Mae hyn i ddymuno fy nheulu a
ffrindiau ynghyd â'r miloedd bellach o adnabyddiaethau a'r cysylltiadau rwyf
wedi gwneud drwy'r cyfryngau cymdeithasol dros y ddwy flynedd diwethaf..
Nadolig
llawen a Blwyddyn Newydd iach, hapus a ffrwythlon
Fideo Nadolig 2015 sydd yma ond mae’r neges yn
dal yn berthnasol i’r dyddiau hyn.
Mae'r
Nadolig yn uno pobl mewn meddwl ac ysbryd a hefyd yn dwyn ynghyd teuluoedd,
ffrindiau a chysylltiadau ymhell ac yn agos;
Mae'r adeg
hon o'r flwyddyn hefyd yn helpu inni werthfawrogi'r hyn sydd gennym yn ein
bywydau - y byddwn yn llawer rhy aml yn eu cymryd yn ganiataol;
Mawr hyderaf bydd i gwir ystyr y Nadolig lenwi ein calonnau a’n meddyliau gyda neges ewyllys da;
Gan gofio pawb naill gartref neu thramor sy'n sylweddol iawn llai ffodus na ni, ac yn byw mewn ofn, anobaith, newyn gan ddyheu am heddwch a diogelwch mewn byd sydd yn gynyddol gythryblus a terfysglyd bellach. Mae’r wybodaeth ar ddiwedd y fideo wedi newid cryn tipyn bellach gyda rhywbeth fel 75k y mis o ymweliadau gan edrych ar y negeseuon, erthyglau a fideos ‘rwyf yn gosod ar y gwahanol gyfryngau cymdeithasol. gwynorojonescymraeg.blogspot.co.uk
‘Roedd yn adeg ‘rations’ a ‘coupons’ pan oedd llawer o fwydydd hanfodol
a chynhyrchion eraill yn brin iawn ac fe fu hyn mewn bodolaeth hyd at ddechrau
y pumdegau cynnar.
Hefyd oedd anrhegion ac addurniadau yn brin iawn hefyd ac yn wir fy
anrhegion Nadolig cyntaf oedd rhai pren a wnaeth fy nhad – ‘roedd yn saer coed
- pethau megis berfa a ceffyl pren ar olwynion. Ar ol hynny esgidiau rygbi a
crys coch megis tim Cymru! Ychydig ar ol hynny daeth Meccano, Beano, Dandy,
Radio Fun ac yn y blaen.
Cefais fy nghodi mewn pentref o'r enw Foelgastell yng ngorllewin Cymru.
Nid oedd trydan na cyflenwadau dŵr yn y tŷ tan tua 1950. Felly hyd hynny ‘roedd
y dŵr yn cael ei gasglu mewn ‘sten’ o ffynnon tua pedwar can llath i ffwrdd.
Fu Capel Peniel yn ganolog i fywyd yr aelwyd trwy cyfnod tyfu i fyny hyd at ymhell dros saith degau. Hefyd hyd at y chwe degau ‘roedd gwasanaeth am 6 o'r gloch bore dydd Nadolig. Oes dra whanol iawn!
Un o'r atgofion mwyaf cofiadwy sydd gennyf oedd yr eira mawr yn 1947 a fu
yn gyfnod stormydd eira y mwyaf yn yr ugeinfed ganrif - gyda lluwchfeydd 10 troedfedd a mwy.
Parhaodd yr
eira ar y ddaear am ychydig fisoedd.
Ar y bore oedd yr eira wedi cyrraedd cofiaf fynd i lawr y grisiau gyda
fy mam, ac wrth iddi agor y llenni oedd y cyfan yn wyn – oedd yr eira hyd at
lefel ffenestri. Nid hawdd fu hi i fynd allan ond fe llwyddod fy nhad a 'm tadcu
wneud ta beth. Pan aethom allan i’r brif ffordd roedd gweithwyr cyngor yn
gweithio ar lefel y gwrychoedd. Cofiwch oedd dim JCB neu pethau cyffelyb ond
rawiau!
Rhaglen tebyg iawn i ‘Desert
Island Discs’ gyda Beti yn holi am fy nghefndir, bywyd cynnar, fy naliadau a hefyd fy nghyrfa gan
gynnwys wrth gwrs yr wyth mlynedd o ymrafael a Gwynfor Evans.
Erbyn y diwedd y ganrif ,roeddwn
wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni arolygu ysgolion ers 1994 felly ceir cyfeiriadau
at y blynyddoedd cynnar hynny hefyd.
Nid wyf am ddweud gormod -
gwell gwrando ar y cyfweliad - ond bydd dylanwad yr aelwyd, teulu, capel a’r
ardal yn dod drosodd yn amlwg yn y dewisiadau o ganeuon ac yn y blaen.
Hefyd wrth gwrs pwysigrwydd Cymru fel cenedl, iaith, traddodiau ac yn y blaen.
Nid yw’r fideo gyda fy hen
gyfaill Gwilym Owen yn gysylltiedig o gwbl dim ond rhywbeth I edrych arno tra yn
gwrando!
Cyn-Ysgrifennydd Cymru Cyngor y CD yn yr 80au a hefyd aelod
o Bwyllgor y Gynghrair.
Swyddi go iawn a bywoliaeth
yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus.
Llongyfarchiadau i Carwyn Jones am lansio ymgyrch Cymru i aros yn yr Undeb
Ewropeaidd (UE) ac i bwysleisio fod yna 200,000 o swyddi yng Nghymru sy'n
gysylltiedig â masnach yr UE ac y byddent mewn perygl pe bai Prydain yn
pleidleisio i adael.
