Er bod yr arolygon barn yn y DU a Chymru yn taflu cysgod dros y blaid mae
aelodau'r blaid mewn hwyliau bywiog, yn benderfynol o ymladd yn ol ac ail-adeiladu.
Tua mis yn ol fe wneuthum y cyntaf o bedwar o gyfraniadau yng
nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe. Hwn oedd y gynhadledd wleidyddol
gyntaf i mi siarad ynddi ers 1992 ac yr oeddwn braidd yn ansicir ac yn wir ychydig
yn 'rhydlyd' yn fy areithio. Roedd hyn i gyd yn anochel mae'n debyg ar ôl bron
25 mlynedd tu allan i’r berw!
Ers 1992 ‘roedd pethau wedi newid tu hwnt i fy adnabyddiaeth o’r
gorffenol ac roedd y cyfryngau yn absennol,
ond serch hynny roedd y presenoldeb yn dda a beth oedd yn fy
nghalonogi'n oedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn bresennol.
Y ddadl gyntaf imi gymryd rhan ynddi oedd datblygu maniffesto ar gyfer
etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Y cynnig gerbron y gynhadledd oedd ymadrodd
Kirsty Williams ers talwm, ' Mapio’r Daith ar Gyfer 2016’. Y pwrpas oedd darparu
cyfeiriad clir i’r blaid ar gyfer yr etholiad. Yn sicr roedd yn cwrdd a’r amcan
hwnnw.
Yr oeddwn yn awyddus i nodi bod i gyrraedd unrhyw gyrchfan rhaid inni
ddilyn yr arwyddbyst sydd yn rhoi cyfeiriad. Mewn geiriau eraill ni yw
maniffesto yn ennill etholiad ond yn hytrach negeseuon clir a chryno ar ychydig
themâu sydd yn gadael argraff barhaol yn feddwl yr etholwyr.
I mi mae yr arwyddbyst yn glir –
Cael Cymru mwy agored a democrataidd gan gynnwys Cynulliad fwy cynhwysol
ac ystyriol – sydd yn herio yn fwy agored, dal pobl i gyfrif ac yn un sydd yn
llywodraethu ar gyfer Cymru gyfan;
Codi effeithiolrwydd, lefelau darpariaeth, effeithlonrwydd a safonau o
fewn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol;
Sicrhau bod hfyniant, buddsoddi, datblygiad economaidd ac adfywio, annog
menter yn cael eu rannu ledled Cymru;
Diogelu ein hamgylchedd naturiol, cefnogi amaethyddiaeth, yr economi
wledig a thwristiaeth;
Cryfhau lle Cymru yn gwleidyddiaeth y DU ac Ewrop a
Ddiogelu ein treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth.
Credaf fod ‘Mapio’d Daith‘ yn cwmpasu’r chwech arwyddbyst yn dda iawn.
Isod ceir fideo sydd bennaf yn y Saesneg o fy nghyfraniad byr (fodd
bynnag nid yw ansawdd y sain yn cyrraedd y safon arferol).
Credaf ei
bod yn gwbl bosibl i’r Democratiaid Rhyddfrydol cael canlyniad gwell na’r
disgwyl ar y foment yma Mai nesaf. Fe all ddigwydd gyda negeseuon strategol clir, ymgyrchu effeithiol a
strategaeth gyfathrebu sydd wedi'i gynllunio'n dda yn y ddwy iaith.
Mapio’r Daith ar Gyfer 2016: Cynnig
ar gyfer y Maniffesto
Y Pwyllgor Polisi Cenedlaethol
Mae’r Gynhadledd yn nodi:
1. Cynhelir etholiadau ar gyfer
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai, 2016.
2. Democratiaid Rhyddfrydol
Cymru sydd â’r gwreiddiau dyfnaf o holl bleidiau
gwleidyddol Cymru, a hwythau
wedi bod ar flaen y gad â diwygio blaengar a radical ers dros 150 o
flynyddoedd.
3. Y prif orchwylion yn wynebu
Llywodraeth nesaf Cymru fydd:
a. Datblygu gwasanaethau
cyhoeddus effeithiol ac wedi’u canoli ar y bobl pan fo
gwasgu ar gyllidebau,
b. Tyfu’n heconomi er budd pawb,
a
c. Rhoi’r cyfle i bawb mewn
cymdeithas i lwyddo mewn bywyd, iddyn’ nhw’u hunain
ac i’w teuluoedd.
