24/12/2015

Dymuniadau gorau ar gyfer yr Wyl gan Gwynoro

Adnewyddwyd Rhagfyr 25 2017

Mae hyn i ddymuno fy nheulu a ffrindiau ynghyd â'r miloedd bellach o adnabyddiaethau a'r cysylltiadau rwyf wedi gwneud drwy'r cyfryngau cymdeithasol dros y ddwy flynedd diwethaf..

Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd iach, hapus a ffrwythlon

Fideo Nadolig 2015 sydd yma ond mae’r neges yn dal yn berthnasol i’r dyddiau hyn.  



Mae'r Nadolig yn uno pobl mewn meddwl ac ysbryd a hefyd yn dwyn ynghyd teuluoedd, ffrindiau a chysylltiadau ymhell ac yn agos;

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn hefyd yn helpu inni werthfawrogi'r hyn sydd gennym yn ein bywydau - y byddwn yn llawer rhy aml yn eu cymryd yn ganiataol;

Mawr hyderaf bydd i gwir ystyr y Nadolig lenwi ein calonnau a’n meddyliau gyda neges ewyllys da; 

Gan gofio pawb  naill gartref neu thramor sy'n sylweddol iawn llai ffodus na ni, ac yn byw mewn ofn, anobaith, newyn gan ddyheu am heddwch a diogelwch mewn byd sydd yn gynyddol gythryblus a terfysglyd bellach. 

Mae’r wybodaeth ar ddiwedd y fideo wedi newid cryn tipyn bellach gyda rhywbeth fel 75k y mis o ymweliadau gan edrych ar y negeseuon, erthyglau a fideos ‘rwyf yn gosod ar y gwahanol gyfryngau cymdeithasol.

gwynorojonescymraeg.blogspot.co.uk


23/12/2015

Atgofion Nadolig pan yn tyfu fyny yn niwedd y 1940au

‘Roedd yn adeg ‘rations’ a ‘coupons’ pan oedd llawer o fwydydd hanfodol a chynhyrchion eraill yn brin iawn ac fe fu hyn mewn bodolaeth hyd at ddechrau y pumdegau cynnar.

Hefyd oedd anrhegion ac addurniadau yn brin iawn hefyd ac yn wir fy anrhegion Nadolig cyntaf oedd rhai pren a wnaeth fy nhad – ‘roedd yn saer coed - pethau megis berfa a ceffyl pren ar olwynion. Ar ol hynny esgidiau rygbi a crys coch megis tim Cymru! Ychydig ar ol hynny daeth Meccano, Beano, Dandy, Radio Fun ac yn y blaen.

Cefais fy nghodi mewn pentref o'r enw Foelgastell yng ngorllewin Cymru. Nid oedd trydan na cyflenwadau dŵr yn y tŷ tan tua 1950. Felly hyd hynny ‘roedd y dŵr yn cael ei gasglu mewn ‘sten’ o ffynnon tua pedwar can llath i ffwrdd.

Fu Capel Peniel yn ganolog i fywyd yr aelwyd trwy cyfnod tyfu i fyny hyd at ymhell dros saith degau. Hefyd hyd at y chwe degau ‘roedd gwasanaeth am 6 o'r gloch bore dydd Nadolig. 

Oes dra whanol iawn!

Un o'r atgofion mwyaf cofiadwy sydd gennyf oedd yr eira mawr yn 1947 a fu yn gyfnod stormydd eira y mwyaf yn yr ugeinfed ganrif - gyda  lluwchfeydd 10 troedfedd a mwy. 

Parhaodd yr eira ar y ddaear am ychydig fisoedd.

Ar y bore oedd yr eira wedi cyrraedd cofiaf fynd i lawr y grisiau gyda fy mam, ac wrth iddi agor y llenni oedd y cyfan yn wyn – oedd yr eira hyd at lefel ffenestri. Nid hawdd fu hi i fynd allan ond fe llwyddod fy nhad a 'm tadcu wneud ta beth. Pan aethom allan i’r brif ffordd roedd gweithwyr cyngor yn gweithio ar lefel y gwrychoedd. Cofiwch oedd dim JCB neu pethau cyffelyb ond rawiau!


