Petai UKIP ac eraill yn y
blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna
heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol ffermio, busnesau, gwasanaethau,
a economi cymunedau gwledig Cymru.
I bwysleisio’r ffaith, ar hyn
o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros
ar cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y Deyrnas Unedig (DU)
tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai yn wir y byddai dyfodol llymach yn gwynebu ffermio. Amcangyfrifir mae dim ond tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o
gymorth.
Hefyd ar hyn o bryd, derbynnir
gan y DU tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer busnesau ffermio a cefn
gwlad. Y dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud pe byddai Llywodraeth Prydain yn
gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i
amaethyddiaeth.
Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm.
Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm.
Heb os mae y gwahanol bolisïau
i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb
Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig,
cymunedau, treftadaeth a thirwedd.
Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig
cyfraniad amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant
amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig
eraill.
Bydd gadael yr Undeb
Ewropeaidd yn drychineb i gefn gwlad.