‘Roedd yn adeg ‘rations’ a ‘coupons’ pan oedd llawer o fwydydd hanfodol
a chynhyrchion eraill yn brin iawn ac fe fu hyn mewn bodolaeth hyd at ddechrau
y pumdegau cynnar.
Hefyd oedd anrhegion ac addurniadau yn brin iawn hefyd ac yn wir fy
anrhegion Nadolig cyntaf oedd rhai pren a wnaeth fy nhad – ‘roedd yn saer coed
- pethau megis berfa a ceffyl pren ar olwynion. Ar ol hynny esgidiau rygbi a
crys coch megis tim Cymru! Ychydig ar ol hynny daeth Meccano, Beano, Dandy,
Radio Fun ac yn y blaen.
Cefais fy nghodi mewn pentref o'r enw Foelgastell yng ngorllewin Cymru.
Nid oedd trydan na cyflenwadau dŵr yn y tŷ tan tua 1950. Felly hyd hynny ‘roedd
y dŵr yn cael ei gasglu mewn ‘sten’ o ffynnon tua pedwar can llath i ffwrdd.
Fu Capel Peniel yn ganolog i fywyd yr aelwyd trwy cyfnod tyfu i fyny hyd at ymhell dros saith degau. Hefyd hyd at y chwe degau ‘roedd gwasanaeth am 6 o'r gloch bore dydd Nadolig.
Oes dra whanol iawn!
Oes dra whanol iawn!
Un o'r atgofion mwyaf cofiadwy sydd gennyf oedd yr eira mawr yn 1947 a fu
yn gyfnod stormydd eira y mwyaf yn yr ugeinfed ganrif - gyda lluwchfeydd 10 troedfedd a mwy.
Parhaodd yr
eira ar y ddaear am ychydig fisoedd.
Ar y bore oedd yr eira wedi cyrraedd cofiaf fynd i lawr y grisiau gyda
fy mam, ac wrth iddi agor y llenni oedd y cyfan yn wyn – oedd yr eira hyd at
lefel ffenestri. Nid hawdd fu hi i fynd allan ond fe llwyddod fy nhad a 'm tadcu
wneud ta beth. Pan aethom allan i’r brif ffordd roedd gweithwyr cyngor yn
gweithio ar lefel y gwrychoedd. Cofiwch oedd dim JCB neu pethau cyffelyb ond
rawiau!
Beth bynnag mae’r fideo yn adrodd y stori.