Ar unwaith tarawodd UKIP
yn ôl â chyhuddiadau gan godi bwganod. Ond wrth gwrs fydden nhw, ond onid oes
ganddynt ddim arall i'w ddweud?
Wrth gwrs mae’n wir
y byddai Cymru ddim yn colli 200,000 o
swyddi y diwrnod ar ôl Brexit. Ond oni ellir dadlau dros y deng mlynedd
canlynol byddai llawer o'r swyddi hynny yn sicr yn diflannu fel y bydd y cwmniau
sydd yma bellach yn rhoi'r gorau i fuddsoddi ac raddol yn gadael Hefyd fydd yna llai o gwmnïau rhyngwladol yn
buddsoddi yng Nghymru os byddwn allan o’r UE.
Na gyd geir gan UKIP
byth a beunydd yw honiad amheus ar ôl honiad amheus. Bydd bownd o fod yn well
arnom tu allan i’r UE oherwydd mae UKIP yn honni byddwn. Neidiwch dros y
clogwyn, rydym wedi dylunio parasiwt i chi. Wrth gwrs bydd yn gweithio!
Swyddi
go iawn a bywoliaeth yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus.
Beth sydd ei angen
yw i’r Llywodraeth ar bob lefel esbonio pam y dewisodd Prydain i ymuno a’r UE
yn y lle cyntaf ac yna pam y dewiswyd ei adeiladu ai ehangu i greu corff
rhyngwladol nerthol a welwn heddiw. Buodd Prydain dros degawdau yn helpu i adeiladu
yr UE, y farchnad sengl fwyaf yn y byd, y bartneriaeth economaidd a diplomyddol
mwyaf, gan diweddu canrifoedd o wrthdaro a rhyfeloedd Ewropeaidd creulon.
Mae
angen i bawb i sylweddoli a chydnabod hyn cyn ei bydd yn rhy hwyr. Rydym i
gyd, fel y mae yn sefyll ar hyn o bryd, mewn perygl fel dywedodd Shakespeare
o:
'throwing away the dearest thing (they) owned as though it
were a careless trifle.'
Os ydych i fyny’r nant
yna mae'n helpu os oes gennych padl, nid taflu’r peth i ffwrdd!. A pan mae UKIP yn dweud wrthym i beidio â
phoeni, gallwn gerdded ar y dwr, peth gorau fydd peidio eu credu.
Er bod yr arolygon barn yn y DU a Chymru yn taflu cysgod dros y blaid mae
aelodau'r blaid mewn hwyliau bywiog, yn benderfynol o ymladd yn ol ac ail-adeiladu.
Tua mis yn ol fe wneuthum y cyntaf o bedwar o gyfraniadau yng
nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe. Hwn oedd y gynhadledd wleidyddol
gyntaf i mi siarad ynddi ers 1992 ac yr oeddwn braidd yn ansicir ac yn wir ychydig
yn 'rhydlyd' yn fy areithio. Roedd hyn i gyd yn anochel mae'n debyg ar ôl bron
25 mlynedd tu allan i’r berw!
Ers 1992 ‘roedd pethau wedi newid tu hwnt i fy adnabyddiaeth o’r
gorffenol ac roedd y cyfryngau yn absennol,
ond serch hynny roedd y presenoldeb yn dda a beth oedd yn fy
nghalonogi'n oedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn bresennol.
Y ddadl gyntaf imi gymryd rhan ynddi oedd datblygu maniffesto ar gyfer
etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Y cynnig gerbron y gynhadledd oedd ymadrodd
Kirsty Williams ers talwm, ' Mapio’r Daith ar Gyfer 2016’. Y pwrpas oedd darparu
cyfeiriad clir i’r blaid ar gyfer yr etholiad. Yn sicr roedd yn cwrdd a’r amcan
hwnnw.
Yr oeddwn yn awyddus i nodi bod i gyrraedd unrhyw gyrchfan rhaid inni
ddilyn yr arwyddbyst sydd yn rhoi cyfeiriad. Mewn geiriau eraill ni yw
maniffesto yn ennill etholiad ond yn hytrach negeseuon clir a chryno ar ychydig
themâu sydd yn gadael argraff barhaol yn feddwl yr etholwyr.
I mi mae yr arwyddbyst yn glir –
Cael Cymru mwy agored a democrataidd gan gynnwys Cynulliad fwy cynhwysol
ac ystyriol – sydd yn herio yn fwy agored, dal pobl i gyfrif ac yn un sydd yn
llywodraethu ar gyfer Cymru gyfan;
Codi effeithiolrwydd, lefelau darpariaeth, effeithlonrwydd a safonau o
fewn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol;
Sicrhau bod hfyniant, buddsoddi, datblygiad economaidd ac adfywio, annog
menter yn cael eu rannu ledled Cymru;
Diogelu ein hamgylchedd naturiol, cefnogi amaethyddiaeth, yr economi
wledig a thwristiaeth;
Cryfhau lle Cymru yn gwleidyddiaeth y DU ac Ewrop a
Ddiogelu ein treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth.
Credaf fod ‘Mapio’d Daith‘ yn cwmpasu’r chwech arwyddbyst yn dda iawn.
Isod ceir fideo sydd bennaf yn y Saesneg o fy nghyfraniad byr (fodd
bynnag nid yw ansawdd y sain yn cyrraedd y safon arferol).
Credaf ei
bod yn gwbl bosibl i’r Democratiaid Rhyddfrydol cael canlyniad gwell na’r
disgwyl ar y foment yma Mai nesaf. Fe all ddigwydd gyda negeseuon strategol clir, ymgyrchu effeithiol a
strategaeth gyfathrebu sydd wedi'i gynllunio'n dda yn y ddwy iaith.
