08/04/2019

Diwygiad 1904

Atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru



Ro’ ni yn fy arddegau pan ro’dd y diwylliant roc a phop yn blaguro, yn gyntaf Radio Luxembourg, yna Radio Caroline ac yn ddiweddarach, y BBC. Dyma flynyddoedd Fats Domino, Buddy Holly, Elvis, Cliff Richard, Lonny Donnegan, Dusty Springfield, Lulu, Twiggy i enwi ond rhai. Ro’dd hyd yn oed gwisg teddy boy ‘da fi!  

Y rhaglenni teledu ro’ ni’n eu mwynhau oedd ‘Six Five Special’ ac yna ‘Top of the Pops’.  Hefyd, ro’dd Canu Gwlad yn dechrau dod yn boblogaidd. Felly, dyma fy mywyd yn Foelgastell, Sir Gar, ar ddiwedd y Pumdegau.



Ond ro’dd dylanwadau eraill, yr un mor gryf, arna’i hefyd. Cefais fy magu ar aelwyd lled Gristnogol a’r Capel oedd y canolbwynt. Ers yn dair oed, bydden yn mynd i gapel Peniel, Foelgastell dair gwaith ar y Sul ac yna ddiweddarach, i’r cwrdd gweddi ar nos Lun hefyd. Ro’ ni’n chwarae’r organ yn y capel a wedyn fe es yn bregethwr lleyg tan tua pum deg oed.

Felly, ro’dd ‘Craig yr Oesoedd’ a ‘Rock and Roll’ yn gorwedd ochr yn ochr â’i gilydd yn ddigon cyffroddus yn fy mywyd. Ac er gwaetha’r fagwraeth grefyddol, do’dd fy rhieni, na’m mamgu â’m tadcu, ddim yn credu bod y fath ddeuoliaeth yn unrhyw broblem.

Ma’r recordiad yma o 1958 yn adlewyrchu bywyd capel y Gwynoro ifanc. Mae’n dangos agwedd o fywyd Cymru sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu. Dw i wedi bod yn awyddus i gynnwys y recordiad ar fy sianel YouTube ers amser maith er mwyn atgoffa pobol o’r Gymru dw i’n ei chofio – gwlad sy’n wahanol iawn i Gymru heddi, heb os.

Mae’r recordiad yma’n cyflwyno atgofion pobl a o’dd yn rhan o ddigwyddiad arwyddocaol iawn yn hanes Cymru, sef ‘Diwygiad 1904’. Dwi’n cofio siarad gyda nifer ym mhentre Foelgastell a oedd yn cofio’r Diwygiad. Fe ddechreuodd yng nghapel Moriah, Casllwchwr ar Tachwedd 6 1904, parodd am dros flwyddyn a lledodd trwy gapeli a chymunedau Cymru. Ro’dd sôn amdano drwy’r byd a phapurau newydd yn dweud stori’r ffeneomena ysbrydol yma. Dyma ddyddiau clybiau rygbi yn cau er mwyn cynnal cyfarfodydd pregethu a gweddi!