23/04/2019

Darlith ar Parch Philip Jones Porthcawl

Parch Robert Ellis yn dynwared Parch Philip Jones, Porthcawl


Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny


Fel y dwedais cynt wrth cyflwyno record Diwygiad 1904 cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.


Dyma record arall nes i brynu yn 1958. Mae’n dweud stori’r Gymru y cefais fy magu ynddi, sydd mor wahanol i Gymru heddi. Ro’dd pregethwyr yn sêr bywyd cyhoeddus y genedl yn y dyddiau hynny, mor ddylanwadol yn eu cymunedau ag yr oedd y sêr roc a phop newydd. Ro’dd nifer, os nad y rhan fwya, yn actorion ac yn ddramodwyr eu dydd.




Un o’r rhai mwyaf blaenllaw o’dd y Parch. Philip Jones, o Taibach, ger Port Talbot. Byddai’n denu torfeydd enfawr i’w glywed yn pregethu. Ro’dd yn weinidog yn Abergwaun, Llanelli, LLandeilo a Phontypridd, cyn ymddeol i Borthcawl.

Yn y recordiad yma, mae gweinidog ro’ ni’n ei adnabod yn dda yn y 50au â’r 60au, Y Parch. Robert Ellis, Tycroes, Dyffryn Aman, yn pregethu yn null Philip Jones. Mae hyn hefyd yn dangos dylanwad y pregethwyr mwyaf adnabyddus. Ro’dd pregethwyr eraill am recordio eu pregethau nhw, fel rhywfath o deyrnged – fel ma cerddorion yn gwneud heddi!