Amser i pleidiau
gwleidyddol Cymru 'ddeffro' a phobl Cymru i 'ddoethir' am bwriadau UKIP.
Y ddau syndod a fu o ganlyniadau’r etholiad
cyffredinol yng Nghymru oedd lefel y gefnogaeth a gafodd y Torïaid - cynyddu ei
cyfran o'r bleidlais, dal gafael ar ei holl seddi ac ennill tair sedd, dwy
ohonynt oddiwrth LLafur gan gynnwys Gŵyr. Yna y syndod arall oedd y cynnydd
mawr yn y gefnogaeth i UKIP yn enwedig a fwyaf nodedig yn yr etholaethau cyn
feysydd glo.
Mae'n
wir bod Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi colli
pleidleisiau i UKIP ond dim byd tebyg i’r niwed a wnaethont yn yr ardaloedd traddodiadol
y Blaid Llafur. Daeth UKIP yn ail ym Merthyr Tudful a Rhymni, Blaenau Gwent a
Chaerffili a hefyd gyda perfformiad eithaf cryf mewn etholaethau eraill.
Mae
ymchwil a gynhaliwyd ar blog 'etholiad-data' wedi nodi pum o grwpiau
cymdeithasol sy'n cael eu hawlio i fod yn agored i argymhellion a natur ymgyrchu
UKIP :-
Grwpiau teuluol yn cynnwys denantiaid tlotach a hŷn
sy’n byw mewn tai cymdeithasol a hefyd rhieni ifanc sy'n angen cefnogaeth sylweddol gan y wladwriaeth.
Mae grwpiau o'r fath yn byw mewn ardaloedd gyda amddifadedd sylweddol;
Gweithwyr coler glas canol oed
- teuluoedd sy'n byw mewn mewn semis
maestrefol a adeiladwyd rhwng y rhyfeloedd byd; gweithwyr diwydiannol sydd yn tra gyfforddus eu
byd; a theuluoedd ar incwm isel gyda swyddi yn seiliedig ar sgiliau isel. Mae y bobl hyn yn aml wedi'i grynhoi mewn ardaloedd
sydd wedi dioddef o ganlyniadau y cyfnod ôl-ddiwydiannol;
Aelwydydd sy’n byw yn tai ystadau cyngor hŷn: parau canol oed
yn byw mewn cartrefi tai hawl-i-brynu a
phobl hŷn sy'n byw ar ystadau cyngor ar gyllidebau isel;
Yna pobl (hen fel arfer) sy'n
byw mewn fflatiau neu tai cymdeithasol sydd yn dibynnu ar les, mae’r grŵp hwn
hefyd yn cynnwys tenantiaid heb blant mewn fflatiau tai cymdeithasol ag
anghenion cymdeithasol cymharol fach. Mae grwpiau o'r fath yn byw mewn ardaloedd
sydd wedi dioddef o effeithiau'r ôl- ddiwydiannu ac yna yn olaf,
Pobl ifanc - senglau a chyplau
– sydd yng nghamau cynnar eu bywyd fel oedolion ar incwm isel ac yn cael hi’n anodd
i gael deupen llinyn ynghyd. Yn ôl yr adroddiad mae y rhain yn dueddol o fyw mewn cymdogaethau â gwerth isel, cartrefi rhent
preifat heb eu cynnal yn dda a tai I brynwyr tro
cyntaf.
Nid oes llawer o amheuaeth fod Cymru ers ddechrau'r
ganrif hon yn dod yn
gynyddol fwy canol -dde yn ei gwleidyddiaeth. Yn ddiweddar gwelwn fod yr ymadrodd 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr' ar y marc
mewn yn wleidyddol. Mae'n werth cofio fod hanner y ddau ar hugain o’r
awdurdodau lleol yng Nghymru fod rhwng 30% a 50% o’r boblogaeth wedi eu geni y
tu allan i Gymru. Felly mae'n amlwg bod y Gymru y tyfais i fyny ynddi mwyach ddim
yn bodoli. Mae’r dadansoddiad
uchod o'r hen gymunedau diwydiannol a’r arall-gyfeirio economaidd sydd yn
digwydd wedi cyfrannu at y tueddiad hwn.
Diddorol
hefyd yw nodi fod 48% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â
Lloegr, ac mae’r ffin yn cael ei groesi 130,000 o weithiau bob dydd. Felly mae
angen i’r gwleidyddion ac eraill sydd yn ceisio dirnad allan pam y mae ein
gwleidyddiaeth yng Nghymru mor wahanol i'r Alban i gadw hyn mewn cof. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer yr Alban yw dim
ond tua 3.7% o boblogaeth yr Alban sydd yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â
Lloegr a chroesi’r y ffin llai na 30,000 o amseroedd y diwrnod!
