06/11/2016

Yr Arglwydd Elystan Morgan wedi llunio dau welliant i Fesur Cymru fydd yn cael eu trafod Llun Tachwedd 7

Image result for lord elystan-morganSefydlu dau weithgor i adrodd o fewn 3 blynedd ar

weithrediad fân pwerau ataledig y mesur

a Statws Dominiwn i Gymru



Yr Arglwydd Elystan Morgan yn datgan:

‘Mae cynllun y Llywodraeth ar gyfer cyfansoddiad pwerau ataledig i Gymru yn sylfaenol ddiffygiol.

Er bod system pwerau ataledig, sy’n rhoi Cymru yn gyfartal a Gogledd Iwerddon a’r Alban, yn gyfiawn ac i’w chroesawi mae dull y LLywodraeth o weithredu yn gwbl chwerthinllyd trwy gynnwys dau gant o ataliadau gyda ugeiniau ohonynt yn ymwneud a materion bychain a thila (e.e. trwyddedau alcohol, cwn peryglus, puteindra, casgliadau elusennol ac yn y blaen)

Mewn cymdeithas oleuedig mae system bwerau ataledig yn dibynnu yn gyfan gwbl ar gyd-ymddiriedaeth a pharch sy'n bodoli rhwng y fam Senedd a'r epyl.

Fodd bynnag ymddengys pan ofynnwyd y cwestiwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’w gyd-aelodau yn y cabinet -

 'pa materion y dymunech eu hatal '?

 yr ateb unfrydol ydoedd –

‘ pob peth ar wyneb daear boed mor fach a thila a gellyd meddwl amdano'.

Am y rheswm hynny disgrifiais ei hagwedd fel un Imperialaidd a threfedigaethol . Ni allen ddychmygu y Swyddfa Trefedigeuthau tri ugain mlynedd yn ol yn meiddio ymddwyn fel hyn tuag at unrhyw drefedigaeth Brydeinig yn y Caribi neu yn yr Afrig.

Ond cofiwn bob amser mae Cymru oedd trefedigaeth cyntaf Lloegr a bod pobl o hyd a fydde yn dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser.

Mae’r gwelliant a lyniwyd yn galw ar Ysgrifennydd Cymru i sefydlu gweithgor i adrodd o fewn tair mlynedd i’r Senedd ar weithrediad y man faterion ataledig gan gofio eu bod ar yr un llaw yn groes i egwyddor sybsidiaredd (subsidiarity) ac yn fwy na hynny yn warth ar enw Cymru.

Statws Dominiwn 

‘ Mae’r gwelliant a luniais yn galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sefydlu gweithgor i adrodd o fewn tair mlynedd i’r Senedd ar bosibiliadau Statws Dominiwn i Gymru fel gwlad a cenedl.

Y mae rhaid i ni fewddwl am ddyfodol ein cenedl mewn termau mawrfrydig. 

 Am rhy hir buom yn begera briwsion oddiar fwrdd ein meistri.

O hyn ymlaen rhaid i ni godi ein golygon i lefelau uwch sy’n deilwng o’n statws fel gwlad a chenedl aeddfed.

Mae Statud Westminster 1931yn creu nid model haearnaidd o Statws Dominiwn ond hytrach yn datgan egwyddor hyblyg ac ystwyth’.