09/10/2015

UKIP mewn waeth cyflwr yng Nghymru nag a dybiais – Ewyn yn unig.

Nid yw Plaid sydd wedi ddiddymu ei chynhadledd genedlaethol oherwydd diffyg cefnogaeth i’w chymryd o ddifri. Mae’r aelodaeth yn ogystal wedi gostwng dros 10% ers yr etholiad cyffredinol mis Mai.

Wythnos diwethaf dadleuais gan fod ond saith mis i fynd i etholiadau'r Cynulliad ei bod yn hen bryd bod i bleidiau gwleidyddol cynhenid Cymru mynd i'r afael gyda llawer mwy o frys a difrifoldeb nag o'r blaen â bygythiad posibl o UKIP.  Hefyd, euthum ymlaen i ddweud y rhaid i etholwyr Cymru ar eu rhan ystyried gyda rhywfaint o ddifrifoldeb a manylder beth yn union mae gan UKIP i'w gynnig i Gymru.

Y pennawd oedd:-

Amser ar gyfer pleidiau gwleidyddol Cymru i 'ddeffro' a phobl Cymru i 'ddoethir' am bwriadau UKIP.

Yn sicr na all pobl Cymru roi iddynt unrhyw hygrededd nawr. Nid yw Plaid sydd wedi gorfod canslo ei chynhadledd genedlaethol yn blaid ddigon difrifol i chwarae rhan yn ein hetholiad cyffredinol. Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni a fu’n ymdrin â gwerthiant tocynnau ar gyfer y gynhadledd – Ticketsource- fod y  gynhadledd wedi'i roi o'r neilltu oherwydd 'Roedd gwerthiant tocynnau yn WAEL’. Ond er mwyn ceisio taflu llwch ar lygaid pawb fydd eu cynhadledd DU (sef Lloegr !!) y flwyddyn nesaf yn cael ei gynnal yn Llandudno. Ymdrech dda i osgoi sefyllfa annifyr iawn.

Nid fy llinell wreiddiol ydy hon ond serch hynny yn werth ei hailadrodd –  'mae IKUP mwyach wedi troi yn ENGIP (saesonbach) '.

Awgrymais hefyd fod angen i etholwyr Cymru i ystyried beth sy'dd gan UKIP i gynnig  i Gymru a beth yw'r manteision posibl o bleidleisio i blaid sydd a’i gwreiddiau yn llwyr yn Lloegr. Nid oes ganddi unrhyw draddodiad, treftadaeth neu gefndir o Gymru o gwbl. Mae'n Saesneg i’r craidd. Yn wir maent yn edrych i fewnforio cyn ASau Torïaidd o Loegr i sefyll etholiad i'r Senedd. 

Yn barod ‘rwyf wedi gweld cyfeiriadau at tua tri ohonynt sydd bellach yn aelodau o UKIP - personau fel Neil Hamilton a Mark Reckless. ‘Roedd yr olaf yn AS dros Rochester a Stroud ac mae ar hyn o bryd yn gyfrifol am lunio maniffesto UKIPCymru. Felly mae’r bwriad yn amlwg i ddefnyddio ein Senedd fel domen ysbwriel ar gyfer gyn Doriaid. O ddifri a’i hyn  byddai pobl Cymru ei eisiau?

Heb gwestiwn mae UKIP yn amlwg yn blaid Saesneg a sefydlwyd yn 1991 fel plaid Ewrosgeptig, poblyddol asgell dde ond wedi gweld cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth Cymru. Nid oes yn y blaid unrhyw ymdeimlad greddfol yn ein gwleidyddiaeth heblaw defnyddio ein cenedl fel cerrig camu i gyflawni ei dau hamcanion obsesiynol sef cael Prydain allan o Ewrop a manteisio ar y cerdyn gwrth-fewnfudo.

Yr wyf wedi dadlau ers sawl blwyddyn bod y ffordd y cynhelir gwleidyddiaeth yn y Cynulliad yn llawer rhy 'glyd' a bod mawr angen 'awyr iach' ar y lle. Hefyd fod eisiau dadlau mwy egnïol. Yn ddiweddar ceir arwyddion o hynny’n raddol ddigwydd.

Yn y post diwethaf soniais hefyd imi fod ar wefan UKIP Cymru i ceisio canfod beth  ddywedodd y blaid mewn perthynas â Chymru adeg etholiad cyffredinol Mai 2015.  Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer a oeddwn yn eithaf cywir. Gwir fod rhai cyfeiriadau at Gymru mewn maniffesto a oedd ar ei glawr 'Credu yng Nghymru' ond ar archwiliad agosach oedd bron yn gyfan gwbl ail-redeg eu maniffesto UK.

Y bore yma, es yn ôl eto ar y wefan eto ac nid oedd dim wedi newid o ran polisïau. Maent yn dal i wahodd awgrymiadau gan y cyhoedd yn gyffredinol i’w helpu i ddatblygu’r polisiau. Nid yw hynny'n syndod ychwaith gan nad oes ganddynt llawer o syniad am Gymru ac yr wyf yn amau lawer o ddiddordeb ychwaith.

Yn wir dywedodd eu harweinydd Farage yn eu cynhadledd yn Doncaster bod yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban a hyd yn oed ar gyfer Maer Llundain yn unig i gael eu defnyddio yng nghyd-destun cynnal y momentwm ar gyfer pleidlais 'Na' yn yr efferendwm ar Ewrop. Dywedodd nad oedd unrhyw fater arall o bwys  iddo.

Ond sylwais un newid amlwg ar y wefan sef tudalen newydd yn hysbysebu eu Cynhadledd Cymru yn Abertawe ar Hydref 23ydd.  Yr oedd braidd yn druenus ei ddarllen. Tudalen lawn gyda gwahoddiad i gofrestru ar gyfer y gynhadledd ond dan y pennawd 'Taith Ymgyrch i ddweud Na' gyda wynebau ddibryder Farage a Nathan Gill. Y cyfan yn brawf pendant fod hyd yn oed eu cynhadledd i ymwneud â Ewrop. Yn gosod Cymru a’r Senedd naill ochr.  


Deallaf yn llwyr pam fod pobl yn yr hen gymunedau diwydiannol, y trefi gwledig a pentrefi Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ogystal â Gogledd Cymru wedi eu siomi gan  Llafur yn y Cynulliad. Mae’r llywodraeth wedi gosod llawer ormod o bwyslais ar Caerdydd a’r llain arfordirol. Fodd bynnag nid yw hynny'n rheswm digonol i bobl Cymru i droi at blaid poblyddol asgell dde Lloegr.