23/06/2016

'’Mae Cymru yn cyfrannu llawer mwy at yr UE nag a gaiff nôl '' Dywed Boris.

DDIM YN WIR.

Mae y manteision o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn niferus ac yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar.

Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad sydd yn egluro bod y swm o arian a derbyniodd Cymru o gyllideb yr UE yn 2014 yn £658m, tra bod ein cyfraniad tuag yr UE (ar ôl cymeryd i ystyriaeth y cyfran o ad-daliad a dderbyniwyd gan y DU) yn sefyll ar £414m.
 Felly ‘roedd Cymru wedi elwa o tua £245m. 

Mae'r farchnad sengl yr UE yn farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru – yn 2014 yn unig ‘roedd gwerth allforio nwyddau o Gymru i wladwriaethau eraill yr UE bron £5.8bn ac mae’r ymchwil diweddara yn dangos fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i'r farchnad sengl.

Heb gwestiwn y brif ffactor o ran mewnfuddsoddi yn ein gwlad yw’r farchnad sengl. Bellach erbyn 2015, gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru, sydd yn cyflogi dros 55,000 o bobl.

Mae Cymru yn elwa ar ein aelodaeth o'r UE yn fyw nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig (DU) 
      'Rydym yn mynd i dderbyn mwy na £3 biliwn o'r buddsoddiad yr UE rhwng 2014 a 2020;
      Yna mae'r Banc Buddsoddi Ewropeaidd wedi buddsoddi £1.6bn mewn prosiectau yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn y pum mlynedd diwethaf, ‘rydym wedi elwa drwy 96 o brosiectau oherwydd buddsoddiad gan yr UE, gan greu neu ddiogelu 16,000 o swyddi
Mae mwy na 190,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â'n masnach i Ewrop; Bu i Cymru allforio gwerth £5.8bn o nwyddau i'r UE yn 2014 a oedd yn 43% o'n holl allforion nwyddau traws byd. 
Yna mae y fasnach dwristiaeth wedi elwa o'r buddsoddiad mewn datblygiadau megis y llwybr arfordirol. Mae tua 130,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a diddorol yw nodi y gwariwyd £206m gan dwristiaid o Ewrop yng Nghymru yn 2014, a oedd dros hanner y gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol. 
Heb gwestiwn mae y sector amaethyddol yng Nghymru yn holl bwysig i fywyd cefn gwlad ac yn dal i fod yn sylweddol gyda bron 58,000 o bobl yn gweithio yn uniongyrchol yn y diwydiant.    
Yn sicr mae cymorthdaliadau yr UE yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o ffermwyr a ydynt yn  gwneud elw neu golled. Er engraiffy 'roedd cymorthdaliadau, ar gyfartaledd yn 2014-15, yn cyfrif am 81% o incwm busnes ffermydd. Hefyd byddai dros 50% o'r holl ffermydd wedi gwneud colled heb gymhorthdal.
Fe fydd ffermwyr Cymru yn derbyn £1.7 biliwn rhwng nawr a 2020 a hefyd byddant yn elwa y brandio ar gyfer cig eidion a chig oen. Gwerthir 90 y cant o cig oen Cymru i'r UE felly - byddai ymadael yn cael effaith enfawr ar y diwydiant.
Yna mae y sector prosesu bwyd-amaeth yn cyflogi tua 230,000 o bobl neu tua 18% o'r gweithlu ac yn werth tua £6 biliwn y flwyddyn i economi Cymru.