Mae’r Gynhadledd yn credu:
1. Y gall Cymru ond cyflawni’i
photensial drwy fanteisio hyd yr eithaf ar gryfderau Cymru, megis ein
diwylliant, ein hadnoddau, ac yn anad dim, ein pobl, a thrwy lywodraethu da gan
lywodraeth sy’n gwerthfawrogi tryloywder a chraffu.
2. Ar adeg o ragor o dynhau ar
gyllidebau, mae ar Gymru angen meddylfryd arloesol i wella gwasanaethau
cyhoeddus i ddiwallu anghenion cleifion, disgyblion a rhieni ac i gyflawni
cyfiawnder cymdeithasol.
3. Bod ar bobl ym mhobman yng
Nghymru angen cael dweud eu dweud fwy ynglŷn â sut y cânt eu llywodraethu, yn neilltuol yn eu
hardaloedd lleol eu hunain.
Mae’r Gynhadledd yn penderfynu cyflwyno polisïau i etholwyr
Cymru sy’n cynrychioli’n gwerthoedd rhyddfrydol a’n gweledigaeth i adfywio
Cymru, ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi I ddatblygu maniffesto radical ac
arloesol i:
1. Gryfhau’n heconomi ac i annog
entrepreneuriaeth a thwf, yn cynnwys:
a. Cyflenwi strategaeth
economaidd gytbwys, integredig, â phwyslais ar allforio;
b. Datganoli mwy o rymoedd i
ardaloedd lleol;
c. Ysgogi’r stryd fawr;
ch. Ehangu prentisiaethau; a
d. Chwtogi’n sylweddol ar
fân-reolau beichus i roi’r cyfle i fusnesau ffynnu.
2. Sicrhau bod y GIG yn canoli
gofal ar urddas, cydymdeimlad, a dewis i unigolion mewn amgylchedd glân, diogel
ac a reolir yn dda drwy;
a. Sicrhau lefelau diogel o
nyrsys ar wardiau Cymru;
b. Gwarantu’r driniaeth orau i
gleifion, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, yn cynnwys
gwella modd o gael at eich
Meddyg Teulu;
c. Rhoi diwedd ar gamwahaniaethu
ym maes iechyd meddwl a gwella cefnogaeth i
bobl ag anghenion dysgu
ychwanegol.
3. Datblygu cyfundrefn addysg
sy’n helpu plant i ffynnu ac sy’n grymuso disgyblion a
rhieni drwy:
a. Helpu plant a chefnogi rhieni
â darpariaeth gofal plant effeithiol;
b. Hyrwyddo blynyddoedd cynnar
gan ddarparu dosbarthiadau llai o faint;
c. Darparu hyblygrwydd a rhyddid
i athrawon arwain;
ch. Cynyddu cyllid drwy Bremiwm
Disgybl Cymru;
d. Sicrhau modd teg o gael
addysg bellach ac addysg uwch.
4. Cefnogi cymunedau gwledig, yn
neilltuol drwy sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant
amaethyddol.
5. Sicrhau bod pawb yn gallu
cael cyfle am dŷ
o ansawdd da am bris
fforddiadwy.
6. Diogelu’n hamgylchedd
naturiol a chynyddu’n hadnoddau ynni adnewyddadwy.
7. Sicrhau bod trafnidiaeth
gyhoeddus ledled Cymru yn effeithlon ac yn hygyrch, yn
enwedig mewn ardaloedd cefn
gwlad.
8. Diwygio’r ffordd rydym yn
ymwneud â gwleidyddiaeth, gan roi pwyslais ar ddatganoli grym hyd at y lefel
ymarferol isaf, grymuso cymunedau, a sicrhau atebolrwydd ar bob lefel.
9. Sicrhau bod gan bawb yr hawl
i siarad Cymraeg yn eu bywyd dyddiol a bod ganddynt yr hawl i addysg a
gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg sydd o ansawdd raenus.
10. Lledaenu gweledigaeth unol o
genedl hunan-hyderus, sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn y Deyrnas Unedig ac
yn Ewrop.