Yr
ydym o fewn tua saith mis i etholiad Y Cunulliad ac felly mae hen angen i’r pleidiau
gwleidyddol mynd i'r afael â bygythiad UKIP gyda llawer mwy o frys a
difrifoldeb. Hefyd mae angen i etholwyr Cymru i ystyried yn mwy manwl beth sy'dd
gan UKIP i gynnig i Gymru a beth yw'r
manteision posibl o bleidleisio i blaid sydd a’i gwreiddiau yn llwyr yn Lloegr.
Nid oes ganddi unrhyw draddodiad, treftadaeth neu gefndir o Gymru o gwbl. Mae'n
Saesneg i’r craidd.
Beth
arall sydd wedi fy synnu yw fod y pleidiau wedi gadael UKIP i fod ers Mai – felly
mae'r amser wedi cyrraedd i newid hynny i gyd ac mae angen dechrau yn awr.
Mae'n debygol iawn na byddant yn ailadrodd perfformiad yr Etholiad Gyffredinol yn
2016 ac eisoes mae yr aelodaeth wedi gostwng dros 10% ers mis Mai.
Fel
dwedais mae UKIP yn amlwg yn blaid Saesneg a sefydlwyd yn 1991 fel plaid Ewro-sgeptig
ac adain dde poblyddol ond serch hynny wedi gweld cyfleoedd i gymryd rhan yn
ein gwleidyddiaeth oherwydd effaith 'am Gymru gweler Lloegr'.
Nid oes ganddi unrhyw
ddiddordeb greddfol yng ngwleidyddiaeth Cymru ac eithrio defnyddio ein cenedl
fel cerrig camu i gyflawni ei dau hamcan obsesiynol sef cael Prydain allan o
Ewrop a manteisio ar y cerdyn gwrth-fewnfudo. Y themâu hynny yn sicr o apeliodd
ym mis Mai i amrywiaeth o bleidleiswyr yng Nghymru, ond mae’r hyn sydd yn gwynebu
pleidleiswyr Cymru flwyddyn nesaf yn faterion gwahanol iawn.
Bydd
etholiad Mai nesaf i'w gwneud â materion ein gwlad ein hunain, gan gynnwys perfformiad
Llywodraeth Llafur Cymru dros y blynyddoedd a sut y gellir darparu gwasanaethau
gwell mewn perthynas ag addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Gyda
hynny mewn golwg, euthum i wefan UKIP Cymru i weld beth oedd y blaid wedi dweud
mewn perthynas â Chymru fis Mai diwethaf yn gyntaf. Doeddwn i ddim yn disgwyl
llawer ac yr oeddwn yn eithaf cywir. Roedd ychydig o gyfeiriadau at Gymru mewn
maniffesto oedd wedi ei alw ar y clawr 'Credu yng Nghymru', ond ar archwiliad
agosach oedd y manifesto yn ail-redeg bron eu maniffesto Prydeining. Y
cyfeiriadau a wnaethpwyd am Gymru yn cynnwys y bydd y blaid yn cyflwyno mewn
pryd cynigion ar gyfer addysg, iechyd a darpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer
etholiadau'r Cynulliad.
Felly, euthum i geiso canfod beth ydy’r sefyllfa pum
mis ar ol Mai ac ar wefan UKIP Cymru maent
ar hyn o bryd yn gwahodd awgrymiadau gan y cyhoedd yn gyffredinol i’w helpu i
ddatblygu’r polisiau. Nid yw hynny'n syndod ychwaith nad oes ganddynt llawer o
syniad am Gymru. Yn wir dywedodd eu harweinydd Farage yn eu cynhadledd yn Doncaster
bod yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban a hyd yn oed ar gyfer Maer Llundain yn
unig i gael eu defnyddio yng nghyd-destun cynnal y momentwm ar gyfer pleidlais
'Na' yn yr efferendwm ar Ewrop. Dywedodd nad oedd unrhyw fater arall o bwys iddo.
Felly
nid yn unig fod angen i’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru 'ddeffro' am UKIP
ond yn sicr mae i bpbl Cymru 'ddoethi i fyny' am bwriadau UKIP. Dydi Cymru ddim
llawer o bwys i Farage yn y darlun a’r strategaeth sydd ganddo fo ar gyfer
2016.
