16/12/2015

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei anwybyddu yn amlach na pheidio y dyddiau hyn gan y cyfryngau a'r Senedd ac hefyd ystyrir gan rai i fod yn 'ddibwys'

Er bod yr arolygon barn yn y DU a Chymru yn taflu cysgod dros y blaid mae aelodau'r blaid mewn hwyliau bywiog, yn benderfynol o ymladd yn ol ac ail-adeiladu.

Tua mis yn ol fe wneuthum y cyntaf o bedwar o gyfraniadau yng nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe. Hwn oedd y gynhadledd wleidyddol gyntaf i mi siarad ynddi ers 1992 ac yr oeddwn braidd yn ansicir ac yn wir ychydig yn 'rhydlyd' yn fy areithio. Roedd hyn i gyd yn anochel mae'n debyg ar ôl bron 25 mlynedd tu allan i’r berw!

Ers 1992 ‘roedd pethau wedi newid tu hwnt i fy adnabyddiaeth o’r gorffenol ac roedd y cyfryngau yn absennol,  ond serch hynny roedd y presenoldeb yn dda a beth oedd yn fy nghalonogi'n oedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn bresennol.

Y ddadl gyntaf imi gymryd rhan ynddi oedd datblygu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Y cynnig gerbron y gynhadledd oedd ymadrodd Kirsty Williams ers talwm, ' Mapio’r Daith ar Gyfer 2016’. Y pwrpas oedd darparu cyfeiriad clir i’r blaid ar gyfer yr etholiad. Yn sicr roedd yn cwrdd a’r amcan hwnnw.

Yr oeddwn yn awyddus i nodi bod i gyrraedd unrhyw gyrchfan rhaid inni ddilyn yr arwyddbyst sydd yn rhoi cyfeiriad. Mewn geiriau eraill ni yw maniffesto yn ennill etholiad ond yn hytrach negeseuon clir a chryno ar ychydig themâu sydd yn gadael argraff barhaol yn feddwl yr etholwyr.  

I mi mae yr arwyddbyst yn glir –

Cael Cymru mwy agored a democrataidd gan gynnwys Cynulliad fwy cynhwysol ac ystyriol – sydd yn herio yn fwy agored, dal pobl i gyfrif ac yn un sydd yn llywodraethu ar gyfer Cymru gyfan;

Codi effeithiolrwydd, lefelau darpariaeth, effeithlonrwydd a safonau o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol;

Sicrhau bod hfyniant, buddsoddi, datblygiad economaidd ac adfywio, annog menter yn cael eu rannu ledled Cymru;

Diogelu ein hamgylchedd naturiol, cefnogi amaethyddiaeth, yr economi wledig a thwristiaeth;
  
Cryfhau lle Cymru yn gwleidyddiaeth y DU ac Ewrop a

Ddiogelu ein treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth.

Credaf fod ‘Mapio’d Daith‘ yn cwmpasu’r chwech arwyddbyst yn dda iawn.

Isod ceir fideo sydd bennaf yn y Saesneg o fy nghyfraniad byr (fodd bynnag nid yw ansawdd y sain yn cyrraedd y safon arferol).


Credaf ei bod yn gwbl bosibl i’r Democratiaid Rhyddfrydol cael canlyniad gwell na’r disgwyl ar y foment yma Mai nesaf. Fe all ddigwydd gyda negeseuon strategol clir, ymgyrchu effeithiol a strategaeth gyfathrebu sydd wedi'i gynllunio'n dda yn y ddwy iaith.







 Mapio’r Daith ar Gyfer 2016: Cynnig ar gyfer y Maniffesto
Y Pwyllgor Polisi Cenedlaethol

Mae’r Gynhadledd yn nodi:

1. Cynhelir etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai, 2016.

2. Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd â’r gwreiddiau dyfnaf o holl bleidiau
gwleidyddol Cymru, a hwythau wedi bod ar flaen y gad â diwygio blaengar a radical ers dros 150 o flynyddoedd.