Mapio’r Daith ar Gyfer 2016: Cynnig
ar gyfer y Maniffesto
Y Pwyllgor Polisi Cenedlaethol
Mae’r Gynhadledd yn nodi:
1. Cynhelir etholiadau ar gyfer
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai, 2016.
2. Democratiaid Rhyddfrydol
Cymru sydd â’r gwreiddiau dyfnaf o holl bleidiau
gwleidyddol Cymru, a hwythau
wedi bod ar flaen y gad â diwygio blaengar a radical ers dros 150 o
flynyddoedd.
3. Y prif orchwylion yn wynebu
Llywodraeth nesaf Cymru fydd:
a. Datblygu gwasanaethau
cyhoeddus effeithiol ac wedi’u canoli ar y bobl pan fo
gwasgu ar gyllidebau,
b. Tyfu’n heconomi er budd pawb,
a
c. Rhoi’r cyfle i bawb mewn
cymdeithas i lwyddo mewn bywyd, iddyn’ nhw’u hunain
ac i’w teuluoedd.
Mae’r Gynhadledd yn credu:
1. Y gall Cymru ond cyflawni’i
photensial drwy fanteisio hyd yr eithaf ar gryfderau Cymru, megis ein
diwylliant, ein hadnoddau, ac yn anad dim, ein pobl, a thrwy lywodraethu da gan
lywodraeth sy’n gwerthfawrogi tryloywder a chraffu.
2. Ar adeg o ragor o dynhau ar
gyllidebau, mae ar Gymru angen meddylfryd arloesol i wella gwasanaethau
cyhoeddus i ddiwallu anghenion cleifion, disgyblion a rhieni ac i gyflawni
cyfiawnder cymdeithasol.
3. Bod ar bobl ym mhobman yng
Nghymru angen cael dweud eu dweud fwy ynglŷn â sut y cânt eu llywodraethu, yn neilltuol yn eu
hardaloedd lleol eu hunain.
Mae’r Gynhadledd yn penderfynu cyflwyno polisïau i etholwyr
Cymru sy’n cynrychioli’n gwerthoedd rhyddfrydol a’n gweledigaeth i adfywio
Cymru, ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi I ddatblygu maniffesto radical ac
arloesol i:
1. Gryfhau’n heconomi ac i annog
entrepreneuriaeth a thwf, yn cynnwys:
a. Cyflenwi strategaeth
economaidd gytbwys, integredig, â phwyslais ar allforio;
b. Datganoli mwy o rymoedd i
ardaloedd lleol;
c. Ysgogi’r stryd fawr;
ch. Ehangu prentisiaethau; a
d. Chwtogi’n sylweddol ar
fân-reolau beichus i roi’r cyfle i fusnesau ffynnu.
2. Sicrhau bod y GIG yn canoli
gofal ar urddas, cydymdeimlad, a dewis i unigolion mewn amgylchedd glân, diogel
ac a reolir yn dda drwy;
a. Sicrhau lefelau diogel o
nyrsys ar wardiau Cymru;
b. Gwarantu’r driniaeth orau i
gleifion, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, yn cynnwys
gwella modd o gael at eich
Meddyg Teulu;
c. Rhoi diwedd ar gamwahaniaethu
ym maes iechyd meddwl a gwella cefnogaeth i
bobl ag anghenion dysgu
ychwanegol.
3. Datblygu cyfundrefn addysg
sy’n helpu plant i ffynnu ac sy’n grymuso disgyblion a
rhieni drwy:
a. Helpu plant a chefnogi rhieni
â darpariaeth gofal plant effeithiol;
b. Hyrwyddo blynyddoedd cynnar
gan ddarparu dosbarthiadau llai o faint;
c. Darparu hyblygrwydd a rhyddid
i athrawon arwain;
ch. Cynyddu cyllid drwy Bremiwm
Disgybl Cymru;
d. Sicrhau modd teg o gael
addysg bellach ac addysg uwch.
4. Cefnogi cymunedau gwledig, yn
neilltuol drwy sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant
amaethyddol.
5. Sicrhau bod pawb yn gallu
cael cyfle am dŷ
o ansawdd da am bris
fforddiadwy.
6. Diogelu’n hamgylchedd
naturiol a chynyddu’n hadnoddau ynni adnewyddadwy.
7. Sicrhau bod trafnidiaeth
gyhoeddus ledled Cymru yn effeithlon ac yn hygyrch, yn
enwedig mewn ardaloedd cefn
gwlad.
8. Diwygio’r ffordd rydym yn
ymwneud â gwleidyddiaeth, gan roi pwyslais ar ddatganoli grym hyd at y lefel
ymarferol isaf, grymuso cymunedau, a sicrhau atebolrwydd ar bob lefel.
9. Sicrhau bod gan bawb yr hawl
i siarad Cymraeg yn eu bywyd dyddiol a bod ganddynt yr hawl i addysg a
gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg sydd o ansawdd raenus.
10. Lledaenu gweledigaeth unol o
genedl hunan-hyderus, sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn y Deyrnas Unedig ac
yn Ewrop.
Neges a bostiwyd ar safle Facebook 'Ie dros Ewrop' :-
' Rydym wedi bod yn glir bob
amser yn ein hawydd i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Er fod pobl ddim bob amser yn
sylweddoli hynny, mae'r UE yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau bob dydd pobl
Cymru - mae'n adeiladu ffyniant ein cenedl, yn gwneud penderfyniadau am ein
dyfodol economaidd ac yn pasio cyfreithiau sy'n effeithio arnom i gyd.
Dylai pwysigrwydd y farchnad
sengl byth cael ei gymryd yn ganiataol. Mae'n ardal masnach rydd mwyaf y byd yn
nhermau CMC a partner masnachu mwyaf y DU a Cymru.