Beth bynnag mae’r fideo yn adrodd y stori.

22/12/2015

Atgofio’n Oes hyd at 1999

Gyda Beti George ar Radio Cymru – ‘Beti ai Phobl’

Rhaglen tebyg iawn i ‘Desert Island Discs’ gyda Beti yn holi am fy nghefndir, bywyd  cynnar, fy naliadau a hefyd fy nghyrfa gan gynnwys wrth gwrs yr wyth mlynedd o ymrafael a Gwynfor Evans.

Erbyn y diwedd y ganrif ,roeddwn wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni arolygu ysgolion ers 1994 felly ceir cyfeiriadau at y blynyddoedd cynnar hynny hefyd.
Nid wyf am ddweud gormod - gwell gwrando ar y cyfweliad - ond bydd dylanwad yr aelwyd, teulu, capel a’r ardal yn dod drosodd yn amlwg yn y dewisiadau o ganeuon ac yn y blaen.

Hefyd wrth gwrs pwysigrwydd Cymru fel cenedl, iaith, traddodiau ac yn y blaen.

Nid yw’r fideo gyda fy hen gyfaill Gwilym Owen yn gysylltiedig o gwbl dim ond rhywbeth I edrych arno tra yn gwrando!

Gobeithio y mwynhewch atgofion o dyddiau a fu.  



17/12/2015

Pan fydd UKIP yn dweud am inni beidio â phoeni, y gallwn cerdded ar y dwr, fydd orau inni beidio eu credu


Post  gwadd gan Peter Sain ley Berry

Trysorydd Cyngor Cymru y Mudiad Ewropeaidd, a

Cyn-Ysgrifennydd Cymru Cyngor y CD yn yr 80au a hefyd aelod o Bwyllgor y Gynghrair.



Swyddi go iawn a bywoliaeth yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus. 


Llongyfarchiadau i Carwyn Jones am lansio ymgyrch Cymru i aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac i bwysleisio fod yna 200,000 o swyddi yng Nghymru sy'n gysylltiedig â masnach yr UE ac y byddent mewn perygl pe bai Prydain yn pleidleisio i adael. 

Ar unwaith tarawodd UKIP yn ôl â chyhuddiadau gan godi bwganod. Ond wrth gwrs fydden nhw, ond onid oes ganddynt ddim arall i'w ddweud?

Wrth gwrs mae’n wir y byddai Cymru ddim yn  colli 200,000 o swyddi y diwrnod ar ôl Brexit. Ond oni ellir dadlau dros y deng mlynedd canlynol byddai llawer o'r swyddi hynny yn sicr yn diflannu fel y bydd y cwmniau sydd yma bellach yn rhoi'r gorau i fuddsoddi ac raddol yn gadael  Hefyd fydd yna llai o gwmnïau rhyngwladol yn buddsoddi yng Nghymru os byddwn allan o’r  UE.

Na gyd geir gan UKIP byth a beunydd yw honiad amheus ar ôl honiad amheus. Bydd bownd o fod yn well arnom tu allan i’r UE oherwydd mae UKIP yn honni byddwn. Neidiwch dros y clogwyn, rydym wedi dylunio parasiwt i chi. Wrth gwrs bydd yn gweithio!

Swyddi go iawn a bywoliaeth yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus. 

Beth sydd ei angen yw i’r Llywodraeth ar bob lefel esbonio pam y dewisodd Prydain i ymuno a’r UE yn y lle cyntaf ac yna pam y dewiswyd ei adeiladu ai ehangu i greu corff rhyngwladol nerthol a welwn heddiw. Buodd Prydain dros degawdau yn helpu i adeiladu yr UE, y farchnad sengl fwyaf yn y byd, y bartneriaeth economaidd a diplomyddol mwyaf, gan diweddu canrifoedd o wrthdaro a rhyfeloedd Ewropeaidd creulon.

Mae angen i bawb i sylweddoli a chydnabod hyn cyn ei bydd yn rhy hwyr. Rydym i gyd, fel y mae yn sefyll ar hyn o bryd, mewn perygl fel dywedodd Shakespeare o:

'throwing away the dearest thing (they) owned as though it were a careless trifle.'

