliwn gan gronfeydd
strwythurol yr UE i gefnogi ein economi a'r farchnad lafur.
Rhwng 2007 a
2013 ‘roedd Cymru wedi elwa ar fuddsoddiad o dros £1.9bn allan o’r gronfeydd strwythurol yr UE tuag 290 o
brosiectau. Pan gynhwysir y cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru mae’r cyfan
yn fuddsoddiad o £3.7bn ar y prosiectau yma.
Mae'r holl
arian hyn wedi helpu’r prosiectau UE i gyflawni manteision pwysig ar gyfer
pobl, busnesau, yr amgylchedd a chymunedau, cefnogi 190,800 o bobl i ennill
cymwysterau addysgiadol a sgiliau, dros 62,800 i mewn i waith, a chreu 30,600 o
swyddimewn dros 10,400 o fentrau. Nid pethau bach ‘rydym yn delio gyda pan yn
penderfynu eich pleilais dydd y refferendwm!
Eisoes mae £2
biliwn pellach wedi ei rhaglenni gan cronfeydd strwythurol yr UE dros y 6
mlynedd nesaf.
Meysydd eraill lle mae Cymru yn elwa o'r UE yw ymchwil gwyddonol, arloesi
a datblygiadau technoleg sy'n hanfodol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi o
ansawdd uchel.
Wrth gwrs bydd gadael yr Undeb
Ewropeaidd yn ddiau yn cael effaith ddinistriol ar ffermwyr y genedl, yr
economi wledig a twristiaeth. Ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn
dibynnu ar gymorth yr UE i fyny at rhwng 35-50% o'u hincwm gros. Mae astudiadau yn datgelu fyddai dyfodol llwm i ffermio y
tu allan i'r UE ac amcangyfrifir er enghraifft y gallai dim ond tua 10-15% o
ffermwyr cadw mewn busnes yn llwyddianus heb y lefelau presennol o gymorth.
Ar hyn o bryd, derbynnir tua £4.0bn
mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer amaethyddiaeth ym Mhrydain. Y dyfaliad gorau
yr ydw i wedi ei weld yw pe byddai Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar ei ben
ei hun, tu allan i'r UE, dim ond tua £1.0 biliwn y gallau’r llywodraeth ariannu.
Heb gwestiwn felly byddai gadael yr UE yn arwain at ganlyniadau difrifol ar
gyfer ffermio.
Yn sicr fydd yr effaith ar
economi Cymru a chefn gwlad yn peri poen! Mae 58,000 o bobl yn cael eu gyflogu
yn uniongyrchol yn y diwydiant amaethyddol. Pan gynhwysir y sectorau bwyd-amaeth a
phrosesu bwyd yn ogystal yna mae'r nifer yn cyrraedd tua 230,000 (18%
o'r gweithlu). Amcangyfrifir fod y
busnesau yma yn cyfrannu tua £6biliwn bob blwyddyn i economi Cymru.
Ar ben hyn mae polisïau
datblygu gwledig a mentrau eraill sydd yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig, twristiaeth, cymunedau, treftadaeth
a thirwedd.
Fel y dywedais mae Andrew
Davies wedi bod yn annoeth dros ben ac efallai wedi rhoi ei rhagfarnau personol yn gyntaf gan anghofio y
canlyniadau ar Cymru a'i phobl.