Mae busnesau yn yr UE yn
mwynhau farchnad "cartref" ychydig dros 500 miliwn o bobl gyda’r
gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb tariffau neu gyfyngiadau eraill a gyda
safonau diogelwch cyffredin.
Mae'r farchnad sengl yn farchnad
fwyaf ar gyfer allforion Cymru – yn 2014 yn unig ‘roedd gwerth allforio nwyddau o Gymru i wladwriaethau
eraill yr UE bron £5.8bn. Mae’r ymchwil diweddara yn dangos fod 200,000 o
swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i'r farchnad sengl.
Y brif ffactor o ran
mewnfuddsoddi yn ein gwlad yw’r farchnad sengl. Bellach erbyn 2015, gwelir dros
500 o fusnesau o wledydd eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru, sydd yn
cyflogi dros 55,000 o bobl.
Drwy rhaglenni Ewropeaidd
eraill, megis y Gronfa Strwythurol a’r PAC, cynnigir cyfleoedd i gefnogi a
datblygu economi Cymru, yn enwedig yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae Cymru wedi elwa o biliynau
o bunnoedd o gronfeydd yr UE dros y blynyddoedd. Yn y flwyddyn hon yn unig, yr
ydym wedi buddsoddi £425 miliwn o Gronfa Strwythurol yr UE i gefnogi ein
economi a'r farchnad lafur.
Hefyd, ceir mae manteision
sylweddol o gronfeydd yr UE trwy'r Polisi Amaethyddol sy'n darparu tua £200
miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i fwy nag 16,000 o fusnesau ffermio
yng Nghymru.
Felly mae y
manteision o fod yn rhan o'r UE yn niferus a gwych. Yn fy marn i byddai gadael
yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar'.
Petai UKIP ac eraill yn y
blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna
heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol ffermio, busnesau, gwasanaethau,
a economi cymunedau gwledig Cymru.
I bwysleisio’r ffaith, ar hyn
o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros
ar cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y Deyrnas Unedig (DU)
tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai yn wir y byddai dyfodol llymach yn gwynebu ffermio. Amcangyfrifir mae dim ond tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o
gymorth.
Hefyd ar hyn o bryd, derbynnir
gan y DU tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer busnesau ffermio a cefn
gwlad. Y dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud pe byddai Llywodraeth Prydain yn
gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i
amaethyddiaeth. Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn
gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen
bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd,
diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm.
Heb os mae y gwahanol bolisïau
i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb
Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig,
cymunedau, treftadaeth a thirwedd.
Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig
cyfraniad amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant
amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig
eraill.
Bydd gadael yr Undeb
Ewropeaidd yn drychineb i gefn gwlad.
Mae amaethyddiaeth
a Chefn Gwlad yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a ffordd o fyw y
genedl.
Er dim ond tua 5%
o boblogaeth y Deyrnas Unedig (DU) ydy Cymru mae 9% o dir amaethyddol, 29% o'r
defaid, 12% o'r gwartheg sydd yn y DU i’w cael yng Nghymru gyda 60,000 o’n pobl
yn ffermio. .
Felly ar draws
rhannau helaeth o Gymru mae ffermwyr au busnesau yn hanfodol o fewn ein
cymunedau ac yn chwarae rôl bwysig i sicrhau
economi cryf a bywiog. Hefyd maent yn gwneud cyfraniad enfawr i warchod y tirwedd
a'r amgylchedd fel y gall cynifer ohonom fwynhau byw, gweithio neu ymweld â
chefn gwlad.
Yn ddiweddar bum yn
cyfrannu at y ddadl ar amaethyddiaeth a chefn gwlad yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe ac fe dynnais sylw at rhai o'r heriau
presennol sy'n wynebu ffermio. ‘Roedd yr arbenigedd a ddangoswyd gan gyfranwyr
i'r ddadl yn drawiadol sy'n dangos pa mor bwysig yw amaethyddiaeth a'r economi
wledig i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafwyd gyfraniad nodedig gan y cyn AS ar
gyfer Brycheiniog a Maesyfed Roger Williams ac ‘roedd yn amlwg fod eu wybodaeth
am y diwydiant yn sylweddol.
Yn anffodus nid yw'r swn gystal a ddylasai fod ar y fideo ond y pwyntiau wnes yn
y ddadl oedd:
Y sialens i
ffermio wrth yn ymdopi â cyfnewidioldeb y farchnad ac oherwydd y maent yn
bodoli mewn marchnad fyd-eang mae’r anwadalrwydd yn rhwym o ddigwydd. Dros yr
haf ‘roedd y gostyngiad mewn prisiau cig oen a llaeth wedi achosi ffermwyr i
wynebu'r amser heriol gan iddynt dderbyn
llai am eu cynhyrchion na'r gost o'i gynhyrchu. Felly rhaid i Lywodraeth Cymru o
hyd fod yn wyliadwrus a yn barod i gefnogi'r diwydiant pan fo'r fath cyfnodau yn
digwydd am gyfnod hir.
Pwysigrwydd
sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu a phryderon amgylcheddol i sicrhau y
gall amaethyddiaeth fod yn gynaliadwy.
Er mwyn sicrhau
bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned
gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r
economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da
o incwm.
Heb os mae y gwahanol bolisïau
i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb
Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig,
cymunedau, treftadaeth a thirwedd. Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig cyfraniad
amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant
amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig
eraill.
Wrth gwrs mae yna le i ofni
oherwydd petai UKIP ac eraill yn y blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain
yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol
ffermio a busnesau gwledig. Ar hyn o
bryd, derbynnir tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal gan busnesau ffermio a cefn
gwlad. Yr dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud os byddai Llywodraeth Prydain yn
gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i
amaethyddiaeth. Felly byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd y arwain at ganlyniadau
difrifol yng nghefn gwlad.