Os ydych i fyny’r nant yna mae'n helpu os oes gennych padl, nid taflu’r peth i ffwrdd!.  A pan mae UKIP yn dweud wrthym i beidio â phoeni, gallwn gerdded ar y dwr, peth gorau fydd peidio eu credu.

16/12/2015

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei anwybyddu yn amlach na pheidio y dyddiau hyn gan y cyfryngau a'r Senedd ac hefyd ystyrir gan rai i fod yn 'ddibwys'

Er bod yr arolygon barn yn y DU a Chymru yn taflu cysgod dros y blaid mae aelodau'r blaid mewn hwyliau bywiog, yn benderfynol o ymladd yn ol ac ail-adeiladu.

Tua mis yn ol fe wneuthum y cyntaf o bedwar o gyfraniadau yng nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe. Hwn oedd y gynhadledd wleidyddol gyntaf i mi siarad ynddi ers 1992 ac yr oeddwn braidd yn ansicir ac yn wir ychydig yn 'rhydlyd' yn fy areithio. Roedd hyn i gyd yn anochel mae'n debyg ar ôl bron 25 mlynedd tu allan i’r berw!

Ers 1992 ‘roedd pethau wedi newid tu hwnt i fy adnabyddiaeth o’r gorffenol ac roedd y cyfryngau yn absennol,  ond serch hynny roedd y presenoldeb yn dda a beth oedd yn fy nghalonogi'n oedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn bresennol.

Y ddadl gyntaf imi gymryd rhan ynddi oedd datblygu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Y cynnig gerbron y gynhadledd oedd ymadrodd Kirsty Williams ers talwm, ' Mapio’r Daith ar Gyfer 2016’. Y pwrpas oedd darparu cyfeiriad clir i’r blaid ar gyfer yr etholiad. Yn sicr roedd yn cwrdd a’r amcan hwnnw.

Yr oeddwn yn awyddus i nodi bod i gyrraedd unrhyw gyrchfan rhaid inni ddilyn yr arwyddbyst sydd yn rhoi cyfeiriad. Mewn geiriau eraill ni yw maniffesto yn ennill etholiad ond yn hytrach negeseuon clir a chryno ar ychydig themâu sydd yn gadael argraff barhaol yn feddwl yr etholwyr.  

I mi mae yr arwyddbyst yn glir –

Cael Cymru mwy agored a democrataidd gan gynnwys Cynulliad fwy cynhwysol ac ystyriol – sydd yn herio yn fwy agored, dal pobl i gyfrif ac yn un sydd yn llywodraethu ar gyfer Cymru gyfan;

Codi effeithiolrwydd, lefelau darpariaeth, effeithlonrwydd a safonau o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol;

Sicrhau bod hfyniant, buddsoddi, datblygiad economaidd ac adfywio, annog menter yn cael eu rannu ledled Cymru;

Diogelu ein hamgylchedd naturiol, cefnogi amaethyddiaeth, yr economi wledig a thwristiaeth;
  
Cryfhau lle Cymru yn gwleidyddiaeth y DU ac Ewrop a

Ddiogelu ein treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth.

Credaf fod ‘Mapio’d Daith‘ yn cwmpasu’r chwech arwyddbyst yn dda iawn.

Isod ceir fideo sydd bennaf yn y Saesneg o fy nghyfraniad byr (fodd bynnag nid yw ansawdd y sain yn cyrraedd y safon arferol).


Credaf ei bod yn gwbl bosibl i’r Democratiaid Rhyddfrydol cael canlyniad gwell na’r disgwyl ar y foment yma Mai nesaf. Fe all ddigwydd gyda negeseuon strategol clir, ymgyrchu effeithiol a strategaeth gyfathrebu sydd wedi'i gynllunio'n dda yn y ddwy iaith.







 Mapio’r Daith ar Gyfer 2016: Cynnig ar gyfer y Maniffesto
Y Pwyllgor Polisi Cenedlaethol

Mae’r Gynhadledd yn nodi:

1. Cynhelir etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai, 2016.

2. Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd â’r gwreiddiau dyfnaf o holl bleidiau
gwleidyddol Cymru, a hwythau wedi bod ar flaen y gad â diwygio blaengar a radical ers dros 150 o flynyddoedd.