Nid
yn unig mae UKIP Cymru!! yn palu am awgrymiadau polisi i gynnwys yn eu
maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad maent hefyd yn y busnes o gasglu
polisïau pleidiau eraill megis cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol ryw ddwy
flynedd yn ôl i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth
y bydd UKIP yn dwyn un arall o bolisiau y blaid sef yr un a‘i basiwyd yn y
gynhadledd yn Bournemouth ar leihau TAW
ar dwristiaeth a busnesau bach yng Nghymru.
Deallaf
yn llwyr pam fod UKIP yn canolbwyntio ar bobl yn yr hen gymunedau diwydiannol ledled
Cymru sydd wedi hen deimlo iddynt gael eu siomi gan Lafur Cymru ac fod Llafur
yn y Cynulliad wedi gosod llawer ormod ar Caerdydd a’r llain arfordirol. Fodd
bynnag nid yw hynny'n rheswm digonol i bobl Cymru i droi at blaid poblyddol asgell
dde Lloegr.
Cymharwch
UKIP gyda gyda pleidiau hanesyddol Cymru. Y Democratiaid Rhyddfrydol au rhagflaenwyr
yng Nghymru yn mynd yn ôl i chwarter olaf y 1800au. Yna ffurfiwyd Llafur yn 1900 a Plaid Cymru yn 1925. Ond mae
yn hen bryd i’r dair plaid wrando llawer mwy ar lleisiau pobl Cymru ac ymateb i’w
pryderon mewn ffordd llawer mwy gwirioneddol ac ymarferol nag erioed o'r blaen.
Cofiwch i fod yn deg mae hyd yn oed y blaid Dorïaidd yn ymestyn yn ôl i 1921 yn
hanes Cymru. Y ffaith fydd wrth gwrs na fydd y Toriaid yn mynd i ymosod at UKIP yng Nghymru oherwydd mewn llawer i faes maent
yn 'gyd-deithwyr' yn y fenter. Mae’r Toraid yn gwybod yn dda mae elwa fyddant o
unrhyw ddifrod a gall UKIP wneud i’r tair plaid arall yng Nghymru.
Yn
ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad rhaid inni ddelio a UKIP yn uniongyrchol
mewn perthynas â 'Mewn neu Allan' o'r
Undeb Ewropeaidd (UE) fydd orau. Cytunaf y mae angen i'r UE ei ddiwygio a’i ddemocrateiddio'r
ond i adael yr Undeb byddai hynny mor niweidiol i economi Cymru ac i fywydau y
bobl.
Mae
angen i pobl Cymru i sylweddoli yn llawn anferthedd y penderfyniad a’r
goblygiadau ar gyfer ein gwlad fach. Hefyd rhaid i bawb gadw mewn cof y lefel
aruthrol o fewnfuddsoddi sydd wedi dod i Gymru am ddegawdau yn ogystal â niferoedd
o bobl a gyflogir yma gan gwmniau mawr o dramor. Yn y chwe blynedd diwethaf mae
Cymru wedi derbyn bron £2bn o Ewrop ar gyfer 290 o brosiectau. Mae'r
buddsoddiad hwn wedi bod o fantais fawr i bobl, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd.
Mae wedi cefnogi tua 190.800 o bobl i ennill sgiliau a chymwysterau ar gyfer eu
cyflogi a sicrhau bod 62,000 wedi cael gwaith, creu tua 36,000 o swyddi eraill a
chefnogi dros 10,000 o fusnesau Mewn
amaethyddiaeth mae dros 16,000 o fusnesau ffermio ledled Cymru yn elwa o fod yn
rhan o Ewrop.
Ateb
UKIP i hyn i gyd ydy - pobl Cymru
peidiwch poeni byddwn yn sicrhau y bydd Llywodraeth San Steffan yn darparu
arian i lenwi'r bwlch ar ôl gadael yr UE!. Y gwir ydy nad yw’r Llywodraeth
Doraidd hyd yn oed yn ariannu Cymru’n iawn y nawr! Felly fydd llu o gwestiynnau yn codi megis
beth fydd yn debygol o ddigwydd i ddyfodol y cwmnioedd tramor sydd wedi eu
lleoli yng Nghymru oherwydd ein bod tu fewn i Ewrop?
Hefyd bydd angen ystyried o
ddifri pa mor hir y bydd yn cymryd i ddatod y rheoliadau a'r cytuniadau sydd
wedi eu ymglymu i’w gilydd ers drfos deugain mlynedd rhwng rhwng Prydain a
Ewrop. Bydd yn cymryd blynyddoedd a blynyddoedd o ansicrwydd. Mae’r syniad a
fater pleidleisio ’Na’ ac yna popeth yn iawn ar ol hynny mor wirion!
Felly,
mae'n hen bryd ein bod yn torchi llewys ac yn mynd ati i agor llygaid pobl
Cymru am UKIP.