Yn ei anterth oedd ei rym, ei ddylanwad, a'i fenter yn ddihafal yn y tir. Ef oedd Pencampwr y gwan a'r tlawd.
‘He was the greatest Welshman which that unconquerable race has produced since the age of the Tudors’ - Winston Churchill
‘Sefydlwyd Amgueddfa Lloyd George yn 1947 ac fe‘i redwyd gan Ymddiriedolwyr hyd nes iddi gael ei throsglwyddo i'r Cyngor yn 1987. Mae'r Cyngor bellach yn rhedeg yr amgueddfa a hefyd Highgate, sef cartref plentyndod David Lloyd George, sydd wedi'i hadfer i ddangos i bobl sut brofiad oedd hi pan oedd yn weithdy cobler yn yr 1860au.
Mae'r amgueddfa yn un o'r unig ddwy amgueddfa ledled Prydain yn ymroddedig i gyn Prif Weinidog ac yn denu rhwng 6,000 a 7,000 o ymwelwyr y flwyddyn’.
Byddai cai yr amgueddfa yn golygu:
• llai o gyfleoedd i hyrwyddo hanes a dylanwad David Lloyd George ar Brydain a'r byd yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf ac yn ei gyfnod fel Prif Weinidog;
• yn cael effaith ar economi'r ardal o ran twristiaeth, a hefyd fe
• amddifadu’r ysgolion, colegau a chymdeithasau addysg a chyfleoedd ymchwil o’r adnodd holl bwysig a hanesyddol sydd yn atyniad gyda phroffil uchel.
Nawr mae yna gyfle i Llywodraeth Cymru, Cadw, Cymdeithas Lloyd George a llu o fudiadau eraill i ddod at ei gilydd i sicrhau am byth dyfodol yr amgueddfa sydd yn rhan mor amlwg o dreftadaeth Cymru.
Yn barod mae teulu Lloyd George wedi sefydly cronfa i godi £250,000 tuag at adnewyddu y lle hanesyddol hwn.