I bwysleisio’r ffaith ar hyn o
bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros ar
cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y DU tu allan i’r Undeb
Ewropeaidd fe fyddai yn wir dyfodol llwm yn gwynebu ffermnio gan mae dim ond
tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o gymorth.
Dyma’r cynnig a basiwyd yn y
gynhadledd:
Mae’r Gynhadledd yn
nodi bod:
1. Amaethyddiaeth a’i diwydiannau
ategol yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, gyda gwerth ychwanegol gros
amaethyddiaeth i economi Cymru yn 2014 yn £374 miliwn.
2. Mae amaethyddiaeth yn darparu’r
asgwrn cefn i gymunedau cefn gwlad, sy’n ganolbwynt ar gyfer creu ffynonellau
eraill o incwm.
3. Y darogan yw y bydd Incwm Busnes
Cyfartalog Ffermydd yng Nghymru yn gostwng i £22,200 yn 2014-15, sy’n golygu
dirywiad o 24% o £29,300 yn 2013-14.
4. Mae cyfartaledd oed amaethwyr Cymru yn
parhau i godi o 60.26 yn 2013, o’i gymharu â 59.58 yn 2010, a 58.47 yn 2007, ac
mae’r bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yn wynebu heriau sylweddol.
5. Mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn, ac
wedi bod erioed ers ei greu, yn gymhorthdal i gynhyrchu bwyd sydd o fudd i’r
manwerthwyr ac i’r defnyddwyr lawn cymaint, o leiaf, ag ydyw i’r prif
gynhyrchydd, ac mae’i berthynas ag incymau ffermydd yn gymhleth.
6. Cynhyrchu bwyd yw un o’r ychydig
prin o ddiwydiannau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr anghenion dynol mwyaf
sylfaenol.
7. Mae yna ddatgysylltiad cynyddol
rhwng cymunedau gwledig a threfol gan esgor ar ddiffyg gwybodaeth sylfaenol am
gynhyrchu bwyd, a gall mentrau megis ‘Cows on Tour / Gwartheg ar Grwydr’, a
gyflwynwyd gan undebau amaethyddol, helpu i fynd i’r afael â hyn.
8. Mae amaethwyr sy’n dymuno moderneiddio’n
eu cael eu hunain fwyfwy’n wynebu rhwystrau cynllunio a all ymestyn y broses yn
annheg a lleihau cost-effeithiolrwydd y camau y mae arnynt angen eu cymryd i
gynnal busnes a all lwyddo.
9. Mae marchnadoedd bwyd byd-eang yn
gynyddol anwadal ac mae pwysigrwydd sicrwydd bwyd mor anhepgor ag y mae wedi
bod ar unrhyw adeg er 1945, gyda hunangynhaliaeth bwyd y DU tua 60%; gostyngiad
o ganran o thua 75% yn 1991.
Mae’r Gynhadledd yn
credu:
1. Ei bod hi’n bwysig cynnal
cynhyrchiant amaethyddol drwy gefn gwlad Cymru i gyd, yn cynnwys cynhyrchiant
iseldir ac ucheldir er lles cymunedau gwledig Cymru yn ogystal ag er lles
amaethwyr.
2. Gofalir am yr amgylchedd naturiol
orau drwy barhad ffermio sydd wedi’i deilwra i anghenion ardaloedd unigol, yn
cynnwys eu hanghenion amgylcheddol.
3. Bydd unedau modern mawrion ac
unedau ar raddfa lai sy’n gallu elwa o farchnata arbenigol yn angenrheidiol ac
yn fuddiol i Gymru a’i hamaethyddiaeth.
4. Dylid cefnogi amaethwyr i ganfod y
llwybr gorau at broffidioldeb a chynhyrchu cynaliadwy, yn dibynnu ar eu
sefyllfa unigol.
5. Dylai cefnogaeth i amaethwyr
barhau i gael ei rhoi i’r holl amaethwyr mewn ffordd deg er mwyn cynnal y
cydbwysedd rhwng bach a mawr, ucheldir ac iseldir.
6. Mae’n rhaid inni gydnabod y bydd
cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dal i ostwng ac y dylid ei ddefnyddio
mor effeithiol â phosibl gyda phwyslais ar gynnal cynhyrchiant priodol o fwyd.
7. Dylai cynnal sicrwydd bwyd fod yn
ganolog i unrhyw benderfyniadau amaethyddol a wneir yng Nghymru a dylai’r cyfryw
benderfyniadau bob amser ystyried eu heffaith hirdymor ar allu Cymru i barhau i
fwydo ei hun.
8. Dylid gwella prosesau cynllunio er
mwyn osgoi cymhlethdodau ac oediadau diangen, a ffafrio cynnal busnesau cadarn
o bob math i gynnal swyddi a safonau byw, gan barhau’n ddigon llym eu safonau i
ddiogelu cymunedau rhag datblygiad amhriodol.
9. Byddai pobl Cymru’n elwa petai
gwybodaeth am gynhyrchu bwyd yn cael ei gwneud yn fwy cyffredinol, yn enwedig o
oed cynnar.