3. Y prif orchwylion yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru fydd:

a. Datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac wedi’u canoli ar y bobl pan fo
gwasgu ar gyllidebau,
b. Tyfu’n heconomi er budd pawb, a
c. Rhoi’r cyfle i bawb mewn cymdeithas i lwyddo mewn bywyd, iddyn’ nhw’u hunain
ac i’w teuluoedd.

Mae’r Gynhadledd yn credu:

1. Y gall Cymru ond cyflawni’i photensial drwy fanteisio hyd yr eithaf ar gryfderau Cymru, megis ein diwylliant, ein hadnoddau, ac yn anad dim, ein pobl, a thrwy lywodraethu da gan lywodraeth sy’n gwerthfawrogi tryloywder a chraffu.

2. Ar adeg o ragor o dynhau ar gyllidebau, mae ar Gymru angen meddylfryd arloesol i wella gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion cleifion, disgyblion a rhieni ac i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol.

3. Bod ar bobl ym mhobman yng Nghymru angen cael dweud eu dweud fwy ynglŷn â sut y cânt eu llywodraethu, yn neilltuol yn eu hardaloedd lleol eu hunain.

Mae’r Gynhadledd yn penderfynu cyflwyno polisïau i etholwyr Cymru sy’n cynrychioli’n gwerthoedd rhyddfrydol a’n gweledigaeth i adfywio Cymru, ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi I ddatblygu maniffesto radical ac arloesol i:

1. Gryfhau’n heconomi ac i annog entrepreneuriaeth a thwf, yn cynnwys:

a. Cyflenwi strategaeth economaidd gytbwys, integredig, â phwyslais ar allforio;
b. Datganoli mwy o rymoedd i ardaloedd lleol;
c. Ysgogi’r stryd fawr;
ch. Ehangu prentisiaethau; a
d. Chwtogi’n sylweddol ar fân-reolau beichus i roi’r cyfle i fusnesau ffynnu.

2. Sicrhau bod y GIG yn canoli gofal ar urddas, cydymdeimlad, a dewis i unigolion mewn amgylchedd glân, diogel ac a reolir yn dda drwy;

a. Sicrhau lefelau diogel o nyrsys ar wardiau Cymru;
b. Gwarantu’r driniaeth orau i gleifion, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, yn cynnwys
gwella modd o gael at eich Meddyg Teulu;
c. Rhoi diwedd ar gamwahaniaethu ym maes iechyd meddwl a gwella cefnogaeth i
bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

3. Datblygu cyfundrefn addysg sy’n helpu plant i ffynnu ac sy’n grymuso disgyblion a
rhieni drwy:

a. Helpu plant a chefnogi rhieni â darpariaeth gofal plant effeithiol;
b. Hyrwyddo blynyddoedd cynnar gan ddarparu dosbarthiadau llai o faint;
c. Darparu hyblygrwydd a rhyddid i athrawon arwain;
ch. Cynyddu cyllid drwy Bremiwm Disgybl Cymru;
d. Sicrhau modd teg o gael addysg bellach ac addysg uwch.


4. Cefnogi cymunedau gwledig, yn neilltuol drwy sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant
amaethyddol.

5. Sicrhau bod pawb yn gallu cael cyfle am dŷ o ansawdd da am bris fforddiadwy.

6. Diogelu’n hamgylchedd naturiol a chynyddu’n hadnoddau ynni adnewyddadwy.

7. Sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn effeithlon ac yn hygyrch, yn
enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad.

8. Diwygio’r ffordd rydym yn ymwneud â gwleidyddiaeth, gan roi pwyslais ar ddatganoli grym hyd at y lefel ymarferol isaf, grymuso cymunedau, a sicrhau atebolrwydd ar bob lefel.

9. Sicrhau bod gan bawb yr hawl i siarad Cymraeg yn eu bywyd dyddiol a bod ganddynt yr hawl i addysg a gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg sydd o ansawdd raenus.

10. Lledaenu gweledigaeth unol o genedl hunan-hyderus, sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.