3. Y prif orchwylion yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru fydd:

a. Datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac wedi’u canoli ar y bobl pan fo
gwasgu ar gyllidebau,
b. Tyfu’n heconomi er budd pawb, a
c. Rhoi’r cyfle i bawb mewn cymdeithas i lwyddo mewn bywyd, iddyn’ nhw’u hunain
ac i’w teuluoedd.

Mae’r Gynhadledd yn credu:

1. Y gall Cymru ond cyflawni’i photensial drwy fanteisio hyd yr eithaf ar gryfderau Cymru, megis ein diwylliant, ein hadnoddau, ac yn anad dim, ein pobl, a thrwy lywodraethu da gan lywodraeth sy’n gwerthfawrogi tryloywder a chraffu.

2. Ar adeg o ragor o dynhau ar gyllidebau, mae ar Gymru angen meddylfryd arloesol i wella gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion cleifion, disgyblion a rhieni ac i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol.

3. Bod ar bobl ym mhobman yng Nghymru angen cael dweud eu dweud fwy ynglŷn â sut y cânt eu llywodraethu, yn neilltuol yn eu hardaloedd lleol eu hunain.

Mae’r Gynhadledd yn penderfynu cyflwyno polisïau i etholwyr Cymru sy’n cynrychioli’n gwerthoedd rhyddfrydol a’n gweledigaeth i adfywio Cymru, ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi I ddatblygu maniffesto radical ac arloesol i:

1. Gryfhau’n heconomi ac i annog entrepreneuriaeth a thwf, yn cynnwys:

a. Cyflenwi strategaeth economaidd gytbwys, integredig, â phwyslais ar allforio;
b. Datganoli mwy o rymoedd i ardaloedd lleol;
c. Ysgogi’r stryd fawr;
ch. Ehangu prentisiaethau; a
d. Chwtogi’n sylweddol ar fân-reolau beichus i roi’r cyfle i fusnesau ffynnu.

2. Sicrhau bod y GIG yn canoli gofal ar urddas, cydymdeimlad, a dewis i unigolion mewn amgylchedd glân, diogel ac a reolir yn dda drwy;

a. Sicrhau lefelau diogel o nyrsys ar wardiau Cymru;
b. Gwarantu’r driniaeth orau i gleifion, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, yn cynnwys
gwella modd o gael at eich Meddyg Teulu;
c. Rhoi diwedd ar gamwahaniaethu ym maes iechyd meddwl a gwella cefnogaeth i
bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

3. Datblygu cyfundrefn addysg sy’n helpu plant i ffynnu ac sy’n grymuso disgyblion a
rhieni drwy:

a. Helpu plant a chefnogi rhieni â darpariaeth gofal plant effeithiol;
b. Hyrwyddo blynyddoedd cynnar gan ddarparu dosbarthiadau llai o faint;
c. Darparu hyblygrwydd a rhyddid i athrawon arwain;
ch. Cynyddu cyllid drwy Bremiwm Disgybl Cymru;
d. Sicrhau modd teg o gael addysg bellach ac addysg uwch.


4. Cefnogi cymunedau gwledig, yn neilltuol drwy sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant
amaethyddol.

5. Sicrhau bod pawb yn gallu cael cyfle am dŷ o ansawdd da am bris fforddiadwy.

6. Diogelu’n hamgylchedd naturiol a chynyddu’n hadnoddau ynni adnewyddadwy.

7. Sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn effeithlon ac yn hygyrch, yn
enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad.

8. Diwygio’r ffordd rydym yn ymwneud â gwleidyddiaeth, gan roi pwyslais ar ddatganoli grym hyd at y lefel ymarferol isaf, grymuso cymunedau, a sicrhau atebolrwydd ar bob lefel.

9. Sicrhau bod gan bawb yr hawl i siarad Cymraeg yn eu bywyd dyddiol a bod ganddynt yr hawl i addysg a gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg sydd o ansawdd raenus.

10. Lledaenu gweledigaeth unol o genedl hunan-hyderus, sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.