Mae’r Gynhadledd yn
galw ar:
1.Lywodraeth Cymru i weithredu mentrau
polisi i amddiffyn amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd ledled Cymru ac yn
enwedig i ymwreiddio cynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio systemau addas ym mhob
penderfyniad amgylcheddol yng nghefn gwlad Cymru
2.rhwydwaith Cyswllt Ffermio i helpu
amaethwyr a pherchnogion tir ganfod y llwybr gorau i broffidioldeb a
chynaliadwyedd yn ôl eu sefyllfa, yn enwedig i gydnabod pwysigrwydd Swyddogion
Maes a harneisio gwybodaeth leol i fagu hyder a gwytnwch yn y sector ffermio,
gan leihau hyd yr eithaf ar y lefel o wasanaethau ymgynghori generig a ariannir
drwy Gyswllt Ffermio
3. Llywodraeth Cymru i
weithio ag awdurdodau lleol i wella’r broses gynllunio ar gyfer holl fusnesau
Cymru, er mwyn sicrhau'r oedi lleiaf posibl a chefnogaeth hirdymor ar gyfer cynaliadwyedd
cymunedau cyfain.
4. Adolygiad sylfaenol o ganllawiau Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 6 ar ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ’
er mwyn cyflawni gwir gynnydd wrth ddarparu tai cefn gwlad fforddiadwy ledled
Cymru, sy’n bwysig ar gyfer y rhai iau sy’n dechrau ffermio, yn ogystal â
darparu lle byw priodol i amaethwyr sy’n dymuno trosglwyddo i’r genhedlaeth
nesaf.
5. Llywodraeth Cymru i weithio ag Undeb
Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru a Chlybiau Ffermwyr
Ifanc Cymru i gefnogi gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc mewn ardaloedd
trefol ac i fynd â ffermio a chynhyrchu bwyd i mewn i ysgolion ledled Cymru a’r
tu hwnt i ddangos i blant o lefel gynradd, gwledig a threfol, sut y caiff
anifeiliaid eu magu a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a pha gyfraniad a wna hyn
at y genedl.
6. Llywodraeth Cymru i gynnal ei chefnogaeth i
ffermio ledled Cymru mewn modd teg, gan gofio anghenion cymunedau am sector
ffermio cryf ym mhob ardal, wrth i gyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin raddol
ostwng.
7. Adolygiad llawn o gynlluniau
amaeth-amgylcheddol i sicrhau eu bod yn cyflawni ffermio cynaliadwy a rheolaeth
amgylcheddol, ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyllido’n llawn fel bod amaethwyr
yn cael eu gwobrwyo’n deilwng am y gwaith cadwraeth a wnânt.
8. Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhagor ar
gefnogaeth i bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yng Nghymru, gyda phwyslais ar
gyfraniad potensial rhannu ffermio ac arwyddocâd daliadau amaethyddol ym
mherchnogaeth awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu mynediad at y tir.
Rhaglen
S4C o ‘Fon I Fynwy’ Gwynoro yn trafod y dyddiau
gyda Vaughan Hughes.
Go anhebyg y gwelir cyfnod yn
wleidyddiaeth Cymru eto megis yr adeg 1967 -1975 pan fu Gwynfor Evans, Llywydd Plaid
Cymru a Gwynoro Jones ymgeisydd y Blaid Lafur yn brwydro mor frwd yn erbyn eu
gilydd yn etholaeth Caerfyrddin.
Mewn gwirionedd ‘roedd yn
frwydyr bersonol rhyngddynt.
Hefyd welwyd cefnogwyr y
ddwy blaid at yddfau eu gilydd am wyth mlynedd yn ddi-dor. Mae’r papurau lleol
yr etholaeth yn destun i hynny gyda erthyglau a llythyron ynddynt yn wythnosol
a nifer ohonynt yn eitha ffyrnig a milain.
‘Roedd yr ymgyrchu rhyngddynt
yn fywiog, stormus ar brydiau ond hefyd yn llawn egni gyda canoedd yn y ddwy blaid
wrthi.
Oedd canlyniad noswaith y
cyfri yn gwbl anisgwyl. Oedd gan Gwynoro
mwyafrif o bron pedair mil yn 1970. Ond cynhaliwyd yr etholiad yng nghanol
streic y glowyr a hefyd pan fu pobl yn gweithio ond tri diwrnod yr wythnos a
toriadau i ddefnydd o drydan. ‘Roedd y glowyr a’r undebau llafur ddim yn
boblogaidd o bell ffordd.
Dechreuwyd y cyfri am ddeg
ar y nos Iau yn ol yr arfer ond ni gwblhawyd y cyfri hyd tua wyth o’r gloch ar
y nos Wener!
Gallai safonau mewn
perfformiad a darpariaeth addysg yng Nghymru fod yn well o lawer
Yn
gyffredinol y dyddiau hyn pan yn ffurfio barn ynghylch perfformiad annerbyniol neu
wael unrhyw sefydliad, corff cyhoeddus neu hyd yn oed unigolyn yr ymadrodd a
ddefnyddir yw 'ddim yn addas i’r pwrpas‘. Heb gwestiwn mae hyn yn berthnasol
bellach i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis – ond ddof nol at y pwnc mewn post arall
cyn bo hir.
Mae'n deg
nodi bod arwyddion o welliant yn y ein hysgolion mewn materion megis presenoldeb,
triwantiaeth, lles disgyblion, agweddau ar addysgu a dysgu, hunanarfarnu a
chynllunio ar gyfer gwella a gostyngiad yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn
addysg neu hyfforddiant mewn meysydd penodol.
Ond yn y maes allweddol sef y
safonau mae yna le sylweddol i wella. Yn wir mae’r Gweinidog Addysg presennol
a'i ragflaenydd yn cytuno â mi gydag un pwyntio at 'ddifaterwch' pan yn trafod
canlyniadau PISA a’r llall yn nodi 'gwendidau systemig' yn y gwasanaeth addysg.
Tra yn
edrych ar y pwyntiau allweddol a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol
diweddara mewn perthynas a’r ysgolion a arolygwyd, mae’n deg i nodi fod
perfformiad yn erbyn nifer o ddangosyddion wedi gwella ‘ond yn raddol iawn’.
Dangosyddion megis cyfraddau presenoldeb, triwantiaeth a y bwlch mewn
perfformiad rhwng isgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a
disgyblion eraill yn lleihau.
Ond ar y
cwestiwn mawr sut mae’r plant a’r ysgolion yn perfformio wrth edrych ar y safonau mae yna bryderon yn dal i fod o hyd. Mae
yna heriau pwysig yn parhau megis:
Gostyngiad
mewn safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd a fod cyfran yr ysgolion
cynradd â ' safonau 'da' neu 'ardderchog' wedi gostwng i 6 o bob 10. Felly mae
4 o bob 10 yn 'ddigonol' yn unig (mewn geiriau eraill ocê!). Y broblem ganolog
oedd gwendid yn sgiliau rhifedd disgyblion a’r diffyg hyder y disgyblion o ran
defnyddio’r medrau hyn mewn pynciau eraill, ond mae’r sefyllfa hyn wedi bod yn
destun pryder ers blynyddoedd.
Dwed Estyn
fod safonau mewn llythrennedd wedi gwella 'ychydig' mewn perthynas a medrau
ysgrifennu y plant ond fod y gwelliant yn ‘fwy’ yn y Cyfnod Sylfaen nag yng
nghyfnod allweddol 2 ( disgyblion oedran 7 -9/10 ). Mae’r ffaith olaf yn bryder
parhaus.
Er bod y
safonau mewn ysgolion uwchradd yn gwella i’w gymharu a ‘pherfformiad cymharol
wan‘ y flwyddyn cynt, erys cryn ffordd i fynd. Dim ond 50% o'r ysgolion a
arolygwyd oedd yn cyflawni safonau 'rhagorol neu dda'. Felly, mae yna llawer
iawn ohonynt yn y blwch 'digonol' – yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Nodwyd bod
angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â
darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwy abl a dawnus.
Un ffaith
sydd yn sefyll allan yn Adroddiad Blynyddol Estyn ac o bosib sydd yn crynhoi y
sefyllfa sef ers 2010 mae yna nifer gynyddol o ysgolion ac angen monitro pellach arnynt yn dilyn eu harolygiad ‘craidd’
cychwynnol. Dwed yr adroddiad fod y nifer o ysgolion sy’m mynd mewn i gategori ‘gweithgarwch
dilynol’ wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Dros bron yr ugain
mlynedd ’roeddwn yn arolygu ’roedd ymroddiad, a phroffesiynoldeb staff ysgolion
yn ddi gwestiwn ond yn amlwg mae angen mynd i’r afael a’r diffygion yn llawer
mwy treiddgar a grymus.
Cyfeiriwyd
hefyd at ddau agwedd oedd yn peri pryder sef y safonau mewn Cymraeg ail iaith ‘ddim
yn gwella’ ac nid yw ysgolion yn asesu gwaith disgyblion ddigon cywir a cadarn.
‘Roedd y rhain yn faterion o bryder drwy gydol y blynyddoedd yr oeddwn yn arolygwr, felly dim llawer wedi symud ymlaen.
Pan oeddwn
yn arolygu ‘roedd yr adroddiadau byth a beunydd yn tynnu sylw fod angen ar yr
ysgolion i wella cywirdeb a chysondeb gwaith asesu athrawon gan gynnwys yr
angen i esbonio’n glir i ddisgyblion sut i wella eu gwaith. Un peth arall oedd
yn amlwg yn gymharol amal pan wrth ein gwaith sef wrth edrych ar lyfrau’r
disgyblion yn ystod arolygiadau ’roeddwn yn canfod fod diffyg cyfatebiaeth rhwng
y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a nodwyd gan yr athrawon ac ansawdd gwaith y
disgyblion yn y dosbarth neu y llyfrau gwaith cartref.
Os ceir ddiffygion yn yr Asesu fe ganlyn diffygion mewn cyrraedd arfraniadau cywir sydd mor
hanfodol nid yn unig i’r disgyblion a’r rhieni ond hefyd sydd yn codi
cwestiynau am brosesau hunanarfarnu yr ysgol. Ymhellach nid oes gan arweinwyr
ysgolion, gan gynnwys y llywodraethwyr, wybodaeth cywir am berfformiad y disgyblion
ac felly ni allant farnu beth sydd yn gweithio’n dda er mwyn codi safonau a pherfformiadau.
Nawr nid oes
angen mynd ymhellach er mwyn dechrau deall pam mae Cymru mor isel lawr y tabl gymhariaeth ryngwladol ar safonau
addysg (PISA). Allan o 65 o wledydd mae y canlyniadau yn dangos yn y pynciau
craidd ( Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) fod Cymru yn 43 at y tabl,
Gogledd Iwerddon 33, Lloegr a'r Alban fwy neu lai yr un fath ar 25ain. Wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn
y proffesiwn addysg yn ceisio dweud bod cymariaethau o'r fath yn ddiystyr.
Esgus ydy hynny ac mewn gwirionedd y maent yn arwyddocaol dros ben ac fe geir
wendidau sylfaenol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.
Wrth orffen
pan yn arolygu ‘roedd tua 70% o’r ysgolion bob amser yn cwyno am y diffyg
cymorth a chanllawiau proffesiynol yr oeddent yn gael gan eu hawdurdodau addysg
lleol. Roedd yn nodwedd gyffredin. Ond nid yw'n syndod oherwydd yn y
blynyddoedd diwethaf mae 9 awdurdod lleol, ar adegau amrywiol, wedi cael eu
gosod yn y categori mewn angen o 'mesurau arbennig' a hefyd bod angen cymorth
sylweddol arnynt er mwyn sicrhau gwelliant.
Ymdrinais â rhai o'r materion hyn yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Y peth a roddodd boddhad imi oedd gwrando ar
sawl un o'r cynrychiolwyr a siaradodd a oedd yn deall natur yr hyn sydd yn
ddiffygiol yn system addysg Cymru. Yr oedd yn drafodaeth wybodus.
Dyma y
cynnig polisi terfynol a cytunwyd arno ar ôl pasio sawl gwelliant:
Mae’r Gynhadledd yn nodi bod:
1. Cymru wedi colli tir yn sylweddol yn erbyn
gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ôl
rhestrau PISA gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd;
2. Nid yw Llywodraeth Cymru’n pennu safonau
gofynnol ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
3. Prifathrawon ac athrawon i
gyflawni’r canlyniadau gorau wrth roi hyblygrwydd a chefnogaeth iddynt, nid
drwy’u llethu â mân-reolau gan lywodraeth ganol;
4. Mae hi yn aml yn well gwella atebolrwydd a
pherfformiad drwy reoli risg, yn hytrach na thrwy gynyddu rheolaeth;
5. Effaith bositif Premiwm Disgyblion
Cymru, sydd, yn ôl dadansoddiad annibynnol, wedi arwain at “faint sylweddol o
weithgaredd newydd” a anelir at gefnogi disgyblion difreintiedig.
Mae’r Gynhadledd yn
credu:
1. Bod yn rhaid inni fod yn blaid
dros gyfleoedd, sy’n galluogi pobl ledled Cymru i wneud cynnydd yn eu bywydau.
2. Nad oes yna ddim yn flaengar
ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus gwael, ac mae’n rhaid inni ganfod ffyrdd newydd
ac arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n ochri â rhieni, disgyblion a
chleifion.
3. Y dylid rhyddhau unigolion oddi
wrth lywodraeth gyfyngol, a grymuso arweinwyr i arwain gan sicrhau bod safonau
gofynnol yn cael eu cyrraedd a bod atebolrwydd yn gryf ac yn dryloyw.
4. Dylid rhoi’r ymreolaeth i
brifathrawon wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu disgyblion.
5. Mae gweithwyr proffesiynol ac
arbenigwyr yn gwybod yn well na gwleidyddion beth ddylid ei gynnwys yng
nghwricwlwm ysgolion a sut y dylid rheoli ysgolion.
6. Ni ddylid rhedeg ysgolion er elw, na’u
gweithredu gan gwmnïau preifat.
Mae’r Gynhadledd yn galw am:
1. cyflwyno monitro disgyblion
unigol, ac ar gyfer ysgolion nad yn ategu datblygiad pob disgybl i gael eu
gosod yn awtomatig mewn mesurau arbennig yn ddigonol.
2. Sicrhau bod plant yn cael y sylw
unigol y mae arnynt ei angen drwy gyflwyno dosbarthiadau ag uchafswm niferoedd
disgyblion o 25 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 (Dosbarth
Derbyn, Blwyddyn 1, a Blwyddyn 2).
3. Ehangu’r Premiwm Disgyblion i’n
targed o £2,500 y disgybl y flwyddyn rhwng 5 - 15 oed, ac i £1000 y disgybl y
flwyddyn o dan 5 oed.
4. Creu un awdurdod sengl i bennu
cynnwys y cwricwlwm yng Nghymru, yn annibynnol o ymyrraeth y Llywodraeth, gan
gynnal grymoedd Gweinidogol i bennu’r cyfeiriad cyffredinol ehangach.
5. Cyfarwyddyd ar Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd -cwricwlwm dros oes - llythrennedd ariannol, cymorth cyntaf a
sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, addysg wleidyddol, dinasyddiaeth ac addysg
rhyw a pherthynas sy’n briodol yn ol oed. .
6. Sefydlu Academi Arweinyddiaeth Cymru i hyrwyddo arweinyddiaeth o ansawdd
uchel a helpu arweinwyr gorau i weithio yn yr ysgolion mwyaf heriol.
7. Caniatáu i ysgolion sydd wedi dangos gwerthoedd allweddol arweinyddiaeth,
arloesi a gwella i ennill pwerau newydd ac ymreolaeth oddi wrth lywodraeth lleol
a Llywodraeth ganolog, darparu ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth. Dylid gwneud
hyn mewn ffordd sy'n nid yw yn lleihau gallu'r awdurdodau lleol a etholwyd yn
ddemocrataidd i deg ac yn effeithiol reoli'r ddarpariaeth o leoedd ysgol ar
draws yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu, neu i ymyrryd lle bo angen i
sicrhau bod y ddarpariaeth o safonau addysgol priodol.
8. Cryfhau atebolrwydd drwy roi
grymoedd ychwanegol i lywodraethwyr ysgol i rybuddio, disgyblu neu ddiswyddo
prifathrawon nad ydynt yn bodloni targedau y cytunwyd arnynt ar y cyd.
9. Cyflwyno rhaglen Prifathrawon
Dawnus i ddenu’r arweinwyr gorau i’r ysgolion lle mae’u hangen fwyaf.
10. Ei gwneud hi’n ofynnol i
awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Prifathrawon o fewn eu hardaloedd i helpu
ysgolion i wella ac i gynghori’r awdurdod lleol ar opsiynau o ran ymyrraeth a
chefnogaeth.
11. Galluogi mwy o reolaeth i
brifathrawon dros gyllideb eu hysgol.
12. Diddymu y consortia addysgol
rhanbarthol.
13. Sicrhau cynrychiolaeth etholedig
cymheiriaid o’r proffesiwn addysgu ar Gyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau ei fod
yn atebol yn iawn